Neidio i'r cynnwys

Nofel Gothig

Oddi ar Wicipedia
Nofel Gothig
Enghraifft o'r canlynolnovel genre, literary genre by form Edit this on Wikidata
Mathnofel ffantasi, llenyddiaeth Gothig Edit this on Wikidata

Math o nofel sydd yn ymwneud â'r arswyd a'r angau, ac yn aml rhamant, yw nofel Gothig, sydd yn enwedig yn cynnwys themâu'r macâbr, y ffantastig, a'r goruwchnaturiol. Bu'n ffurf boblogaidd ar ffuglen, yn enwedig yn Lloegr yn y 18g a'r 19g. Lleolir y nofel Gothig glasurol mewn castell dirgel neu dŷ bwgan, ynghanol mynwentydd ac adfeilion mynachlogydd, neu ar diroedd gwyllt, pictiwrésg, a phortreadir cymeriadau ar ffo drwy goridorau dryslyd a thwneli tanddaearol, yn archwilio ar hyd furiau a grisiau cerrig, ac yn canfod cudd-baneli a thrapddorau.[1][2]

Awgrymai isdeitl y nofel Gothig gyntaf, The Castle of Otranto: A Gothic Story (1764) gan Horace Walpole, estheteg ganoloesol, gan ddwyn i'r meddwl yr hen bensaernïaeth Gothig. Yn ddiweddarach yn y 18g daeth yr enw "Gothig" i bwysleisio elfennau'r macâbr yn y fath ffuglen, ac heb o reidrwydd adeiladau Gothig na themâu canoloesol ymhlyg ei ystyr. Bu'r nofel Gothig Saesneg ar ei hanterth yn y 1790au a dechrau'r 1800au, ac ymhlith olynwyr Walpole bu Matthew Gregory Lewis (The Monk, 1796), C. R. Maturin (Melmoth the Wanderer, 1820), William Thomas Beckford (Vathek, 1786), Ann Radcliffe (A Sicilian Romance, 1790; The Mysteries of Udolpho, 1794; The Italian, 1797), a Mary Shelley (Frankenstein, 1818). Dangosai'r garfen hon o awduron fedr wrth gyflwyno technegau a motiffau newydd i'r genre, gan lunio straeon llawn arswyd ac iasoer. Un o'r prif nofelwyr Gothig o Unol Daleithiau America yn y cyfnod hwn oedd Charles Brockden Brown. Câi'r nofel Gothig ei gwatwar gan Thomas Love Peacock yn ei nofelau dychanol Nightmare Abbey (1818) a Gryll Grange (1861).[1] Trosglwyddwyd y Gothig i ieithoedd eraill yn y cyfnod Rhamantaidd, er enghraifft yn straeon Almaeneg E. T. A. Hoffmann.

Un o'r nofelwyr Gothig nodedig yng nghanol y 19g oedd y Gwyddel Sheridan Le Fanu. Diflannodd y nofel Gothig glasurol wrth iddi gael ei throi'n barodi, ond cafodd ddylanwad mawr ar sawl genre arall, gan gynnwys y stori ysbryd, y nofel dditectif, a ffuglen arswyd. Ceir elfen o'r Gothig trwy gydol hynt llên Lloegr yn y 19g, gan gynnwys gweithiau'r chwiorydd Brontë—yn enwedig Villette (1853) gan Charlotte Brontë—a nifer o nofelau Charles Dickens. Tynnai'r Americanwr Edgar Allan Poe yn gryf ar y Gothig yn ei straeon dirgel ac arswyd. Esiampl hwyr o'r nofel Gothig yw Dracula (1897) gan Bram Stoker.

Blodeuai'r genre yn yr 20g ar ffurf y stori arswyd boblogaidd. Cydnabuwyd elfennau'r Gothig hefyd, gan y beirniaid, mewn nofelau a straeon byrion William Faulkner, Carson McCullers, John Gardner, Joyce Carol Oates, Cormac McCarthy, Diane Johnson, Emma Tennant, ac Angela Carter.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Oxford University Press, 1995), tt. 411–12.
  2. (Saesneg) Gothic novel. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Rhagfyr 2021.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]