Y Swistir
Mae'r Swistir (enw Lladin swyddogol: Confoederatio Helvetica, Almaeneg: Schweiz, Ffrangeg: Suisse, Eidaleg: Svizzera, Romaunsch: Svizra) yn wladwriaeth ffederal yng nghanol Ewrop, ac felly heb arfordir. Mae'n ffinio â'r Almaen, Ffrainc, yr Eidal, Awstria a Liechtenstein. Bern ydy'r brifddinas, a Zürich ydy'r ddinas fwyaf. Mae'n wlad fynyddig iawn ac mae rhan helaeth o'r Alpau o fewn ei ffiniau.
Mae'r Swistir yn un o wledydd cyfoethocaf y byd 'per capita', gyda thraddodiad cryf o fod yn niwtral yn wleidyddol ac yn filwrol. Serch hynny, mae'r Swistir wedi bod yn flaenllaw ym myd cydweithrediad rhyngwladol, gan roddi cartref i nifer o fudiadau rhyngwladol megis Y Groes Goch.
Mae'r enw Lladin ar y wlad Confoederatio Helvetica yn osgoi gorfod dewis un o bedair iaith swyddogol y wlad, sef Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg a Romaunsch.
Hanes
- Prif: Hanes y Swistir
Yn y cyfnod Rhufeinig, roedd nifer o lwythau Celtaidd yn byw yn yr ardal sy'n awr yn ffurfio'r Swistir. Y pwysicaf o'r rhain oedd yr Helvetii. Daw enw swyddogol Lladin y Swisdir, Confoederatio Helvetica neu Helvetia, o enw'r llwyth yma. Ceir manylion amdanynt gan Iŵl Cesar yn ei Commentarii de Bello Gallico. Dywed Cesar fod un o uchelwyr yr Helvetii, Orgetorix, wedi cynllunio i'r holl lwyth ymfudo o ardal yr Alpau i orllewin Gâl. Gadawodd yr Helvetii eu cartrefi yn 58 CC. Erbyn iddynt gyrraedd ffîn tiriogaeth yr Allobroges, roedd Cesar wedi malurio'r bont yn Genefa i'w hatal rhag croesi. Gyrrodd yr Helvetii lysgenhadon i ofyn am ganiatad i fynd trwy'r tiriogaethau hyn, ond wedi i Cesar gasglu ei fyddin ynghyd, gwrthododd roi hawl iddynt basio. Dilynodd yr Helvetii lwybr arall, trwy diriogaethau'r Sequani, ac anrheithio tiroedd yr Aedui, a ofynnodd i Cesar am gymorth. Ymosododd Cesar arnynt wrth iddynt groesi Afon Saône, a'u gorchfygu. Gorchfygwyd hwy eto ger Bibracte, a bu raid iddynt ildio i fyddin Cesar yn fuan wedyn. Gorchmynodd iddynt ddychwelyd i'w hen diriogaethau.
Sefydlwyd y Swistir ar 1 Awst 1291, pan ddaeth tri canton, Uri, Schwyz ac Unterwalden, at ei gilydd a gwneud cytundeb i gynothwyo ei gilydd i ddod yn annibynnol ar frenhinllin yr Habsburg.
Cydnabyddwyd annibyniaeth y Swisdir yn Heddwch Westffalia yn 1648, a roddodd ddiwedd ar y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Ychwanegodd cantonau eraill ei hunain at y conffederasiwn dros y blynyddoedd.
Yn ystod y Chwyldro Ffrengig, newidiwyd y dull o lywodraethu, a sefydlwyd y Weriniaeth Helfetaidd fel gweriniaeth ganolog. Fodd bynnag, dychwelwyd at drefn conffederasiwn yn 1803.
Bu'r Swistir yn niwtral yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd.
Daearyddiaeth
- Prif: Daearyddiaeth y Swistir
Dominyddir daearyddiaeth y Swistir gan ei mynyddoedd a'i bryniau. Saif y Swistir yng nghanolbarth Ewrop fel gwlad tirgaeëdig, felly nid oes ganddi arfordir. Yn y de mae prif gadwyn yr Alpau yn ymestyn ar hyd y ffin â'i copaon uchaf yn dynodi'r ffin honno. Copa uchaf y Swisdir yw'r Dufourspitze, 4634 medr o uchder. Ymhlith copaon enwocaf yr Alpau Swisaidd mae'r Matterhorn, yr Eiger a'r Jungfrau. Yn y canolbarth mae llwyfandir, tra yn y gogledd-orllewin mae mynyddoedd y Jura o gwmpas y ffîn a Ffrainc. Mae'r mynyddoedd hynny a'r bryniau llai sy'n llenwi'r rhan fwyaf o ganolbarth a gogledd y wlad yn cael eu gwahanu gan nifer o ddyffrynoedd a chymoedd mawr a bach.
Y mae'r Swistir yn wlad â nifer fawr o lynnoedd ac afonydd yn ogystal. Rhennir y ddau lyn mwyaf, Llyn Léman (Llyn Genefa) (581.3 km2) a'r Bodensee (541.1 km2) gyda gwledydd eraill. Y llyn mwyaf sy'n gyfangwbl o fewn y Swistir yw Llyn Neuchâtel (218.3 km2). Mae'n wlad goediog iawn.
Defnydd tir
- cnydau: 10%
- cnydau parhaol: 2%
- porfa barhaol: 28%
- fforestydd a choedydd:32%
- arall:28% (amcangyfrif 1993)
Llywodraeth
- Prif: Cantons y Swistir
Demograffeg
- Prif: Demograffeg y Swistir
Saif y Swistir yng nghanolbarth Ewrop, ac mae'n fan cyfarfod i nifer o ddiwylliannau Ewrop, gan fod y wlad yn ffinio â Ffrainc, yr Almaen a'r Eidal. Mae 75% o'r boblogaeth yn byw ar y llwyfandir yng nghanol y wlad, rhwng yr Alpau a mynyddoedd y Jura ac o ddinas Genefa yn y gorllewin hyd at afon Rhein a'r Bodensee yn y gogledd-ddwyrain. Mae gan y wlad safon byw gyda'r uchaf yn y byd.
Ceir nifer sylweddol o drigolion nad ydynt yn ddinasyddion y Swistir; 1,524,663 (20.56%) yn 2004, o'i gymharu a tua 5.9 miliwn o ddinasyddion yr un flwyddyn. Roedd tua 623,100 o ddinasyddion y Swistir yn byw mewn gwledydd eraill, y nifer fwyaf yn Ffrainc (166,200).
O ran crefydd, disgrifia 5.78 miliwn (79.2%) o'r trigolion eu hunain fel Cristnogion yn 2000 (Catholig 41.8%, Protestaniaid 35.3%, Eglwys Uniongred 1.8%). Roedd 809,800 (11.1%) heb grefydd, 310,800 (4.3%) yn ddilynwyr Islam a 17,900 (0.2%) yn Iddewon.
Dinasoedd
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/71/Zuerich_vier_Kirchen.jpg/220px-Zuerich_vier_Kirchen.jpg)
Dinasoedd mwyaf y Swistir yn ôl poblogaeth yw:
Rhif | Enw | 1995 | 2000 | 2005 | 2006 | Canton |
---|---|---|---|---|---|---|
1. | Zürich | 343869 | 337900 | 347517 | 350125 | Zürich |
2. | Genefa | 173549 | 174999 | 178722 | 178603 | Genefa |
3. | Basel | 174007 | 166009 | 163930 | 163081 | Basel Ddinesig |
4. | Bern | 127469 | 122484 | 122178 | 122422 | Bern |
5. | Lausanne | 115878 | 114889 | 117388 | 118049 | Vaud |
6. | Winterthur | 87654 | 88767 | 93546 | 94709 | Zürich |
7. | St. Gallen | 71877 | 69836 | 70316 | 70375 | St. Gallen |
8. | Lucerne | 58847 | 57023 | 57533 | 57890 | Lucerne |
9. | Lugano | 26000 | 25872 | 49223 | 49719 | Ticino |
10. | Biel | 50733 | 48840 | 48735 | 49038 | Bern |
11. | Thun | 39094 | 39981 | 41138 | 41177 | Bern |
12. | Köniz | 36335 | 37196 | 37250 | 37226 | Bern |
13. | La Chaux-de-Fonds | 37375 | 36747 | 36809 | 36713 | Neuchâtel |
14. | Schaffhausen | 34073 | 33274 | 33569 | 33459 | Schaffhausen |
15. | Fribourg | 32501 | 31691 | 33008 | 33418 | Fribourg |
16. | Chur | 30091 | 31310 | 32409 | 32441 | Graubünden |
17. | Neuchâtel | 31768 | 31639 | 32117 | 32333 | Neuchâtel |
18. | Vernier | 28423 | 28727 | 30020 | 30606 | Genefa |
19. | Uster | 26139 | 27893 | 29855 | 30144 | Zürich |
Ieithoedd
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/3a/Sprachen_CH_2000_fr.png/300px-Sprachen_CH_2000_fr.png)
Ceir nifer o ieithoedd swyddogol yn y Swistir. Almaeneg yw mamiaith y nifer fwyaf o'r trigolion, 63.7% yn ôl cyfrifiad 2000. O 26 canton y Swistir, Almaeneg yw iaith 17 ohonynt. Siaredir nifer o dafodieithoedd Almaeneg y Swistir, Schwyzerdütsch, a dim ond yn y sefyllfaoedd mwyaf ffurfiol y defnyddir Almaeneg safonol (Hochdeutsch).
Siaredir Ffrangeg fel mamiaith gan 20.4% o'r boblogaeth, yng ngorllewin y wlad yn bennaf. Ffrangeg yw iaith swyddogol pedair canton: Genefa, Jura, Neuchâtel a Vaud, gyda thair arall yn ddwyieithog gyda Ffrangeg yn un o'r ieithoedd swyddogol. Siaredir Eidaleg fel iaith gyntaf gan 6.5%, yn y de yn bennaf, ac mae'n iaith swyddogol canton Ticino. Siaredir Romawns gan 0.5%, yn bennaf yng nghanton Grisons. Roedd tua 9% a mamiaith nad oedd yn un o ieithoedd swyddogol y Swistir.
Economi
- Prif: Economi y Swistir
Gweler hefyd
Dolenni allanol
- (Saesneg) Llywodraeth y Swistir
Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol