Neidio i'r cynnwys

Padova

Oddi ar Wicipedia
Padova
Mathcymuned, dinas fawr, tref goleg, dinas-wladwriaeth Edit this on Wikidata
Poblogaeth206,496 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Boston, Iași, Nancy, Handan, Coimbra, Cagliari, Freiburg im Breisgau, Beira, Zadar, Simferopol, Rhydychen Edit this on Wikidata
NawddsantAnthony of Padua Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Eidaleg, Feniseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Padova Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd93.03 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr12 metr Edit this on Wikidata
GerllawBacchiglione Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAbano Terme, Albignasego, Cadoneghe, Legnaro, Limena, Noventa Padovana, Ponte San Nicolò, Rubano, Saonara, Selvazzano Dentro, Vigodarzere, Vigonovo, Vigonza, Villafranca Padovana Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.4064°N 11.8778°E Edit this on Wikidata
Cod post35121–35143 Edit this on Wikidata
Map

Dinas a chymuned (comune) yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal yw Padova (Lladin: Patavium; Saesneg: Padua), sy'n brifddinas Talaith Padova yn rhanbarth Veneto. Saif y ddinas ar Afon Bacchiglione, 40 km i'r gorllewin o Fenis a 29 km i'r de-ddwyrain o Vicenza.

Roedd y boblogaeth yn 2011 yn 206,192.[1]

Mae traddodiad ei bod wedi ei sefydlu yn 1183 CC gan y tywysog Antenor o Gaerdroea. Daeth yn municipium Rhufeinig yn 45 CC neu 43 CC.

Yn 601, gwrthryfelodd y ddinas yn erbyn y Lombardiaid, ac wedi gwarchae o 12 mlynedd, cipiwyd a llosgwyd hi gan Agilulf, brenin y Lombardiaid. Yn 899 anrheithiwyd Padova gan yr Hwngariaid. Sefydlwyd y brifysgol, y drydedd yn yr Eidal, yn 1222. Daeth dan reolaeth Fenis yn 1405, a pharhaodd hyn hyd 1797 heblaw am gyfnodau byr.

Ymhlith atyniadau Padova mae Capel Scrovegni (Eidaleg: Cappella degli Scrovegni), gyda chyfres o luniau fresco gan Giotto. Gardd Fotanegol Padova, Orto Botanico di Padova, a sefydlwyd yn 1545, yw'r hynaf yn y byd, ac mae wedi ei henwi'n Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Enwogion o Padova

[golygu | golygu cod]

Padova yw'r cefndir i ddrama William Shakespeare, The Taming of the Shrew.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. City Population; adalwyd 8 Mai 2018