Neidio i'r cynnwys

Dinas, Llŷn

Oddi ar Wicipedia
Dinas
Mathpentrefan, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.894301°N 4.571057°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Pentref bychan yn Llŷn, Gwynedd yw Dinas ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn y bryniau tua 5 milltir i'r de-orllewin o Nefyn, ar y lôn i Sarn Mellteyrn wrth droed Carn Fadryn (1,217').

Ystyr gynnar y gair dinas oedd "caer" neu "amddiffynfa", ac mae'n bosibl y daw'r enw o'r ffaith fod bryngaer cynhanesyddol a chastell canoloesol ar ben copa Carn Fadryn ger y pentref.

Mae pentrefi cyfagos yn cynnwys Tudweiliog i'r gorllewin, ger yr arfordir.

Treuliodd y llenor Methodistaidd Robert Jones, Rhoslan sawl blwyddyn yn byw yn Ninas.


Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato