Neidio i'r cynnwys

Llangelynnin, Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Llangelynnin
Mathcymuned, pentrefan Edit this on Wikidata
Poblogaeth639 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.6433°N 4.1123°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000080 Edit this on Wikidata
Cod OSSH570071 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Am y plwyf o'r un enw ym mwrdeistref sirol Conwy, gweler Llangelynnin, Conwy.

Pentrefan, chymuned a phlwyf eglwysig yng Ngwynedd, Cymru, yw Llangelynnin[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif i'r gogledd o dref Tywyn, ger priffordd yr A493 ac uwchben y môr. Mae cymuned Llangelynnin hefyd yn cynnwys pentref Llwyngwril a phentref bychan Rhoslefain.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Eglwys Llangelynnin drwy'r Porth

Prin y gellir galw Llangelynnin yn bentrefan o gwbl, gan mai dim ond llond dwrn o adeiladau gwasgaredig ydyw; ei ganolbwynt yw Eglwys Sant Celynnin, sy'n dyddio o'r 13g. Yn y fynwent, mae bedd Abram Wood, sylfaenydd tylwydd enwocaf y Sipsiwn Cymreig. Mae lein Rheilffordd y Cambrian gerllaw. Mae'r eglwys ar ochr y mynydd, nid nepell o'r môr.

Pobl o Llangelynnin

[golygu | golygu cod]

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangelynnin (Meirionnydd) (pob oed) (673)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangelynnin (Meirionnydd)) (273)
  
41.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangelynnin (Meirionnydd)) (281)
  
41.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llangelynnin (Meirionnydd)) (133)
  
43.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 17 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.