Dinas Dinlle (bryngaer)
Math | caer lefal |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0816°N 4.3347°W |
Cod OS | SH43705635 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN048 |
Bryngaer ym mhentref Dinas Dinlle, Gwynedd, yw Dinas Dinlle, sy'n sefyll ar fryn isel ar draeth Morfa Dinlle. Enwir y pentref ar ôl y gaer. Mae'n dyddio o Oes yr Haearn, sef cyfnod y Celtiaid.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Mae'n gaer arfordirol o bridd a'i ochr orllewinol wedi'i hysu i ffwrdd gan y môr erbyn hyn. Codwyd dau glawdd anferth o gwmpas y bryn gan yr adeiladwyr. Tybir ei fod yn perthyn i ail gyfnod Oes yr Haearn (Oes yr Haearn B). Cafwyd gwrthrychau ynddi sy'n dyddio i'r 2ail ganrif a'r 3g, sy'n dangos fod pobl yn dal i fyw yno yng nghyfnod y Rhufeiniaid.[1]
Pedwaredd Gainc y Mabinogi
[golygu | golygu cod]Mae'r gaer yn enwog yn llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru oherwydd ei chysylltiad â Phedair Cainc y Mabinogi. Yn y bedwaredd gainc, Math fab Mathonwy, mae'r arwr Lleu ('Lleu Llaw Gyffes') yn cael ei feithrin yn Ninas Dinlle ('Dinas Dinllef' yw'r sillafiad a geir yn y testun) gan y dewin Gwydion ap Don i farchogaeth a dwyn arfau:
- 'Yna y daethant [h]wy parth a Dinas Dinllef. Ac yna meithrin Lleu Llaw Gyffes yny allwys (nes y gallai) marchogaeth pob march ac yny oedd gwbl o bryd, a thwf a meint.'[2]
'Dinas Dinllef' sydd gan y copïydd yn y llawysgrif, sef 'Dinas Dinlleu', o 'Dinlleu', sef 'Caer Lleu' ('din' = caer). 'Dinas Dinlla' yw'r enw ar lafar yn y cylch.
Yn 'Englynion y Beddau' yn Llyfr Du Caerfyrddin dywedir i Wydion gael ei gladdu yn Ninas Dinlle:
- 'Bedd Gwydion ap Don
- ym Morfa Dinlleu
- i-dan faen defeillion.'[3]
Yn y môr gyferbyn â Dinas Dinlle ceir Caer Arianrhod, cartref arallfydol Arianrhod yn y Mabinogi.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestr o fryngaerau Cymru
- Rhestr o fryngaerau mwyaf Cymru
- Rhestr o fryngaerau yng Nghymru wedi'u cofrestru