Sgwrs Nodyn:Baneri Affrica
Gwedd
Mae cofnod Baner Côte d'Ivoire eisoes ar y wicipedia ond dydy ddim yn cysylltu i'r categori Baneri Affrica gan mai Baner Arfordir Ifori sydd yno. Gan mai enw swyddogol y wlad yw'r fersiwn Ffrangeg (mae'r wlad wedi mynnu hynny) dwi'n teimlo dylsem ni gael cysondeb o ran yr enw. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Stefanik (sgwrs • cyfraniadau) Siôn Jobbins
- @Stefanik: Pa hwyl! Paid saethu'r negesydd! Cyn newid y Nodyn, bydd yn rhaid newid enw'r wlad ar brif erthygl Wicipedia. Mae enwau pob gwlad yn cael ei drafod cyn ei newid. Fel canllaw i ni, dyma restr o'r gwledydd, ynghyd ag enwau mewn ambell eiriadur neu gyfrol: Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg. Fe weli ar y ddalen Sgwrs fod trafodaethau wedi bod ar enwau gwledydd gwahanol. Yr unig drafodaeth berthnasol fedra i ei ffindio ydy honno ar dudalen Sgwrs Cabo Verde:
- Mae 'Côte d'Ivoire' yn fater arall gan fod yr enw(au) Cymraeg yn bod ac yn cael ei ddefnyddio'n bur eang: wfft i farn llywodraeth y wlad felly achos dydyn nhw ddim yn rheoli ieithoedd y byd (a diolch am hynny!).. Ac yna fe gytuna @Adda'r Yw:
- nid yw llywodraethau yn rheoli iaith, ond yn fy marn i mi fydd yn well defnyddio'r enw brodorol "swyddogol" Cabo Verde na'r hanner cyfieithiad "Penrhyn Verde", ac yn sicr nid yr hanner cyfieithiad Saesneg "Cape Verde".
- Fe weli dan Wicipedia:Arddull#Enwau_lleoedd, sy'n drawsolwg / canllaw mai'r erthygl Gwledydd y byd yw'r rhestr swyddogol o'r holl enwau rydym wedi cytuno a nhw. Felly, dylai Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg a honno fod yn gyson. Ond dyw hi ddim: Côte d'Ivoire sydd ar Gwledydd y byd ac Arfordir Ifori ar Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg! Mae'n bur debyg i rywun anghofio newid yr enw ar 'Gwledydd y byd', yn dilyn y drafodaeth a gafwyd.
- Un nodyn o rybudd - tan yn ddiweddar, yr unig ffreuo sydd wedi bod ar yr Wicipedia Cymraeg (hyd y cofiaf!) ydy enwau lleoedd! Os wyt yn dymuno mynd ymlaen i gynnig y naill neu'r llall, yna'r lle i'w godi ydy ar dudalen Sgwrs y wlad honno. Pob lwc! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:38, 22 Mawrth 2019 (UTC)
- Un arall i'w nodi yw Gwlad Swasi, sydd wedi newid ei henw yn swyddogol i eSwatini. Mae rhai o'r Wicis eraill wedi symud eu herthyglau i'r enw hwnnw, ac eraill yn cadw Swaziland neu ffurfiau tebyg. Mae'r Weriniaeth Tsiec hefyd yn mynnu'r ffurf Czechia (Tsiecia yn Gymraeg? neu Wlad Tsiec cf. Gwlad Belg) fel enw cyffredin. —Adda'r Yw (sgwrs • cyfraniadau) 18:36, 28 Mawrth 2019 (UTC)