Castell
Enghraifft o: | math o adeilad |
---|---|
Math | amddiffynfa |
Yn cynnwys | cwrt mewnol, Gorthwr, mur amddiffynnol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Castell (benthyciad o'r Lladin castellum; Llydaweg Canol castell, Gwyddeleg Canol caisel. Lluosog Cestyll.) yn adeilad sydd wedi'i amddiffyn yn gryf. Math arbennig o amddiffynfa a ddatblygwyd yn yr Oesoedd Canol yw castell, ond mae ei gynseiliau'n gorffwys yng nghyfnod pobl fel y Celtiaid yn Oes yr Haearn a godai fryngaerau niferus, a'r Rhufeiniaid a godai gaerau ledled Ewrop a'r Môr Canoldir. Ceir traddodiad o godi cestyll mewn nifer o wledydd eraill hefyd, er enghraifft yn Tsieina a Siapan.
Datblygiad cestyll yn Ewrop yr Oesoedd Canol
[golygu | golygu cod]Dros y canrifoedd newidiodd y cestyll o wneuthuriad pren i gestyll cerrig, ac yn ddiweddarach, o fod yn amddiffynfa i fod yn blas neu gartref. Bellach maen nhw wedi newid o fod yn adeiladau milwrol i fod yn henebion ac yn atyniadau twristaidd.
Ceir gwahanol fathau o gestyll wrth gwrs, megis Cestyll y Normaniaid a'r Cestyll Cymreig. Llefydd milwrol ac amddiffynfeydd oedd cestyll yn yr Oesoedd Canol, yn aml ar dir uchel gyda muriau trwchus a thyredau uchel, ac yn aml hefyd rhagfuriau a ffos o gwmpas. Byddai'r ffenestri yn gul a'r drysau yn drymion. Roedd y castell yn rheolir dref hefyd yn aml, gyda mur o gwmpas y dref yn ogystal â barbican, hefyd. I fynd i mewn i'r castell, yr oedd rhaid mynd dros bont godi a thrwy borthdy cryf â chlwydi a phorthcwlis. Roedd donjon (carchar dan ddaear) mewn llawer o'r cestyll. Weithiau byddai'r castell dan warchae am gyfnod hir a byddai rhaid ildio oherwydd diffyg bwyd.
Roedd y castell yn lle i drigo yn ogystal â bod yn amddiffynfa. Roedd ward fewnol, llety, ystafelloedd byw ac siambrau cysgu, rhai ohonyn nhw'n gyfforddus iawn, cegin, bwtri i gadw gwin neu gwrw, canolfan weinyddol a chapel. Roedd stablau i'r meirch ac ysguborau i gadw bwyd iddynt. Ond y peth pwysicaf i gyd oedd ffynnon neu ffynhonnell dŵr arall i gadw'r amddiffynwyr yn fyw adeg gwarchae. Gwarchae oedd un o'r bygythiadau gwaethaf i gastell a dyna pam yr oeddent yn ceisio bod mor hunangynhaliol â phosibl.
Roedd hi'n anodd i godi'r cestyll hyn weithiau am eu bod yn aml yn cael eu codi ar dir estron. Yn achos y cestyll Seisnig yng Nghymru yr oedd rhaid cael gweithwyr a chrefftwyr o Loegr neu gyfandir Ewrop ac fe'i gorfodid i adael eu cartrefi i weithio yng Nghymru, efallai am flynyddoedd.
Roedd rhaid codi llawer o arian i godi'r cestyll hefyd. Y goruchwylwyr oedd yn gofalu am yr ochr ariannol ac yn talu'r gweithwyr. Y pensaer oedd yn gyfrifol am gynllunio'r castell a dewis safle i'w adeiladu. Y nesaf at y pensaer mewn pwysigrwydd oedd y saer maen. Roedd yn bwysig cael chwarel yn gyfleus i gael meini i'r muriau. Byddent yn hollti'r cerrig yn y chwarel i arbed cludo cerrig diwerth heb eisiau. Roedd rhaid cael cerrig da a fyddai'n gorwedd yn esmwyth ar ei gilydd er mwyn gwneud y muriau allanol yn gadarn.
Cestyll Cymru
[golygu | golygu cod]- Gweler hefyd Cestyll y Tywysogion Cymreig a Rhestr cestyll Cymru.
Cafodd nifer o gestyll eu codi gan y tywysogion Cymreig, yn arbennig yn y cyfnod rhwng yr 11g a thrydydd chwarter y 13g. Yn eu plith mae Castell Dolbadarn, Castell Dolwyddelan, Dinas Emrys, Castell y Bere, Castell Cricieth, Castell Carreg Cennen, Castell Dinefwr, Castell y Dryslwyn, a Castell Dinas Brân.
Adeiladwyd llawer o gestyll yng Nghymru yn y drydedd ganrif ar ddeg gan y Normaniaid a hefyd gan y Saeson, yn bennaf gan Edward I o Loegr, er mwyn cadarnhau ei goncwest, megis Castell Harlech, Castell Conwy a Chastell Caernarfon yng Ngwynedd, neu Castell Biwmares yn Ynys Môn a Chastell Rhuddlan yn Y Berfeddwlad (Clwyd). Y rhain oedd y Cylch Haearn o gestyll o amgylch Gogledd Cymru.