Baner Eswatini
Mabwysiadwyd baner genedlaethol Eswatini ar 30 Hydref 1967.[1][2] Rhennir yn dri stribed llorweddol: dau stribed glas ar frig a gwaelod y faner, a stribed llydan coch yng nghanol y faner gydag ymyl melyn iddo.[3] Mae coch yn symboleiddio brwydrau'r gorffennol, melyn yn cynrychioli cyfoeth naturiol y wlad, a glas yn symboleiddio heddwch.[1] Yng nghanol y stribed coch mae tarian ddu a gwyn, sef tarian y Gatrawd Emasotha a ffurfiwyd yn y 1920au. Y tu ôl i'r darian mae dau asegai (gwaywffyn Affricanaidd) a ffon ymladd draddodiadol gyda thasel tinjobo a wneir o blu'r aderyn gweddw a'r loury ar naill ochr y ffon.[1] Mae tasel tinjobo hefyd ar y darian.[2] Mae'r darian, y gwaywffyn a'r ffon yn cynrychioli amddiffyn yn erbyn gelynion y wlad. Mae lliwiau'r darian yn symboleiddio heddwch rhwng duon a gwynion yng Nglwad Swasi.[3] 2:3 yw cymhareb y faner hon.[1][2]
Mae'r dyluniad yn seiliedig ar faner a gyflwynwyd i Gorfflu Arloeswyr y Swasi gan y Brenin Sobhuza II ym 1941.[2]
Newid enw'r Wlad
[golygu | golygu cod]Gelwir y wlad yn swyddogol bellach yn "eSwatini" a chyfeirir at baner eSwatini Yn ystod dathliadau 50 mlwyddiant annibyniaeth y wlad, cyhoeddodd y Brenin Mswati III ei fod yn newid enw'r wlad yn swyddogol y wlad i "Teyrnas eSwatini".[4]
Symbolaeth
[golygu | golygu cod]Ceir symboliaeth i liw a delweddau'r faner:
- Glas - heddwch a sefydlogrwydd
- Coch - gwaed coch rhyfeloedd y gorffennol [5]
- Melyn - y ffiniau melyn ar gyfer adnoddau naturiol eSwatini
- Gwyn a du y darian - cysylltiadau hiliol da, y tri chorff yn symbol o llinell frenhinol y Swazis a'r gwaywffyn y tu ôl y darian i amddiffyn eSwatini rhag ei gelynion
Baner Eraill
[golygu | golygu cod]-
Baner Brenhinol eSwatini
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Anness, 2010), t. 224–5.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Complete Flags of the World (Llundain, Dorling Kindersley, 2002), t. 105.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) Flag of Swaziland. The World Factbook. CIA. Adalwyd ar 4 Mehefin 2013.
- ↑ Flags of the World – eSwatini
- ↑ Greig, Charlotte. The Dictionary of Flags. Grange Books. ISBN 1-840137-58-4
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) National Symbols (Llywodraeth Gwlad Swasi)
- (Saesneg) eSwatini (Flags of the World)