Il turco in Italia
Gwisg Maria Callas ar gyfer rôl Fiorilla, 1955 | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith drama-gerdd |
---|---|
Gwlad | yr Eidal |
Iaith | Eidaleg |
Dyddiad cyhoeddi | 1814 |
Genre | opera buffa |
Cymeriadau | Don Geronio, Prosdocimo, Albazar, Zaida, Fiorilla, Narciso, Selim |
Libretydd | Felice Romani |
Lleoliad y perff. 1af | La Scala |
Dyddiad y perff. 1af | 14 Awst 1814 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Cyfansoddwr | Gioachino Rossini |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Il turco in Italia (Y Twrc yn yr Eidal) yn opera buffa mewn dwy act gan Gioachino Rossini. Ysgrifennwyd y libreto Eidaleg gan Felice Romani. Roedd yn addasiad o libreto gan Caterino Mazzolà a osodwyd fel opera (gyda'r un teitl) gan y cyfansoddwr Almaeneg Franz Seydelmann ym 1788.[1]
Dylanwadwyd ar y gwaith gan Così fan tutte, Mozart, a berfformiwyd yn yr un theatr ychydig cyn gwaith Rossini. Er nad yw wedi ei recordio yn aml, mae'r agorawd delynegol yn un o'r enghreifftiau gorau o arddull nodweddiadol Rossini. Mae cyflwyniad anarferol o hir yn cynnwys unawd corn pruddglwyfus estynedig gyda chyfeiliant cerddorfaol llawn, cyn ildio i'r brif thema fywiog a digrif.[2]
Hanes perfformiad
[golygu | golygu cod]Perfformiwyd Il turco in Italia gyntaf yn La Scala, Milan, ar 14 Awst 1814.[3] Fe’i rhoddwyd yn Llundain yn Theatr Ei Fawrhydi ar 19 Mai 1822. Fe'i llwyfannwyd gyntaf yn Ninas Efrog Newydd yn y Park Theater ar 14 Mawrth 1826 gyda Maria Malibran, Manuel García Senior, Manuel García Junior, Barbieri, Crivelli, Rosich ac Agrisani. Ym 1950 cafodd ei adfywio yn Rhufain yn y Teatro Eliseo gyda Maria Callas. Ym 1955, serennodd Callas eto fel Fiorilla, y tro hwn yn y Teatro alla Scala lle cynhyrchwyd yr opera gan Franco Zeffirelli. Mewn blynyddoedd diweddarach mae Fiorilla wedi cael ei ganu gan Cecilia Bartoli. Atgyfodwyd eto gan La Scala yn 2020, ond amharwyd ar y rhediad oherwydd y gofid mawr.[4]
Rolau
[golygu | golygu cod]Rôl | Math o lais | Cast Premiere, Awst 14, 1814 (Arweinydd: Alessandro Rolla ) |
---|---|---|
Don Geronio, gŵr bonheddig o Napoli | bas | Luigi Pacini |
Fiorilla, ei wraig | soprano | Francesca Maffei Festa |
Selim, y Twrc | bas | Filippo Galli |
Narciso, mewn cariad â Fiorilla | tenor | Giovanni David |
Prosdocimo, bardd | bariton | Pietro Vasoli |
Zaida, Twrc | mezzo-soprano | Adelaide Carpano |
Albazar, Twrc | tenor | Gaetano Pozzi |
Sipsiwn, Twrciaid, pobl - yn y Corws |
Crynodeb
[golygu | golygu cod]Act 1 [7]
[golygu | golygu cod]Ar y traeth ger Napoli
Mae'r bardd Prosdocimo yn chwilio am gynlyn ar gyfer drama buffo. Mae'n cwrdd â band o Sipsiwn, gan gynnwys Zaida merch olygus ond anhapus a'i chyfaill mynwesol Albazar. Efallai y gall y Sipsiwn ddarparu rhai syniadau?
Mae ffrind Prosdocimo, Geronio, dyn cynhyrfus ac weithiau'n ffôl, yn chwilio am ddynes dweud ffortiwn, i roi cyngor iddo am ei broblemau priodasol, ond mae'r sipsiwn yn ei bryfocio. Dywed Zaida wrth Prosdocimo ei bod hi'n dod o harîm Twrcaidd. Roedd hi a'i meistr, y Tywysog Selim, mewn cariad, ond roedd gwrthwynebwyr cenfigennus yn ei chyhuddo o anffyddlondeb a bu'n rhaid iddi ffoi am ei einioes, yng nghwmni Albazar. Serch hynny, mae hi'n dal i garu dim ond un dyn a'r dyn hwnnw yw Selim. Mae Prosdocimo yn gwybod y bydd tywysog o Dwrci yn cyrraedd yr Eidal cyn bo hir. Efallai y gall helpu? Mae gwraig ifanc alluog Geronio, Fiorilla, yn mynd i ganu (mewn cyferbyniad â Zaida) am lawenydd cariad rhydd a dilyffethair. Mae llong o Dwrci yn cyrraedd ac mae'r tywysog yn dod i mewn. Selim ei hun ydyw. Mae Fiorilla yn cael ei ddenu ar unwaith i'r Twrc golygus, ac mae rhamant yn datblygu'n gyflym. Mae Narciso yn ymddangos wrth fynd ar ei drywydd. Mae'n edmygydd aneffeithiol o Fiorilla, sydd i'w gweld fel ffrind i'w gŵr. Mae Geronio yn dilyn, yn arswydo o glywed bod Fiorilla yn mynd â'r Twrc adref i yfed ei goffi!
Tŷ Geronio
Mae Fiorilla a Selim yn fflyrtio. Mae Geronio yn mynd i mewn i'r tŷ yn swil ac mae ei addfwynder annisgwyl yn creu argraff ar Selim i ddechrau, fodd bynnag mae Narciso yn dychryn Geronio. Mae'r trefniant domestig yn cythruddo Selim ac mae'n gadael ar ôl trefnu'n dawel i gwrdd â Fiorilla eto ar ei long. Dywed Geronio wrth Fiorilla na fydd yn caniatáu mwy o Dwrciaid nac Eidalwyr, yn ei dŷ. Mae hi'n ymateb i'w gwynion gydag anwyldeb, ac ar ôl iddo ildio, yn bygwth ei gosbi trwy fwynhau ei hun mewn modd hyd yn oed yn fwy gwyllt.
Y traeth yn y nos
Mae Selim yn aros am Fiorilla. Yn lle mae'n cwrdd â Zaida. Mae'r cyn cariadon mewn sioc ac wrth eu bodd, ac yn datgan unwaith eto eu cariad at ei gilydd. Mae Narciso yn ail-ymddangos, ac yna Fiorilla mewn cuddwisg, gyda Geronio ar ei thrywydd. Mae Selim yn drysu'r rhwng Fiorilla a Zaida gan fod y ddwy yn gwisgo llen, ac mae'r ddwy ddynes yn dod wyneb yn wyneb yn sydyn. Mae Fiorilla yn cyhuddo Selim o frad. Mae Zaida yn wynebu Fiorilla. Mae Geronio yn dweud wrth ei wraig am fynd adref. Mae yna ddiweddglo stormus.
Act 2 [8]
[golygu | golygu cod]Mewn tafarn
Mae Selim yn mynd at Geronio mewn cyfeillgarwch, gan gynnig prynu Fiorilla. Yn y ffordd honno gall Geronio gael gwared ar ei broblem ddomestig a gwneud rhywfaint o arian hefyd. Mae Geronio yn gwrthod. Mae Selim yn dweud os na chaiff ei phrynu bydd yn ei chipio hi ymaith. Ar ôl iddynt ymadael, mae Fiorilla a grŵp o'i ffrindiau yn ymddangos, ac yna Zaida. Mae Fiorilla wedi trefnu cyfarfod rhyngddynt a Selim, fel y bydd y Twrc yn cael ei orfodi i benderfynu rhwng y ddwy ddynes. Mae Selim yn methu gwneud penderfyniad, dydy o ddim yn dymuno colli'r naill na'r llall ohonynt. Mae Zaida yn gadael mewn ffieidd-dod. Mae Selim a Fiorilla yn ffraeo ond yn y pen draw yn cael eu cymodi. Mae'r bardd yn dweud wrth Geronio, bydd yna barti. Bydd Fiorilla yno i gwrdd â Selim, a bydd yn gwisgo llen i guddio ei hwyneb. Dylai Geronio fynd hefyd - wedi'i guddwisgo fel Twrc! Mae Narciso yn clywed hyn, ac yn penderfynu manteisio ar y sefyllfa i gymryd Fiorilla iddo'i hun, er mwyn dial am ei difaterwch blaenorol. Mae Geronio yn galaru am ei dynged, o gael gwraig mor ofnadwy o wallgof. Mae Albazar yn mynd yn cario gwisg ar gyfer Zaida!
Ystafell ddawns gyda phobl mewn mygydau a dawnswyr
Mae Fiorilla yn camgymryd Narciso am Selim ac mae Narciso yn ei harwain i ffwrdd. Yn y cyfamser, mae Selim yn ymuno â Zaida, o dan yr argraff mai hi yw Fiorilla. Mae Geronio mewn anobaith llwyr wrth ddod o hyd i ddau gwpl a dwy "Fiorilla"! Mae Narciso a Selim ill dau yn erfyn ar eu partneriaid i adael gyda nhw. Yn ddryslyd ac yn ddig, mae Geronio yn ceisio atal y ddau gwpl, ond maen nhw'n dianc yn y pen draw.
Yn ôl yn y dafarn
Mae Prosdocimo yn cwrdd â Geronio. Maent bellach yn gwybod bod Selim gyda Zaida ac yn dyfalu bod Fiorilla gyda Narciso. Mae Albazar yn cadarnhau y bydd Selim yn bendant yn aros gyda Zaida. Mae Prosdocimo yn cynghori Geronio i gael ei ddial ar Fiorilla trwy esgus ei ysgaru a bygwth ei hanfon yn ôl at ei theulu.
Ar ôl darganfod twyll Narciso, mae Fiorilla yn ceisio dod o hyd i Selim, ond mae eisoes wedi gadael gyda Zaida. Mae'n dychwelyd adref lle mae'n cael o hyd i'r llythyr ysgariad, a'i heiddo wedi cael ei symud o'r tŷ. Mae hi'n cael ei anrheithio gan gywilydd, ac mae'r cyfan o'i chyfeillion yn troi cefn arni.
Y traeth
Mae Selim a Zaida ar fin hwylio am Dwrci, tra bod Fiorilla yn chwilio am gwch i fynd â hi yn ôl i'w thref enedigol. Mae Geronio yn dod o hyd iddi ac yn maddau iddi. Cânt eu cymodi'n serchog. Mae'r ddau gwpl bellach yn cael eu haduno ac mae Prosdocimo wrth ei fodd gyda'i ddiweddglo hapus.
Recordiadau
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Cast: Don Geronio, Donna Fiorilla, Selim, Don Narciso, Zaida, Prosdocimo, Albazar |
Arweinydd,
Tŷ Opera a Cherddorfa |
Label [9] |
---|---|---|---|
1954 | Franco Calabrese, Maria Callas, Nicola Rossi-Lemeni, Nicolai Gedda, Jolanda Gardino, |
Gianandrea Gavazzeni,
Corws a Cherddorfa'r Teatro alla Scala, Milan |
CD Sain: Clasuron EMI Cat: CD 58662 |
1958 | Franco Calabrese, Graziella Sciutti, Sesto Bruscantini, Agostino Lazzari, Renata Mattioli, Scipio Colombo |
Nino Sanzogno, Cerddorfa a Chorws Symffoni RAI, Milan |
CD sain: Pantheon / Myto / Wrania / Opera d'Oro Cat: CD 6653 |
1978 | James Billings, Beverly Sills, Donald Gramm, Henry Price, Susanne Marsee |
Julius Rudel, Cerddorfa a Chorws Opera Dinas Efrog Newydd (Recordiad fideo o berfformiad mewn cyfieithiad Saesneg Andrew Porter yn Opera Dinas Efrog Newydd, llwyfan wedi'i gyfarwyddo gan Tito Capobianco, 4 Hydref) |
DVD: Premiere Opera Ltd. DVD 5148 |
1981 | Enzo Dara, Montserrat Caballé, Samuel Ramey, Ernesto Palacio, Jane Berbié, Leo Nucci, Paolo Barbacini |
Riccardo Chailly, Cerddorfa Ffilharmonig Genedlaethol a Chorws Opera Ambrosian |
CD sain: CBS “Masterworks” / Sony Music Distribution Cath: CD 37859 |
1991 | Enrico Fissore, Sumi Jo, Simone Alaimo, Raúl Giménez, Susanne Mentzer, Alessandro Corbelli, Peter Bronder |
Neville Marriner, Academi St Martin in the Fields a Chorws Opera Ambrosian |
CD sain: Philips Cat: 000943202 |
1998 | Michele Pertusi, Cecilia Bartoli, Alessandro Corbelli, Ramón Vargas, Laura Polverelli, Roberto de Candia, Francesco Piccoli |
Riccardo Chailly, Corws Theatr a Cherddorfa La Scala |
CD Sain: Decca / Llundain Cat: 458924 |
2000 | Paolo Rumetz, Paoletta Marrocu, Antonio de Gobbi, Davide Cicchetti, Laura Brioli |
Alessandro Pinzauti, Cerddorfa a Chorws Citta Lirica |
CD sain: Kicco Classic Cat: 53 |
2002 | Paolo Rumetz, Cecilia Bartoli, Ruggero Raimondi, Reinaldo Macias, Judith Schmid |
Franz Welser-Möst, Cerddorfa a Chorws Opera Zürich (Recordiad fideo o berfformiad gan Opera Zürich, Ebrill neu Fai 2002) |
DVD: ArtHaus Musik Cat: 100.369 |
2005 | Piero Guarnera, Myrtò Papatanasiu, Natale de Carolis, Daniele Zanfardino, Damiana Pinti, Massimiliano Gagliardo, Amadeo Moretti |
Marzio Conti, Cerddorfa a Chorws Theatr y Maruccino, Chieti |
CD Sain: Naxos Records Cat: 8660183-84 |
2008 | Andrea Concetti, Alessandra Marianelli, Marco Vinco, Filippo Adami, Elena Belfiore, Bruno Taddia, Daniele Zanfardino |
Antonello Allemandi, Cerddorfa Haydn o Bolzano a Trento |
CD Sain: Dynamic Cat: 5661-2 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Il Turco in Italia | Giaochino Rossini". Opera-Arias.com. Cyrchwyd 2020-09-24.
- ↑ "Il Turco in Italia: Synopsis - Opera Libretti". www.naxos.com. Cyrchwyd 2020-09-24.[dolen farw]
- ↑ "Turco in Italia | Opera Scotland". www.operascotland.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-18. Cyrchwyd 2020-09-24.
- ↑ "Il turco in Italia -Teatro alla Scala". www.teatroallascala.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-29. Cyrchwyd 2020-09-24.
- ↑ Holden, Amanda (gol); The New Penguin Opera Guide yud 774. Penguin: Llundain 2001
- ↑ "BBC Radio 3. Thursday Opera Matinee - Rossini's Il Turco in Italia". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2020-09-24.
- ↑ Staatsoper, Bayerische. "Il turco in Italia". Bayerische Staatsoper. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-28. Cyrchwyd 2020-09-24.
- ↑ "Il Turco in Italia". Opera Guide (yn Eidaleg). Cyrchwyd 2020-09-24.
- ↑ Recordiadau o Il turco in Italia ar wefan operadis-opera-discography.org.uk