Neidio i'r cynnwys

Baner Cymru

Oddi ar Wicipedia
Baner Cymru
Enghraifft o'r canlynolbaner endid gweinyddol o fewn un wlad, baner cenedlaethol Edit this on Wikidata
Lliw/iaugwyn, gwyrdd, coch Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluTua: 655 OC
DechreuwydYn ei ffurf bresennol: 1959
Genrehorizontal bicolor flag, charged flag Edit this on Wikidata
Yn cynnwysy Ddraig Goch Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Daeth baner Cymru (a elwir hefyd y Ddraig Goch) yn faner swyddogol Cymru yn 1959. Mae'n dangos draig goch ar faes gwyrdd a gwyn. Am gyfnod, ymddangosodd y ddraig ar fryn gwyrdd, ond mae'r hanneriad llorweddol yn draddodiadol. Hi yw'r unig faner o un o wledydd y Deyrnas Unedig nad yw'n ymddangos ar Faner yr Undeb. Y rheswm hanesyddol am hyn oedd statws gwleidyddol Cymru yng nghyfundrefn gyfreithiol a gweinyddol coron Loegr yn dilyn y Deddfau Uno (1536–1543).

Cymru, Bhwtan a Malta yw'r unig wledydd cyfredol sydd â draig ar eu baneri, er y bu ddraig ar faner Tsieina yn ystod Brenhinllin Qing.

Y Ddraig Goch fel baner y Cymry

[golygu | golygu cod]

Baner cyntaf o'r Ddraig Goch?

[golygu | golygu cod]

Fe sonir am y ddraig goch yn hedfan yn yr awel yn y gerdd "Gwarchan Maelderw" yn ystod Brwydr Catraeth.Yn ogystal fe sonir am yr haul a'r Duw "Hu". Ysgrifenwyd y gerdd gan Taliesin ond mae'n ymddangos yn y Llyfr Aneirin. Crewyd y faner gan "Archimagus" neu archdderwydd ar gyfer Maelderw, arweinydd y lluoedd brodorol er mwyn amddiffyn y Brythoniaid.[1][2] Mae'r faner hon yn cynnwys delwedd o'r arweinydd, yr haul a'r ddraig goch. Roedd y derwyddon Gwyddelig hefyd yn paratoi baneri'r haul i'w harweinwyr, sef y faner "Dal-greine".[3]

Mae'r cyfeiriad yn darllen mewn Cymraeg Canol "Disgleiryawr ac archawr tal achon//arrud dhreic fud pharaon", sydd yn anodd ei chyfiethu'n gywir, ond mae "rud dhreic" yn gallu cael ei chyfieithu i "draig goch". Mae "pharaon" i'w weld yn Lludd and Llefelys, am y ddwy ddraig dan adeilad Gwrtheyrn, gan awgrymu fod y dyfyniad hwn yn ffynhonnel ar gyfer stori'r Mabinogi, lle mae'r ddraig yn goch unwaith eto.[4] Mae'n bosib mai dyma'r cyfeiriad cyntaf at ddraig goch yn llenyddiaeth Cymru yn y 6g. Y gair "pharaon" yw'r enw hynafol ar Ddinas Emrys, ac mae'r cyfeiriad hon dwy ganrif cyn cofnod Nennius yn Historia Brittonum o stori Lludd a Llefelys; arwydd posib o darddiad hyd yn oed hŷn na hyn.[5]

Gwelir y farddoniaeth gwreiddiol o Gwarchan Maeldrw ac ymdrech i'w gyfieithu (o gyfieithiad Saesneg).[6][1]

Molawt rin rymidhin rymenon.

(Moliant yw rhaniad y rhai a ryfeddant.)

Dyssyllei trech tra manon.

(Syllai'r buddugol tra teg.)

Disgleiryawr ac archawr tal achon

(Disgleiro ac amlwg tal flaen.)

ar rud dhreic fud pharaon.

(a'r rhudd-ddraig fydd pharaon.)

Kyueillyawr en awel adawaon.

(Cyfeilir ar awel ei bobl.)

Owain Glyndŵr

[golygu | golygu cod]
c. 1400 - c. 1416, Y Ddraig Aur, safon frenhinol Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru, wedi ei godi dros Caernarfon yn ystod Brwydr Twthil yn 1401 yn erbyn y Saeson.

Adnabuwyd baner Owain Glyndŵr fel 'Y Ddraig Aur'. Fe'i codwyd yn enwog dros Gaernarfon yn ystod Brwydr Tuthill yn 1401 yn erbyn y Saeson. Dewisodd Glyndŵr i chwifio safon draig aur ar gefndir gwyn, y safon draddodiadol a ddefnyddiodd Uthr Benddraig, fel arewinydd y Brythoniaid Celtaidd cyntaf wrth iddynt frwydro yn erbyn y Sacsoniaid bron i 1,000 o flynyddoedd ynghynt, cyn iddo drosglwyddo'r symbol i’w fab y Brenin Arthur.[7][8][9]

Adroddir Adam o Wysg mai draig aur Glyndwr oedd y defnydd cyntaf o safon draig a ddefnyddiwyd mewn rhyfel gan filwyr Cymru ar y 1af o Dachwedd, 1401.[10] [11] Ychwanega'r hanesydd John Davies fod y ddraig a godwyd gan Glyndŵr yn symbol o fuddugoliaeth i'r Brythoniaid Celtaidd.[12]

Hari Tudur

[golygu | golygu cod]
Safon Harri Tudur, Brwydr Maes Bosworth

Ar feddrod Edmwnd Tudur, mae ei ddelw yn gwisgo coron wedi'i gosod gyda "draig Cadwaladr".[13] [14] Yn dilyn buddugoliaeth ei fab ym Mrwydr Maes Bosworth, defnyddiodd Harri VII ddraig goch ar gefndir gwyn a gwyrdd wrth fynd i mewn i Eglwys Gadeiriol Sant Pawl.[15] Defnyddiodd Harri’r VII fotiff y ddraig fel rhan o herodraeth tŷ Tuduraiddyn hytrach na Chymru.[12] Defnyddiwyd "draig Cadwaladr" fel cefnogwr ar arfbeisiau brenhinol holl sofraniaid Tuduraidd Lloegr ac ymddangosodd hefyd ar safonau Harri VII a Harri VIII.[16]

Defnydd fodern cyntaf

[golygu | golygu cod]

Yn Eisteddfod Lerpwl yn 1840, defnyddiwyd "safon sidan a osodwyd dros gadair y llywydd, ar yr hon a banetiwyd ddraig goch, ar ddaear werdd, gyda ffîn wen - hon, y dywedodd, oedd wedi'i hanfon ato gan Mr Davies o Cheltenham, a oedd o hyd yn barod i gynnal cofiant a dewrder ei ac ein gwlad." Roedd y safon sidan hefyd yn cynnwys yr arwyddair "y ddraig goch ddyle gychwyn".[17] Yn wreiddol awgrymwyd draig aur ac "urdd marchog i Gymru".[18] Dwy flynydd yn ddiweddarach, defnyddiwyd baneri gyda'r ddraig goch yn Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni,1842.[19] Yna, yn 1865, hwyliodd long y Mimosa i Batagonia gan hedfan baner y ddraig goch.[20]

Bathodyn brenhinol

[golygu | golygu cod]

Ni ddaeth y ddraig goch yn fathodyn herodrol brenhinol swyddogol tan 1800, pan gyhoeddodd Siôr III warant brenhinol yn cadarnhau'r bathodyn.[21]

Yn 1901, ychwanegwyd y ddraig goch i arfbais Tywysog Cymru Brenhiniaeth Prydain gan y brenin.[22]

Yn y pen draw, cynigiodd y palas Brydeinig gyfaddawd ar ffurf bathodyn brenhinol newydd yn ystod blwyddyn y coroni yn 1953. Ailgynlluniwyd y ddraig draddodiadol ac ychwanegwyd coron gyda'r arwyddair 'Y DDRAIG GOCH DDYRY CYCHWYN'.[23]

Bathodyn Brenhiniaeth Prydain Cymru 1953

Dirmygodd Winston Churchill, y prif weinidog ar y pryd, gynllun y bathodyn, fel y datgelir yng nghofnod canlynol y Cabinet o 1953:

Winston Churchill:

"Odious design expressing nothing but spite, malice, ill-will and monstrosity.
Words (Red Dragon takes the lead) are untrue and unduly flattering to Bevan."

Gwilym Lloyd George:

"Wd. rather be on R[oyal] Arms. This (dating from Henry VII) will be something.
We get no recognition in Union – badge or flags.[24]"

Baner fodern

[golygu | golygu cod]
Baner 1908 Cymdeithas Pleidlais i Fenywod Caerdydd a'r Cylch

Ym phasiant cenedlaethol Cymru 1909, mae'r ddraig Gymreig yn ymddangos yn sefyll ar gefndir gwyn. Mae'r ddraig Gymreig sy'n ymddangos ar y faner ar fwrdd Terra Nova Capten Scott hefyd yn ddraig sefyll ar gefndir gwyn a gwyrdd. Hyd at y pwynt hwn, nid oedd fersiwn safonol o'r ddraig Gymreig.[25]

Defnyddiwyd y ddraig ar faneri yn ystod digwyddiadau'r bleidlais i fenywod yng Nghymru yn y 1900au a'r 1910au. Roedd dogfennau derbyn y faner yn sywddogol yn cynnwys un nodyn gan un o gyn-aelodau “Gweithiwyd y faner gan Mrs Henry Lewis… [hi] hefyd oedd Llywydd Ffederasiwn Cymdeithasau Pleidlais Merched De Cymru + bu’n arwain adran De Cymru o’r Bleidlais Fawr Gorymdaith yn Llundain ar 17 Mehefin 1911, yn cerdded o flaen ei baner hardd ei hun… Bu’n achlysur gwych, rhyw 40,000 i 50,000 o ddynion + merched yn cymryd rhan yn y daith gerdded o Whitehall drwy Pall Mall, St James’s Street + Piccadilly i’r Albert Hall. Denodd y ddraig lawer o sylw – “Dyma’r Diafol” oedd cyfarchiad un grŵp o wylwyr.” [26]

Dydd Gwyl Dewi 1910-33

[golygu | golygu cod]

Rhwng 1910 ac 1916 bu sawl apêl gan gyngor trêf Caernarfon i godi baner y ddraig goch ar ben tŵr Eryr castell Caernarfon i gymryd lle baner yr undeb. Dywedodd y maer a dirprwy gwnstabl y castell, Charles A Jones, fod "yr awdurdodau wedi'u cynghori fod dim fath beth â baner Gymreig... dim ond bathodyn".[27][28][29]

Ar Ddydd Gŵyl Dewi 1932, wedi gwisgo mewn dillad beic modur, dringodd John Edward Jones (JE Jones) i ben Tŵr yr Eryr, Castell Caernarfon gyda thri arall, gan gynnwys nai David Lloyd George, William RP George. Yno fe wnaethon nhw ostwng Jac yr Undeb, a chodi’r Ddraig Goch a hoelio'r rhaffau i’r poly gyda styfflau a morthwyl. Arweiniodd hyn at ganu Hen Wlad Fy Nhadau gan dyrfa islaw. Wedi hyn, daeth y gwnstabliaeth leol gan roi baner yr undeb yn ôl i fyny. Yn hwyrach, daeth criw o fyfyrwyr Plaid Cymru o Fangor i’r amlwg ar gefn lori, gan dynnu baner yr undeb i lawr unwaith eto, a'i rwygo i ddarnau ar y maes.[30] [31][32]

Ar ddydd Gwyl Dewi 1933, codwyd baner y Ddraig Goch yngyd a baner yr undeb a pherfformiwyd y seremoni gan David Lloyd-George. Yn fuan wedyn, chwifiwyd baner Cymru ar holl adeiladau'r llywodraeth ar Fawrth y 1af. Sicrhaodd JE Jones fod canghennau Plaid Cymru ar draws y wlad yn pwyso ar yr awdurdodau lleol i wneud yr un peth. Yna trefnodd gynhyrchu mwy o faneri, a'u gwerthu gan wneud elw.[30]

Defnydd swyddogol

[golygu | golygu cod]
Y Ddraig Goch

Ym 1959, gollyngwyd defnydd y Llywodraeth o faner y bathodyn brenhinol o blaid y faner bresennol[33][34] ar anogaeth Gorsedd y Beirdd.[4]

Fel arwyddlun, mae draig goch Cymru yn bresennol ar faner genedlaethol Cymru, a ddaeth yn faner swyddogol yn 1959.[35]

Diwylliant boblogaidd

[golygu | golygu cod]

Yn y ffilm Black Panther, ymddengys baner Cymru yn cynrychioli Cymru annibynnol yn y Cenhedloedd Unedig.[36]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Davies, Edward (1809). “The” Mythology And Rites Of The British Druids, Ascertained By National Documents; And Compared With The General Traditions And Customs Of Heathenism, As Illustrated By The Most Eminent Antiquaries Of Our Age ; With An Appendix, Containing Ancient Poems And Extracts, With Some Remarks On Ancient British Coins (yn Saesneg). J. Booth. tt. 582–588.
  2. "Gwarchan of Maelderw". www.maryjones.us. Cyrchwyd 2024-01-14.
  3. Cambrian Quarterly Magazine and Celtic Repertory (yn Saesneg). proprietors. 1832. t. 322.
  4. 4.0 4.1 Lofmark, Carl (1995). A History of the Red Dragon. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 0-86381-317-8.
  5. "Y Ddraig yn Nychymyg a Llenyddiaeth y Cymry c.600 – c.1500" (PDF).
  6. Maclagan, Robert Craig (1882). Scottish Myths: Notes on Scottish History and Tradition (yn Saesneg). Maclachlan and Stewart. t. 70. ISBN 978-0-598-73846-2.
  7. Hackett, Martin (15 July 2014). Lost Battlefields of Wales. Amberley Publishing. ISBN 9781445637037 – drwy Google Books.
  8. Davies, John (25 Ionawr 2007). A History of Wales. Penguin. ISBN 9780140284751 – drwy Google Books.
  9. Breverton, Terry (15 May 2009). Owain Glyndwr: The Story of the Last Prince of Wales. Amberley Publishing. ISBN 9781445608761 – drwy Google Books.
  10. Jones, Francis (1969). The Princes and Principality of Wales (yn Saesneg). University of Wales P. t. 177. ISBN 978-0-900768-20-0.
  11. Ramsay, Sir James Henry (1892). Lancaster and York: A Century of English History (A.D. 1399-1485) (yn Saesneg). Clarendon Press.
  12. 12.0 12.1 Davies, John (2007-01-25). A History of Wales (yn Saesneg). Penguin Publishing Group. ISBN 978-0-14-028475-1.
  13. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Combe 1812
  14. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Meara 1983
  15. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw ArchaeologiaCambrensis1853
  16. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Woodward1896
  17. "Register | British Newspaper Archive". www.britishnewspaperarchive.co.uk. Cyrchwyd 2024-01-23.
  18. "Register | British Newspaper Archive". www.britishnewspaperarchive.co.uk. Cyrchwyd 2024-01-23.
  19. "The illustrated London news v.1 1842". HathiTrust (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-23.
  20. Jobbins, Siôn T. (2016). The Red Dragon: The Story of the Welsh Flag (yn Saesneg). Y Lolfa. t. 40. ISBN 978-1-78461-135-4.
  21. Maxwell Fyfe, David (9 February 1953). "Arms for Wales; Memorandum by the Secretary of State for the Home Department and Minister for Welsh Affairs" (PDF). nationalarchives.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-08-04. Cyrchwyd 2020-04-15.
  22. "Page 8714 | Issue 27385, 10 December 1901 | London Gazette | The Gazette". www.thegazette.co.uk. Cyrchwyd 2023-09-10.
  23. Eriksen, Thomas Hylland; Jenkins, Richard (2007-10-18). Flag, Nation and Symbolism in Europe and America (yn Saesneg). Routledge. t. 80. ISBN 978-1-134-06696-4.
  24. "Highlights of new Freedom of Information releases in August 2007 > The Cabinet Secretaries' Notebooks (CAB 195/11) > Arms for Wales". The National Archives (United Kingdom). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 November 2007.
  25. Phillips, Elen (1 March 2012). "Captain Scott's Welsh Flag". Amgueddfa Cymru: Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-06.
  26. ""Here comes the Devil": Welsh Suffrage and the Suffragettes". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-06.
  27. Caernarvon & Denbigh Herald, Friday 20 October 1916 - www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0002967/19161020/096/0006
  28. Western Mail, Friday 07 April 1916 - www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0000104/19160407/130/0004
  29. Liverpool Echo, Thursday 09 April 1914 - www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0000271/19140409/144/0008
  30. 30.0 30.1 "JE – Architect of Plaid Cymru Address by Dafydd Williams – Hanes Plaid Cymru" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-24.
  31. "Carnarvon Castle (National Flag)".
  32. Western Morning News, Wednesday 02 March 1932 - www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0000329/19320302/071/0007
  33. Barraclough, Edward Murray Conrad (1965). Flags of the World (yn Saesneg). Warne.
  34. "WELSH FLAG (Hansard, 23 February 1959)". hansard.millbanksystems.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-06. Cyrchwyd 2023-02-15.
  35. "Wales history: Why is the red dragon on the Welsh flag?". BBC News (yn Saesneg). 2019-07-06. Cyrchwyd 2022-09-06.
  36. Williams, Kathryn (2018-02-16). "Welsh flag flies as independent state in Marvel film Black Panther". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-24.

Gwall cyfeirio: Ni ddefnyddir y tag <ref> o'r enw "BBC2008", a ddiffinir yn <references>, yn y testun blaenorol.
Gwall cyfeirio: Ni ddefnyddir y tag <ref> o'r enw "BBC2014", a ddiffinir yn <references>, yn y testun blaenorol.
Gwall cyfeirio: Ni ddefnyddir y tag <ref> o'r enw "Llywelyn2017", a ddiffinir yn <references>, yn y testun blaenorol.
Gwall cyfeirio: Ni ddefnyddir y tag <ref> o'r enw "OPSI", a ddiffinir yn <references>, yn y testun blaenorol.
Gwall cyfeirio: Ni ddefnyddir y tag <ref> o'r enw "Sikes1881", a ddiffinir yn <references>, yn y testun blaenorol.
Gwall cyfeirio: Ni ddefnyddir y tag <ref> o'r enw "WalesOffice", a ddiffinir yn <references>, yn y testun blaenorol.

Gwall cyfeirio: Ni ddefnyddir y tag <ref> o'r enw "Williams1960", a ddiffinir yn <references>, yn y testun blaenorol.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]