Baner Malawi
Gwedd
Baner drilliw lorweddol yw baner Malawi, a fabwysiadwyd ar 29 Gorffennaf 2010. Mae'r stribed isaf yn wyrdd, y stribed uchaf yn goch a'r stribed ganol yn ddu gyda symbol gwyn yr haul yn codi yng nghanol y faner - symbol o gynnydd economaidd y wlad. Mae trefn y lliwiau hyn yn dilyn patrwm y faner ban-Affrica. Lliwiau Plaid Gynres Malawi (MCP) a enillodd annibyniaeth i Falawi yn 1964 yw lliwiau'r faner: mae'r lliw gwyrdd yn cynrychioli tir y wlad, y gwaed a gollwyd yn y frwydr am ryddid yw'r lliw coch, ac etifeddiaeth Affricanaidd Malawi yw'r du. Mae baner yr MCP yn seiliedig ar faner Ban-Affricanaidd Marcus Garvey, sy'n symbol o'r dadeni Affricanaidd. Symbol o godiad yr haul yw'r kwacha, sydd hefyd yn cynrychioli dadeni.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)