Y Tŵr
clawr argraffiad 1996 | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Gwenlyn Parry |
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1979 |
Pwnc | Dramâu Cymraeg |
Argaeledd | allan o brint |
ISBN | 9780863838774 |
Tudalennau | 109 |
Un o ddramâu enwocaf Gwenlyn Parry yw Y Tŵr, a gyfansoddwyd ym 1978 ac a gyhoeddwyd ym 1979. Cyhoeddodd Gwasg Gomer argraffiad newydd a hynny yn 1996. Yn 2013 roedd y gyfrol allan o brint.[1]
Dilyn taith gŵr a gwraig, o'u heuienctid hyd henaint, yw plot y ddrama, gyda'r Tŵr yn alegori o Fywyd. Cyfansoddodd Gwenlyn Parry y ddrama yn arbennig ar gyfer John Ogwen a Maureen Rhys oedd yn aelodau o Gwmni Theatr Cymru, ar y pryd. Comisiwn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1978 roddodd fodolaeth i'r ddrama, ac fe lwyfannwyd y cynhyrchiad gan Gwmni Theatr Cymru yn ystod yr Ŵyl.
Cefndir
[golygu | golygu cod]"Darllen y ddrama ar wahân wnaethon ni", yn ôl yr actores Maureen Rhys, "y fi'n cael copi yng Nghaerdydd a John i fyny ym Mangor - a'r ddau ohonon ni'n bendant bod yna rywbeth gwerth chweil yn ein dwylo ni [...] Cael siawns i fod yn ifanc, yn ganol oed ac yn hen o fewn dwy awr ar y llwyfan. Mi daflais y sgript i fyny i'r awyr mewn cyffro, a'r tudalennau'n mynd i bobman!" [2]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Y Llanc
- Y Ferch
Cynyrchiadau Nodedig
[golygu | golygu cod]1970au
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama'n wreiddiol yn Theatr Newydd, Caerdydd yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978, gan Gwmni Theatr Cymru. "Ym Mangor yr oeddan ni'n ymarfer a David Lyn yn cynhyrchu [cyfarwyddo]," yn ôl Maureen Rhys, "Wilbert oedd i fod i wneud, fel y bu'n cynhyrchu'r dramâu comisiwn yn y gorffennol, ond mi gafodd ei daro'n wael."[2]
Un a fu'n gweld y cynhyrchiad cyntaf hwnnw, oedd yr academydd Elan Closs Stephens a gofiodd am y profiad yn Rhaglen cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd ym 1995. "Cofiaf imi ddod allan wedi fy ngwefreiddio a'm cyffwrdd at y byw. Mae hi'n weddol hawdd egluro'r wefr: roedd yr actio yn egniol, rymus; gweddai rhythmau'r ddrama i ddau a fagwyd yn yr un ardal â Gwenlyn; cyflwynwyd tric theatraidd cryf wrth i'r ddau heneiddio o flaen ein llygaid fesul egwyl".[3] Cyfarwyddwr David Lyn; cynllunydd Martin Morley; cast:
- Y Llanc - John Ogwen
- Y Ferch - Maureen Rhys
Teledwyd y ddrama gan BBC Cymru yn fuan wedyn gyda Merfyn Owen yn cynhyrchu (cyfarwyddo)
1980au
[golygu | golygu cod]Mentrodd Theatrig ym 1987, dan gyfarwyddyd a gweledigaeth "newydd" Ceri Sherlock, i lwyfannu'r ddrama gyda 6 actor o wahanol oedran; cast:
1 | 2 | 3 |
---|---|---|
|
|
|
1990au
[golygu | golygu cod]Ail lwyfanwyd y ddrama ym 1995 gan Gwmni Theatr Gwynedd, gyda Maureen Rhys a John Ogwen yn ail-bortreadu'r cymeriadau. Cyfarwyddwr y cynhyrchiad oedd Graham Laker, er mai gwireddu syniad cyn gyfarwyddwr Theatr Clwyd, Helena Kaut-Howson oedd y bwriad.[4] Gan fod y ddau actor dipyn yn hŷn erbyn 1995, na'r ddau ifanc ym 1978, syniad Kaut-Howson oedd i blethu deunydd archif o'r cynhyrchiad gwreiddiol (er mwyn dangos y ddau gymeriad yn ifanc), yna ail-ymuno efo'r ddau ar lwyfan y presennol yn ganol oed ac yn eu henaint. Ond bodloni ar docio'r ddrama wreiddiol fu'n rhaid, a pherfformio'r tair act heb egwyl. [2]
"Er na chefais i'r un wefr ag a gefais i yn 1978," yn ôl Maureen Rhys yn ei hunangofiant, "mi fydda hynny wedi bod yn amhosibl - yr hyn oedd yn arbennig i mi odd cael performio i genhedlaeth newydd o bobl ifanc", ychwanegodd. "Yr hyn dwi'n fawr 'obeithio," ebe Maureen yn Rhaglen y cynhyrchiad, "...ydi fod y pymtheg mlynedd a mwy ers Eisteddfod Caerdydd wedi rhoi imi aeddfedrwydd mewn bywyd a gwaith".[3]
Ychwanegodd John Ogwen: "Yn ei ragair i'r TŴR mae Gwenlyn yn diolch i Maureen a minnau am "roi'r anadl gyntaf i'r esgyrn sychion". Mae 'na ffasiwn beth ag ail-anadl ac mae'r esgyrn yn bell o fod yn rhai sychion. Braint yw cael mynd yn ôl i ddringo'r TŴR arbennig yma." Cynllunydd Rhian Cemlyn; cynllunydd goleuo Tony Bailey Hughes; cynllunydd sain Sion Havard Gregory; cast:
- Y Llanc - John Ogwen
- Y Ferch - Maureen Rhys
2010au
[golygu | golygu cod]Cynhyrchiad cwmni theatr Invertigo yn 2015 a deithiodd drwy Gymru gan ymweld â Llundain am un noson.[5] Cyfarwyddwr Aled Pedrick; cynllunydd Charley Fone; goleuo Joe Price; cast:
- Gŵr - Steffan Donnelly
- Gwraig - Catherine Ayres
Troswyd y ddrama lwyfan yn opera siambr gan Music Theatre Wales ar y cyd â Theatr Genedlaethol Cymru yn 2017. Guto Puw oedd y cyfansoddwr a Gwyneth Glyn oedd y Libretydd. Arweinydd y gerddorfa oedd Richard Baker a Michael McCarthy yn cyfarwyddo. Cynllunydd y cynhyrchiad oedd Samal Blak ac Ace McCarron yng ngofal y goleuo.
- Y Dyn - Gwion Thomas
- Y Fenyw - Caryl Hughes
gydag Ensemble Music Theatre Wales.[6]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Rhys, Maureen (2006). Prifio - Hunangofiant. Gwasg Gomer. ISBN 9781843237624.
- ↑ 3.0 3.1 Rhaglen cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Y Tŵr 1995.
- ↑ Ogwen, John. Hogyn O Sling. Gwasg Gwynedd.
- ↑ "Y Tŵr yn torri tir newydd". BBC Cymru Fyw. 2017-05-05. Cyrchwyd 2024-08-25.
- ↑ "Y Tŵr | Productions | Music Theatre Wales | Music Theatre Wales". musictheatre.wales. Cyrchwyd 2024-08-25.