Neidio i'r cynnwys

Ebe Stignani

Oddi ar Wicipedia
Ebe Stignani
Ganwyd11 Gorffennaf 1903, 11 Gorffennaf 1904 Edit this on Wikidata
Napoli Edit this on Wikidata
Bu farw5 Hydref 1974 Edit this on Wikidata
Imola Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Math o laismezzo-soprano, contralto Edit this on Wikidata

Roedd Ebe Stignani (10 Gorffennaf 1903 - 5 Hydref 1974) yn gantores opera Eidalaidd, a oedd yn flaenllaw yn y rolau mezzo-soprano ddramatig yn y repertoire Eidalaidd yn ystod gyrfa llwyfan gwnaeth para am fwy na deng mlynedd ar hugain.[1]

Ganwyd Stignani yn Napoli ym 1903 (mae rhai ffynonellau'n rhoi blwyddyn ei geni fel 1904). Astudiodd gerddoriaeth am bum mlynedd yn y Conservatoire San Pietro a Majella yn Napoli. Roedd ei chwrs yn cynnwys gwersi canu'r piano a chyfansoddi yn ogystal â chanu lleisiol. Fel arfer, dywedir bod dyddiad ei début canu ym 1925 yn Teatro di San Carlo, Napoli, yn rôl Amneris yn Aida Verdi, ond mae tystiolaeth ei bod wedi canu nifer o rolau'r flwyddyn flaenorol. Ym 1926, gwahoddwyd hi i La Scala, Milan gan Arturo Toscanini i ganu'r rhan y Dywysoges Eboli yn Don Carlos gan Verdi,[2] a pharhaodd Milan i fod yn brif lwyfan iddi yn ystod weddill ei gyrfa. Canodd bob un o brif rolau mezzo-soprano'r Eidal, ond hefyd fe aeth i'r afael ag Ortrud (Lohengrin) a Brangäne (Tristan und Isolde) Wagner, a Dalila (Samson et Dalila) Saint-Saëns dan arweiniad Victor de Sabata.

Ymddangosodd gydag Opera San Francisco ym 1938 ac eto ym 1948 ond ni fu erioed yn y Metropolitan Opera yn Efrog Newydd. Teithiodd yn helaeth yng Ngogledd America yn y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Roedd ei hymddangosiad cyntaf yn Y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden ym 1937, fel Amneris, a dychwelodd i Lundain sawl gwaith, yn enwedig yn rôl Adalgisa mewn partneriaeth â Norma Maria Callas ym 1952 a 1957. Yn yr ail o'r ddau berfformiad ym 1957, wedi cymeradwyaeth byddarol ar ôl y deuawd Mira O Norma, gwnaeth yr arweinydd, John Pritchard, roi encôr o'r rhan olaf. Yn ôl pob tebyg dyma'r unig dro iddi hi erioed ganu encôr mewn opera trwy ei gyrfa. Ymddangosodd hefyd yn aml yn Ne America, gan gynnwys y Teatro Colónyn Buenos Aires, ac mewn llawer o ddinasoedd Ewropeaidd eraill y tu allan i'r Eidal, gan gynnwys Paris, Madrid, a Berlin (lle canodd ym 1933, 1937 a 1941). Ymhlith y rolau newydd a grëwyd ganddi yn ystod ei gyrfa oedd Cathos yn opera Felice Lattuada Le preziose ridicole (1929), a La Voce yn opera Respighi Lucrezia (1937).

Ymddeolodd o'r llwyfan ym 1958 ar ôl ymddangosiadau yn Llundain (fel Azucena) ac yn Nulyn (fel Amneris). Wedi hynny, bu'n byw yn dawel wedi ymddeol i'w chartref yn Imola lle bu farw yn 67 mlwydd oed.[3]

Recordiadau

[golygu | golygu cod]

Recordiodd Stignani amrywiaeth o ariâu operatig ar ddiwedd y 1930au a dechrau'r 1940au, gan adlewyrchu'r amrywiaeth o rolau yn ei repertoire, ac mae'r rhain wedi cael eu hailgyhoeddi ar CD.

Ymhlith ei recordiadau o operâu / oratorios cyflawn mae:

  • Ponchielli: La gioconda, (dan arweiniad Lorenzo Molajoli), 1931, mewn Eidaleg (rôl Laura), gyda Giannina Arangi-Lombardi.
  • Verdi: Requiem, (dan arweiniad Tullio Serafin ), recordiwyd 1939, gyda Maria Caniglia, Beniamino Gigli ac Ezio Pinza.
  • Verdi: La forza del destino, (dan arweiniad Gino Marinuzzi ), recordiwyd 1941 (rôl Preziosilla) gyda Maria Caniglia.
  • Verdi: Aida, (dan arweiniad Tullio Serafin), recordiwyd 1946, (rôl Amneris) gyda Maria Caniglia a Beniamino Gigli.
  • Bizet: Carmen, (dan arweiniad Vincenzo Bellezza), recordiad byw 1949, (rôl Carmen); gyda Beniamino Gigli.
  • Verdi: Aida (dan arweiniad Alberto Erede), recordiwyd 1952, gyda Renata Tebaldi a Mario Del Monaco (rôl Amneris).
  • Verdi: Il trovatore, (dan arweiniad Antonino Votto), recordiad byw 1953, Teatro alla Scala, Milan, (rôl Azucena), gyda Maria Callas a Gino Penno.
  • Spontini: La Vestale, (dan arweiniad Antonino Votto), recordiad byw 1954, yn Eidaleg, yn Teatro alla Scala, Milan, (rôl La Gran Vestale), gyda Maria Callas a Franco Corelli.
  • Bellini: Norma, (dan arweiniad Tullio Serafin), recordiwyd 1954, (rôl Adalgisa).

Detholiad

[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Celletti, R. [1964]. Le grandi voci (Roma: Istituto per la collaborazione culturale).
  • Davidson, E. [1971]. "All about Ebe", Opera News, xxxv/21 (1971), tud. 28.
  • De Franceschi, Bruno, and Pier Fernando Mondini. [1980]. Ebe Stignani: una voce e il suo mondo. (Imola: Grafiche Galeati).
  • Rasponi, Lanfranco. [1982]. The last prima donnas. (New York, Knopf).
  • Ebe Stignani, ym mywgraffiadau Opera: Bob Rideout

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]