David Lyn
David Lyn | |
---|---|
Ganwyd | David Lyn Jenkins 30 Ebrill 1927 Y Porth, Y Rhondda |
Bu farw | 4 Awst 2012 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | Coleg Y Drindod, Caerfyrddin |
Galwedigaeth | actor |
Plant | Tim Lyn |
Actor a chyfarwyddwr theatr o Gymru oedd David Lyn neu David Lyn Jenkins (30 Ebrill 1927 – 4 Awst 2012).[1] Yn enedigol o'r Rhondda, roedd yn wyneb cyfarwydd ar BBC Cymru ac S4C o ddyddiau cynnar y ddau wasanaeth. Bu hefyd yn ran blaenllaw o gwmnïau gwreiddiol dramâu llwyfan Gwenlyn Parry fel actor a chyfarwyddwr (Saer Doliau (1966), Y Ffin (1968), Y Tŵr (1978)) a Saunders Lewis (Esther (1979)).
Cefndir byr
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Y Porth, Rhondda yn un o dri o blant i Violet Margaret née Evans (1904-1992) a David Jenkins (1896-). Er mai magwraeth yn Saesneg a gafodd y plant, bu iddynt ddysgu ac anwesu'r Gymraeg. Magwyd David Lyn ar fferm yn Cynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin, ac wedi llwyddo i ennill ei le yn yr ysgol ramadeg, aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Y Drindod, Caerfyrddin, a graddio fel athro. Wedi dilyn cwrs penwythnos gyda'r Royal Academy of Music (RAM) fe'i perswadiwyd i fudo i Lundain i ddilyn gyrfa fel actor.
Dechreuodd ei yrfa gyda'r Royal Shakespeare Company yn 1964 cyn ymuno â chriw o actorion i greu Theatr Yr Ymylon ym 1966.
Mae'n dad i'r actor a'r cyfarwyddwr ffilm a theledu Tim Lyn.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Theatr
[golygu | golygu cod]1960au
[golygu | golygu cod]- The Wars of the Roses - trioled dramâu Henry VI a Richard III (1964) Royal Shakespeare Company
- Edward IV (1964) Royal Shakespeare Company
- Richard II (1964) Royal Shakespeare Company
- Henry V (1964) Royal Shakespeare Company
- Henry IV, Part 1 (1964) Royal Shakespeare Company
- Henry IV, Part 2 (1964) Royal Shakespeare Company
- The Caretaker (1965) Welsh Theatre Company
- Saer Doliau (1966) Cwmni Theatr Cymru
- Pros Kairon (1966) Cwmni Theatr Cymru
- Tair drama fer gan Eugène Ionesco : Y Tenant Newydd, Merthyron Dyletswydd a Pedwarawd (1968) Cwmni Theatr Cymru
1970au
[golygu | golygu cod]- Pethe Brau (1972) Cwmni Theatr Cymru - cyfarwyddwr
- Y Ffin (1973) - Cwmni Theatr Cymru
- Esther (1973) Cwmni Theatr Cymru - cyfarwyddwr
- Y Tŵr (1978) - Cwmni Theatr Cymru - cyfarwyddwr
Teledu a Ffilm
[golygu | golygu cod]1960au
[golygu | golygu cod]- The Wars of the Roses - trioled dramâu Henry VI a Richard III (1965) BBC/RSC
- Pris y Farchnad
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Stephens, Meic (18 Hydref 2012). David Lyn: Actor who fought for Welsh theatre. The Independent. Adalwyd ar 28 Gorffennaf 2013.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) David Lyn ar wefan Internet Movie Database