Foel Drygarn
Math | caer lefal |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Crymych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.9703°N 4.6833°W |
Cod OS | SN15773360 |
Cadwyn fynydd | Mynydd Preseli |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | PE010 |
Copa ym mynyddoedd y Preselau yn Sir Benfro yw Foel Drygarn, hefyd Foel Trigarn a Foel Drigarn (cyfeiriad grid SN157336). Saif ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i'r gorllewin o bentref Crymych.
Ceir bryngaer o Oes yr Haearn ar y copa, gyda nifer o olion tai tu mewn i'r muriau, a thair carnedd o Oes yr Efydd sy'n rhoi i'r mynydd ei enw. Mae'r gaer yn cynnwys prif amddiffynfa o 1.2 hectar gyda ddwy gorlan atodol ar ei hymylon ogleddol a gorllewinol. Ceir clawdd o gerrig a phridd heb ffos o o'u cwmpas: tybir eu bod yn cynrychioli tri chyfnod adeiladu. Cafwyd hyd i ddarnau crochenwaith a chleiniau sy'n dyddio o Oes yr Haearn i gyfnod y Rhufeiniaid. Mae'r tair carnedd fawr yn gorwedd ar y copa ei hun, o fewn y brif amddiffynfa ac yn ei rhagddyddio.[1]
Cyfeiria'r bardd Waldo Williams at y copa yng nghwpled agoriadol adnabyddus ei gerdd 'Preseli':
- Mur fy mebyd, Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd,
- Wrth fy nghefn ym mhob annibyniaeth barn.[2]
Fe gafodd Foel Drygarn ei gynnwys yn llyfr yr haneswr John Davies o'r enw 100 peth i weld cyn marw.[angen ffynhonnell]