Neidio i'r cynnwys

Germania Superior

Oddi ar Wicipedia
Germania Superior
MathTalaith Rufeinig Edit this on Wikidata
PrifddinasMainz, Trier Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 83 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolRoman Gaul, yr Ymerodraeth Rufeinig Edit this on Wikidata
SirDiocese of Gaul Edit this on Wikidata
GwladRhufain hynafol, yr Ymerodraeth Alaidd, Rhufain hynafol Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaUpper German-Raetian Limes Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49.15°N 7.69°E Edit this on Wikidata
Map

Roedd Germania Superior ("Germania Uchaf") yn dalaith o'r Ymerodraeth Rufeinig. Fe'i gelwid yn 'uchaf' am ei bod yn uwch i fyny Afon Rhein na Germania Inferior. Roedd yn cynnwys y tiriogaethau sy'n awr yng ngorllewin Y Swistir, rhan o ddwyrain Ffrainc o gwmpas Mynyddoedd y Jura ac Alsace, a de-orllewin Yr Almaen. Y dinasoedd pwysicaf oedd Besontio (Besançon heddiw), Argentorate (Strasbourg heddiw) a Aquae Mattiacae (Wiesbaden). Prifddinas y dalaith oedd Moguntiacum (Mainz heddiw).

Talaith Germania Superior yn yr Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC

Gorchfygwyd pobloedd yr ardal, y Belgae, gan Iŵl Cesar. Dywedir fod y Belgae yn gymysgedd o Geltiaid ac Almaenwyr, neu'n Geltiaid o dras Almaenig. Yn 90 daeth Germania Superior yn dalaith ymerodraethol, gan ennill llawer o diriogaeth oddi wrth Gallia Lugdunensis. Cyn iddo ddod yn ymerawdwr by Trajan yn rhaglaw Germania Superior rhwng 96 a 98.

Tua 300 daeth y rhan o'r dalaith sy'n awr yn y Swistir yn rhan o dalaith Provincia Maxima Sequanorum cyn dod yn rhan o Fwrgwndi yn nechrau'r 5g.

Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia