Neidio i'r cynnwys

Baner Malawi

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 05:12, 4 Awst 2010 gan Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
Baner Malawi

Baner drilliw lorweddol gyda stribed is gwyrdd, stribed canol coch, a stribed uwch du gyda symbol coch y kwacha yn ei ganol yw baner Malawi. Lliwiau Plaid Gynres Malawi (MCP), wnaeth ennill annibyniaeth i Falawi yn 1964, yw lliwiau'r faner: cynrychiola tir y wlad gan wyrdd, y gwaed a gollwyd yn y frwydr am ryddid gan goch, ac etifeddiaeth Affricanaidd Malawi gan ddu. Mae baner yr MCP yn seiliedig ar faner Ban-Affricanaidd Marcus Garvey, sy'n symboleiddio dadeni Affricanaidd. Symbol o godiad yr haul yw'r kwacha, sydd hefyd yn cynrychioli dadeni.

Ffynonellau

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)