Ceridwen
Ceridwen | |
---|---|
Ceridwen (1910) gan Christopher Williams (1873-1934). | |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Priod | Tegid Foel |
Plant | Morfran eil Tegid, Creirwy, Taliesin |
Cymeriad chwedlonol Gymreig yw Ceridwen. Mae hi'n cael ei chysylltu â'r Taliesin chwedlonol (a adnabyddir fel 'Gwion Bach' yn rhan gyntaf y chwedl) yn y chwedl Hanes Taliesin. Yn y chwedl honno, mae hi'n wyddones sy'n byw ar lan Llyn Tegid ac yn wraig i Tegid Foel. Yn ôl rhai dehonglwyr myth, gellid ei hystyried yn agwedd ar y Fam-dduwies ac mae'n bosibl fod ei gwreiddiau'n gorwedd yn y cyfnod cyn dyfodiad y Celtiaid i Brydain. Yn y Traddodiad Barddol Cymreig, Pair Ceridwen yw ffynhonnell yr Awen a phob Gwybodaeth.
Etymoleg
[golygu | golygu cod]Y ffurf gynnar ar ei henw, a geir mewn testun yn Llyfr Du Caerfyrddin, oedd Cyrridfen (o cyrrid- "rhywbeth cam"? + ben "gwraig, benyw"). Ond mae gwen yn yr hen ystyr "sanctaidd, dwyfol", yn elfen gyffredin mewn enwau santesau Cymreig (Gwenffrewi, Dwynwen, er enghraifft) ac enwau duwiesau a chymeriadau chwedlonol fel Gwenhwyfar a Branwen. Rhydd Rachel Bromwich "teg ac annwyl" fel ystyr yr enw Ceridwen. Yn ôl pob tebyg, roedd Ceridwen yn dduwies Geltaidd yn wreiddiol, cyn droi'n ffigwr llên gwerin.
Y chwedl
[golygu | golygu cod]Yn y chwedl Hanes Taliesin (neu Ystoria Taliesin[1]), mae Ceridwen yn wraig i Degid Foel ac yn byw ym Mhenllyn ar lan Llyn Tegid (ger Y Bala heddiw). Fe'i cysylltir â dŵr a pherlysiau "rhinweddol" (h.y. sy'n iachau neu sy'n gysylltiedig â grymoedd hud a lledrith). Mae hi'n berwi'r llysiau mewn pair "am undydd a blwyddyn" ar lan y llyn ar gyfer ei mab Morfran (a lysenwir 'Afagddu' am ei fod mor hyll). Yn ogystal mae ganddi ferch hardd o'r enw Creirwy, sy'n un o "Dair Gwenriain Ynys Brydain" yn Nhrioedd Ynys Prydain.
Mae'r bortread o Geridwen yn berwi ei pherlysiau yn y pair yn debyg i'r disgrifiadau traddodiadol o wrachod (fel y tair gwrach yn Macbeth Shakespeare). Mae'n debyg mai duwies Natur gyda galluoedd creadigol a dinistriol oedd hi, fel Hecate ym mytholeg Roeg. Mae hi'n newid rhith wrth geisio dal Gwion Bach/Taliesin, gan newid yn filiast, yn iâr ac yn bysgodyn, ac mae hyn hefyd yn awgrymu ei bod yn cynrychioli Natur.
Tystiolaeth y beirdd
[golygu | golygu cod]Ceir sawl cyfeiriad at Bair Ceridwen yng ngwaith y beirdd Cymraeg. Cafodd Taliesin, yn ei rith chwedlonol, tair dafn o ysbrydoliaeth yr Awen ohoni, ar ddamwain. Roedd Taliesin yn cael ei weld fel tad y Traddodiad Barddol gan y beirdd. Cyfeirir at Ceridwen a'i phair, ac at y Taliesin chwedlonol fel bardd Elffin, yng ngwaith rhai o Feirdd y Tywysogion, e.e. Cynddelw Brydydd Mawr yn y 12g.[2] Yn ogystal, ceir cyfeiriadau at Bair Ceridwen mewn rhai o'r cerddi chwedlonol a dadogir ar Daliesin yn Llyfr Taliesin.[3] Mae'n bosibl bod rhai o'r cerddi hyn yn dyddio o tua'r 10g.
Dehongliadau modern
[golygu | golygu cod]Cytunodd Syr John Rhys, yn 1878, â damcaniaeth myth yr Haul yr ysgolhaig Almaenig Max Muller, sy'n honni "mai duwiesau'r wawr yw Gwenhwyfar a Ceridwen."[4] Yn ei lyfr dylanwadol The White Goddess ac ysgrifau eraill, ceisiodd Robert Graves weithio Ceridwen i mewn i'w gysyniad am y Dduwies Driphlyg, gan weld ynddi agwedd ddinistriol y dduwies honno.[5]
Mae dilynwyr Wica yn gweld Ceridwen - weithau wrth yr enw 'Ceridwyn', nad oes sail iddi yn y traddodiad Cymreig - yn dduwies gyda'i phair yn symbol o'r egwyddor fenywaidd sanctaidd.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ford, Ystoria Taliesin.
- ↑ Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein, tud. 309.
- ↑ J. Gwenogvryn Evans (gol.), The Book of Taliesin (Llanbedrog, 1910), 33.10; 27.13-14; 33.10.
- ↑ John Rhys, Lectures on Welsh Philology, Trübner, 1879, tud. 305.
- ↑ Ronald Hutton, The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2001, tud. 192.
- ↑ "Cerridwen: Keeper of the Cauldron". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-11. Cyrchwyd 2009-02-08.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain, gol. Rachel Bromwich (Caerdydd, arg. newydd 1991)
- Patrick K. Ford, Ystoria Taliesin (Caerdydd, 1992)
- Ifor Williams, Chwedl Taliesin (Caerdydd, 1957)