Plaid Gristionogol (DU)
Plaid Gristionogol | |
---|---|
Arweinydd | George Hargreaves |
Sefydlwyd | 2005 |
Pencadlys | |
Ideoleg Wleidyddol | Cristnogaeth, Ewrosgeptigiaeth, Theogeidwadaeth, Dde Cristnogol |
Safbwynt Gwleidyddol | Adain-dde |
Tadogaeth Ryngwladol | Dim |
Tadogaeth Ewropeaidd | Dim |
Grŵp Senedd Ewrop | Dim |
Lliwiau | Fioled |
Gwefan | www.christianparty.org.uk/ |
Gwelwch hefyd | Gwleidyddiaeth y DU |
Plaid wleidyddol Gristnogol leiafrifol yw Y Blaid Gristionogol (cyfieithiad answyddogol yn achos y DU; Saesneg: The Christian Party). Fe'i sefydlwyd gan y Parch James George Hargreaves ar gyfer yr etholiadau i Senedd Ewrop yn yr Alban yn 2004 fel Operation Christian Vote. Mae'n gweithredu dan yr enw hwnnw ac eraill yn Lloegr ac fel 'Plaid Gristionogol Cymru' yng Nghymru a'r 'Scottish Christian Party' yn yr Alban.
Mae'n fudiad asgell-dde sy'n pregethu Cristnogaeth ffwndamentalaidd. Mae yn erbyn rhyddid personol mewn materion fel rhyw tu allan i briodas ac yn llym yn erbyn hoywon ac erthylu. Yn ogystal mae'n gwrthod yr Undeb Ewropeaidd.
Polisiau
[golygu | golygu cod]Yn ôl eu hen wefan[1] mae'r blaid,
- yn cefnogi Coron Lloegr
- yn gwrthod pob math o 'Gywirdeb Gwleidyddol'
- yn cefnogi 'Cyfraith a Threfn'
- am "ail-sefydlu Arglwyddiaeth Crist Iesu" yn y DU
- am "ddileu effeithiau ymddygiad anfoesol"
- am gael gwared ar erthylu yn gyfanwbl ar y GIG ynghyd ag unrhyw fath o iwthenasia
- yn ystyried fod gwrywgydiaeth a rhyw tu allan i briodas yn bechod ac am rhoi taw ar hynny
- yn erbyn addysg ryw mewn ysgolion heb ganiatâd rhieni ac am gyfyngu addysg ryw i gyd-destun priodas yn unig
- yn ystyried mai'r teulu yw'r unig uned gymdeithasol dda
- yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd "am nad yw Duw o'i blaid".
- yn erbyn cyffuriau ac am weld cosbiau mwy sylweddol am eu defnyddio
- yn sôn am newid y drefn am geiswyr lloches o dramor
- am gael rhagor o garchardai
Clymbleidiau
[golygu | golygu cod]Mae'r blaid yn rhan o glymblaid wleidyddol gyda'r cenedlaetholwyr Seisnig asgell dde yr English Democrats Party a'r Jury Team.[2]
Enwau
[golygu | golygu cod]Prif enw'r blaid yw 'Christian Party "Proclaiming Christ's Lordship"'. Ond defnyddir naw enw arall hefyd sydd wedi eu cofrestru gan y Comisiwn Etholiadol[2], sef:
- Christian Party
- Christian Party (Scotland)
- Christian Party (Wales)
- Scottish Christian Party
- Scottish Christian Party "Proclaiming Christ's Lordship"
- The Christian Party
- The Christian Party - CPA
- The Scottish Christian Party
- Welsh Christian Party(Plaid Gristionogol Cymru)
- Welsh Christian Party "Proclaiming Christ's Lordship" (Plaid Gristionogol Cymru "Datgan Arglwyddiaeth Crist")
Cymru
[golygu | golygu cod]Gweithredant yng Nghymru fel Plaid Gristionogol Cymru, a lawnsiwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi 2007 ar gyfer Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007. Mae ei harweinydd, y Parchedig George Hargeaves, wedi cyhoeddi bod y blaid yn bwriadu cael gwared ar y Ddraig Goch fel baner swyddogol Cymru a defnyddio Croes Dewi Sant yn ei lle. Yn ôl y blaid, y rheswm am hyn yw bod y ddraig yn symbol o'r angenfilod Satanaidd a ddisgrifir yn Llyfr y Datguddiad.
Yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007, cafodd gyfanswm o 8,963 o bleidleisiau, 0.9% o'r holl bleidleisiau.
Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010, ymgyrchodd y blaid yng Nghymru wrth yr enwau Welsh Christian Party / Plaid Gristionogol Cymru a Welsh Christian Party "Proclaiming Christ's Lordship" / Plaid Gristionogol Cymru "Datgan Arglwyddiaeth Crist".[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "ChristianPartyCymru.co.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-04-10. Cyrchwyd 2010-04-26.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "y Comisiwn Etholiadol". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-09. Cyrchwyd 2010-04-26.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Archifwyd 2010-04-13 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Gwefan swyddogol y blaid yng Nghymru Archifwyd 2010-04-10 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Gwefan swyddogol y blaid yn yr Alban Archifwyd 2010-05-19 yn y Peiriant Wayback