Celyn
Celyn | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Aquifoliales |
Teulu: | Aquifoliaceae |
Genws: | Ilex |
Rhywogaeth: | I. aquifolium |
Enw deuenwol | |
Ilex aquifolium L. |
Coeden fythwyrdd gyda dail pigog ac aeron coch yw celyn neu'r gelynnen (enw gwyddonol: Ilex aquifolium).
Mae'r goeden fechan hon yn gysylltiedig â'r Nadolig; yn aml iawn, yr unig addurn a arferid ei gael mewn tŷ fyddai clwff (neu gangen) o gelyn. Enw arall arni ydy'r 'gelynnen' a cheir y ffurf 'celynnin' fel sydd yn yr enw Llangelynnin hefyd. Ceir cân werin o'r un enw; dyma'r pennill cyntaf (sylwer ar yr odl fewnol rhwng y drydedd a'r bedwaredd linell):
- Fy mwyn gyfeillion dewch yn llu,
- Mae'n bryd i mi ganmol y glasbren;
- Pren canmolus, gweddus gwiw
- A'i henw yw 'y gelynen'.[1]
Mae'n frodorol o orllewin a de Ewrop, gogledd-orllewin Affrica a de-ddwyrain Asia,[2][3] ac fe'i gwelir yn aml mewn llefydd cysgodol, yn enwedig mewn coedwigoedd o goed ffawydd. Er hyn, gall addasu i gynefinoedd, amgylchiadau a hinsawdd gwahanol yn enwedig ar ffiniau coedwigoedd.
Llwyn neu goeden fach, bythwyrdd, y dail isaf yn bigog, y rhai uchaf yn llai felly. Y blodau gwryw a benyw yn tyfu ar goed gwahanol. Yr aeron (ar y coed benywaidd) yn wyrdd i ddechrau ac wedyn yn goch. Aeron y celyn yw'r rhai mwyaf parhaus o holl aeron ein llwyni cynhenid, weithiau yn para ymhell heibio'r gaeaf i'r gwanwyn canlynol a hyd yn oed yr haf. Bonfreithod megis y gaseg ddrycin a'r socen eira sydd yn bennaf gyfrifol am eu parhad mae'n debyg trwy eu hamddiffyn rhag eraill. Coeden y goedwig a phridd cyfoethog ac ychydig o bori yw'r celyn.
Ecoleg
[golygu | golygu cod]Nid yw'r gelynen yn dygymod yn dda a phori, ac fe ddiflana ar ôl troi anifeiliaid i goedwig am gyfnod.
Rhywogaethau cysylltiol
[golygu | golygu cod]Bwyd i lindysyn glöyn y glesyn celyn Celastrina argiolus. Y genhedlaeth gyntaf yn cael ei dodwy ar flagur blodau'r celyn yn y gwanwyn, a'r ail genhedlaeth ar flagur blodau'r eiddaw, sydd yn ymddangos yn hwyrach yn y flwyddyn.
Caiff ei heintio'n gyson gan y llifbryf Phytomyza ilicis.
Cymunedau llysieuol cusylltiol
[golygu | golygu cod]Enwau
[golygu | golygu cod]- Enw safonol Cymraeg
celyn
- Enw Lladin (yn unol â dull Stace)
Ilex aquifolium
- Enwau Cymraeg eraill gan nodi o ba ardal Dim?
- Tarddiad yr enwau, geiriau cysylltiedig a chytras
Hen Gernyweg: kelin, gl. ulcia, Llydaweg: Kelen, Gwyddeleg. Cuilenn: <Clt. Kolino-, cf. Saes. Holly, taf. Hollin, o'r gwraidd *qel, gwanu
Enwau lleoedd, pobl, ac ati
[golygu | golygu cod]Wrth ddehongli enwau lleoedd dylid bod yn ymwybodol o'r dryswch posibl gyda'r Sant Celynin (Llangelynin, Tywyn; Aber Garth Celyn, sef hen enw honedig Abergwyngregyn), a chyda chyfeiriadau at "gelyn" (ee. Hafod y Gelyn, cwm Anafon, Llanfairfechan; Tafarn y Gelyn, Sir Ddinbych). Gall hefyd olygu pidyn neu cala. Mae ''Clynnog'' Fawr yn Arfon yn golygu, efallai, lle yn gyforiog o gelyn.
Dyma ddadansoddiad o 105 o enwau sydd yn cynnwys celyn yn yr OS 1:10000 Gazeteer wedi eu dosbarthu yn ôl y gair mae'n goleddfu. Mae 14 o enwau yn gysylltiedig â thir sydd yn codi (bryn, boncyn, cam, gallt, ffridd, banc, esgair, rhos), 15 yn gysylltiedig â thir isel neu gysgodol (pant, maes, fron, cwm, dol, cil, glyn), 29 yn gysylltedig a thir coediog (llwyn, celynnog, perth, gallt, coed, gelli), a 36 yn gysylltedig ag anheddle (ty(n), fferm, plas, pentre, bwthyn, cwrt). At ei gilydd, awgryma hyn efallai mai coeden oedd y gelynen a arferai gael ei gweld fel aelod o goedwig neu gyfar a estynnodd gysgod i'r ty ac na chaniatawyd da i mewn iddi (gweler 14.)
Mae'r enwau hyn yn digwydd yn weddol wastad ar draws de a gogledd Cymru. Eithriad yw'r ardaloedd lle maent yn denau neu'n absennol megis gorllewin Penfro, Llŷn a Môn, a'r gogledd ddwyrain lle maent yn fwy trwchus, yn arbennig Ile mae'r calch yn brigo ar fynyddoedd Clwyd.
- Ty'n Celyn
Yn achos yr enw "Ty'n Celyn" ceir yn y Gazeteer 26 o achosion, 10 yn Sir Ddinbych, 7 yn Sir Conwy, 5 ym Mhowys, 2 yng Ngwynedd, ac 1 yng Ngheredigion a Wrecsam. Ymddengys fod y patrwm hwn yn dilyn y tiroedd gorau.
- Celynnog ayb.
Ystyr plas Celynnenau (ar lafar "Clenna") yn Eifionnydd yw 'nifer o goed celyn unigol'. Ystyr 1794 Celynawg yw 'cyforiog o gelyn' (=abounding in holly). Mae'n digwydd yn gyffredin fel enw lle, ee. Clynnog Fawr yn Arfon, Clynnog Fechan ger Llangeinwen, Mon, Glynnog ger y Gyffin, Caernarfon, Gelynnog ym mhlwyf Llantrisant, Morgannwg, &c.
Kylynen c. 1700, Lhuyd Paroch. II.43
- Cylynen
Nant Cyflymed [sic] c. 1830, O.S.M. Nant fechan yn codi i'r gorllewin o Ros Pengwern ac yn rhedeg i'r Ddyfrdwy ychydig tu isaf i Langollen. Diamau mai'r un ydyw enw'r nant hon ag enw'r pren celynen .....am fod, yn of pob tebyg, amlder o'r cyfryw yn tyfu hyd ei glannau. Cyfyd nant fechan o'r enw Celyn (Meir.), Afon Gelyn (OSM), Kelin... yrn Mlaen Celyn ar Arennig Fechan, gan ddisgyn heibio i Bont ar Gelyn a Chapel Celyn i Dryweryn i'r gorllewin o Gil Talgarth. Yn y ffurf Cylynen gwelir y llafariad e yn y sillaf gyntaf ddiacen >y dywyll. Am ffurfiau mapiau Cyflymed, Cyflymen, ymgais ydynt i roi tro fransiol i'r enw.
- Hafod y Gelyn
(Dyffryn Anafon, Abergyngregyn): "holly" ynteu "enemy"
Meddai’r Athro Hywel Wyn Owen: One is quite right to draw attention to the problem of lenition, that celyn 'holly' would remain as such in 'y celyn' 'the holly'. However, we must allow for perception to trump rules of grammar. If people thought it was gelyn 'enemy' then it would be likely to be a strong influence on local pronunciation. I have a similar example in Denbighshire, the present Tafarnygelyn (SJ1861). There was an inn there in the 17th century, probably with the common inn-sign denoting a holly, and a toll gate (Tafarn y Celin Gate 1795). No doubt the animosity to turnpikes provided the motivation to see this as the enemy (gelyn). By 1838 it was Tafarn-gelyn, and the 1983 Tafarn-y- Gelyn. Intriguingly, the predisposition to see it as gelyn had also occurred before the turnpike for reasons unknown to us today: Dafarn gelin 1680-1. But there can be little doubt the the inn-sign was of a holly and not an enemy.[4] Clywais sawl gwaith hen bobl Abergwyngregyn yn dehongli Hafod y Gelyn fel “hafod rhag y gelyn”[5]
Llen Gwerin
[golygu | golygu cod]- Aferion a choelion
Fe'i defnyddir yn gyffredin i addurno tai a lleoedd cyhoeddus dros wyliau'r Nadolig GPC.
Yng Nghlarach ger Aberystwyth roedd ffermwr o'r ardal wedi gweld ei dad yn gwneud twll bychan yng nghlust buwch a fyddai'n cau sefyll tarw (ddim yn cyfloi) ac yn clymu cylch o gelyn yn y twll (Tystiolaeth lafar: J. Ll. Jones, 21 Mehefin 1977): J.[6]
- Arferion plant
Dim wedi eu canfod eto
- Arwyddion tywydd a thymhorau
Dim wedi eu canfod eto
Cyfeiriadau hanesyddol
[golygu | golygu cod]Mae'r cyfeiriadau canlynol o GPC[7]
• 13g. T21 3-4, pan yw glas kelyn
• id. 25 4, ffawyd ffynyessit, kelyn glessyssit [cyfeiriad diddorol at ecoleg y rhywogaeth hon a'i thuedd (gywir) i gydfyw â ffawydd? DB]
• 1346 IAA 124, a hwnnw arodes....yduw abeuno. Ydref ehun a elwit kellynnawc yn dragywydawl. Heb val a heb ardreth.
• 14g. Rbii. 262, Ac y diffeithwyt lleyn a [diwyg.] kelynawc uawr y gan howel vab Ieuaf ar saeson.
• 14g. R 1047 15-16, Kynn bu vygkylchet croennen rcliwygl gauyr galet. Kelyngar y llillen
• 14g. GDG 83, Y celynllwyn coel iawnllwyth.
• 1620 Mos 204, 21, bwrw gordd dan gelyn-llwyn.
• 13g. WM 117. 26-8 yr forest hir beunyd yd ai y mab y chware ac y daflu agaflacheu kelyn
• 14g. RB[WM] 202, 20-1, agwrysc kelyn yn amyl ar y llawr.
• ?15g. DGG 43 Dwy sêl o liw grawn celyn. • 1445-75 GG1 15, A bwrw gordd berw ac urddas / Awen dan gelynnen las.
• 15g. H 71a. 48, llys kelynen kelynnyc.
• 1547 WS, kelynen, holy
• 1608 GP 223, A ddoi di, a ddoi di oddiyna / i goed y glyn i gylyna [tybed pam yr eid "i gylyna"?]
• 1632 D(Bot.), celyn, aquifolium.
• Digwydd fel enw person Celyn ar garreg Tywyn, c. 750 Arch. Camb (1949) 168, Cun Ben Celen, a hefyd yn y ff. fach. Celynnin
Meddygaeth
[golygu | golygu cod]Rhywogaeth o'r un genws, sef Ilex paraguariensis yn cael ei ddefnyddio fel mate (diod) yn ne America (gan y Cymru?). Mae'r dail yn cynnwys caffin sydd yn gweithredu i fywiogi'r system nerfol a chyhyrol. Maent hefyd efo rhinweddau diwretig.
Cynhwysa'r aeron y tocsin ilicin sydd yn achosi cyfog a dolur rhudd. Dim achosion o wenwyno anifeiliaid wedi eu cofnodi and gall gymeryd rhagor na 20 o aeron achosi symptomau ilicin. Os cymerir niferoedd mawr o aeron dylid achosi cyfogi gyda emetig addas fel surop ipecacuanha.2
Meddyginiaethau a gasglwyd gan Anne Elizabeth Williams (Amgueddfa Werin Cymru)[6]
[golygu | golygu cod]- Annwyd, Dolur Gwddf a Niwmonia
Credid bod y lliw coch yn meddu ar rinweddau gwarchodol a'i fod felly yn gallu amddiffyn y sawl a'i gwisgai rhag afiechydon a phwerau gwrthnysig. Gwelir bod gan amryw o blanhigion gwarchodol megis celyn neu griafol arron cochion.... Mae'n symbol o'r ddaear, bywyd da, a gwres[8]
- Y Crwp, y Pâs a'r Ddarfodedigaeth
- Y Pâs
Gwyddaii hen löwr o Abertyswg, Rhymni, am dri gwahanol de a ddefnyddid at y pâs: te wedi'i wneud o ddail ac aeron y gelynnen, te o'r planhigyn clust y llygoden, a llwynhidydd (Tâp AWC 7463: Mrs Edith Maud Jones [ac eraill], Pant y dŵr, Rhaeadr Gwy).
- Asthma a Mygdod
Crybwyllodd hen löwr o Abertuswg, Mynwy, y defnyddid aeron y gelynnen fel meddyginiaeth (Tâp AWC 3005)
- Y Gwaed
Disgrifia AEW traddiodiadau fflangellu â chelyn yn gysylltiedig â Gŵyl San Steffan (weithiau y Calan) o'r de a'r Gororau. Olrheinir rhain i'r ffydd Baganaidd a addaswyd at ddefnydd Cristnogol. Sylwer meddai maio rannau mwyaf Seisnig y de-orllewin ar y cyfan y cafwyd y cyfeiriadau at waedu merched â chelyn (tarddiad o Loegr?) tra bo'r cyfeiririadau at chwipio,r person olaf i godi yn perthyn i'r Gororau. Traddodiad ar wahan efallai gan tua hanner y siaradwyr a holwydoedd chwipio'r traed â chelyn hyd at waed fel triniaeth at losg eira, i gael gwared â'r gwaed drwg. Nid yw'n amlwg yn y traddodiad hwn ai cyfrwng yn unig oedd y celyn ynteu bod iddo arwyddocad amgenach. Gwnaeth un gwr y sylw y defnyddid celyn (yn lle eithin) i'r diben hwn fel rheol yn ystod y gaeaf ac ambell waith yn y gwanwyn, pe ceid llosg eira pan oedd yr eithin yn dechrau glasu (Tap AWC 6923: John Richard Jones, Brynsiencyn
- Afiechydon y Croen
Un triniaeth at ddrywinen oedd llosgi pren celyn a rhoi'r llwch ar ddefnydd wedi'i ddeifio, er mwyn ei ddiheintio mae'n debyg, a'i osod ar ddrywinen (Tystiolaeth lafar: William Wyn Jones, Llansannan, 9 Tach 1982)
Defnydd
[golygu | golygu cod]- Bwyd
Mae cynnwys caloriffig uchel i'r dail, a'r tyfiant ifanc wedi bod yn cael ei dorri i borthi anifeiliaid, yn enwedig defaid [MT].
- Offer
Pren caled gwyn y niweidir gan ormod o olau [ ]. Defnyddir hi yn bennaf ar gyfer addurn ac mewn osod (inlay) i bren arall.
Mae'r pren yn galed a thrwm, efo graen clos iawn, o liw gwyn, addas ar gyfer turnio o bob math.
Mewn gwaith addurniadol mewnosod (inlay) defnyddir yn lle pren bocs ac wedi ei lifo'n ddu yn lle eboni.
Coeden dda i wneud ffyn ohonni, a chan fod hen gred fod ganddi rym hudol dros geffylau, i wneud chwipiau i'w gyrru [MT].
- Arall
Roedd gan John Evelyn yn ei Sylva enwog rysait am wneud glud adar (bird lime) o risgl celyn. Rwyf innau'n cofio fel plentyn yn y 30au yn gweld dynion yn Llanfrothen yn ceisio dal llinosiaid a nicos ar frigau gludiog efo llinos mewn cawell i'w dennu [MT].
Gerddi
[golygu | golygu cod]Y mwyaf deniadol a defnyddiol o'n coed bythwyrdd brodorol yn yr ardd. Mae dros driugain o amrywiadau ar gael, yr euron yn amrywio yn eu lliw o felyn, trwy oren, i'r coch cyffredin, y dail hwythau o fod yn bigog iawn, hyd yn oed ar wyneb y ddeilen i fod yn hollol lyfn, a'r lliw o fod yn frith felyn llachar i frith arian, i'r gwyrdd tywyll sgleiniog cyffredin [MT].
Addurn a delweddau/symbolaeth
[golygu | golygu cod]Poblogaidd iawn fel addyrn y Nadolig. Arferiad cyn-gristnogol mae'n debyg, oherwydd arwyddocad ei wyrddni gefn gaeaf (fel yr eiddaw). Dros wyliau'r Nadolig, cymysgedd o arferion efo'r amseriad, yn enwedig o gwmpas pryd i'w tynnu i lawr, yr Hen Galan (6 Ionawr) erbyn hyn, a Gŵyl Fair y Canhwyllau (2 Chwefror) mewn rhai llefydd gynt, a son yn Ynys Manaw am ei cadw tan Ddydd Mawrth Crempog (Ynyd), a'i defnyddio'n grin i wneud crempog, defnydd da o'i wres anarferol hwyrach [MT].
Teithi tramor
[golygu | golygu cod]Houx yn Ffrangeg.
Hanesyddol ac archaeolegol
[golygu | golygu cod]Awduron
[golygu | golygu cod]Duncan Brown, y diweddar Maldwyn Thomas (MT), Ann Daniels (AD)
Cyfeiriadau, ffynonellau, Ilyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Girre, L. (2001), Les Plantes et les Medicaments (Paris), 2
- Cooper, M. & Johnson, A. (1984), Poisonous Plants in Britain and their effects on Animals and Man (HMSO)
- Geiriadur Prifysgol Cymru 3
- Thomas, R.J. (1938), Enwau Afonydd a Nentydd Cymru (Caerdydd)
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Mae gwreiddiau'r gair yn yr hen Gelteg: kolino, ac fe'i ceir yn yr Hen Gernyweg "kelin", yn Llydaweg ("kelen") ac yn y Wyddeleg ("kelen").[9] Cymharer gyda'r gair Celtaidd "qel" a olygai "pigo", "gwanu".
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Welsh Traditional Music gan Phyllis Kinney; Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru google.co.uk; adalwyd Rhagfyr 2016.
- ↑ Flora Europaea: Ilex aquifolium
- ↑ Med-Checklist: Ilex aquifolium
- ↑ Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007)
- ↑ sylw personol Duncan Brown
- ↑ 6.0 6.1 Williams, A.E. (2017) Meddyginiaethau Gwerin Cymru Y Lolfa
- ↑ http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html
- ↑ John B. Hutchins, Colour and Appearance in Nature, Color research and application, 11, rhifyn 2 (1986), 122
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC); adalwyd Rhagfyr 2016.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Y Gelynnen BBC Cymru
- Celyn Archifwyd 2007-03-11 yn y Peiriant Wayback Cyngor Gwynedd