Neidio i'r cynnwys

Duwies

Oddi ar Wicipedia

Bod dwyfol benywaidd yw duwies. Gallai fod yn un o'r duwiau yn y crefyddau amldduwiol neu'n fod dwyfol goruchel y cyfeirir ati'n aml fel 'Y Dduwies Fawr' neu 'Y Fam Dduwies'.

Ymhlith y duwiesau enwocaf yn yr Henfyd y mae Athena, nawdd-dduwies dinas Athen, Anahita yn nhraddodiad Persia, ac Isis, chwaer a gwraig y duw Osiris.

Ceir duwiesau niferus yn Hindŵaeth, e.e. Kali, Parvati a Deva. Ceir nifer o dduwiesau yn nhraddodiad Bwdhaeth Mahayana yn ogystal, yn arbennig ym Mwdhaeth Tibet, e.e. Tara.

Prif dduwiesau'r Henfyd

[golygu | golygu cod]
Y dduwies Isis
Danae a'r cawod aur, gan Tintoretto.


Ceridwen a'r pair
Sif

Crefyddau cyfoes

[golygu | golygu cod]

Devi (neu Mahadevi, 'Y Dduwies Fawr') yw duwies oruchel Hindŵaeth. Gellid dadlau fod pob un o'r duwiesau eraill yn agweddau arni hi. Mae pob duwies yn gymar i un o'r duwiau. Yn ogystal â'r duwiesau mawr a nodir isod, ceir nifer o dduwiesau llai, weithiau'n agweddau ar un o'r duwiesau mwy, weithiau'n dduwiesau brodorol lleol a gawsant eu cymathu â Hindŵaeth.

Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.