Coelbren y Beirdd
System ysgrifennu a luniwyd gan Iolo Morganwg ar ddiwedd y 18g yw Coelbren y Beirdd.
Yn ôl Iolo, dyma'r wyddor hynafol a ddefnyddid gan yr hen Gymry a'r Brythoniaid. Honnai iddynt eu hetifeddu gan y Derwyddon. Mae'r ymadrodd "naddu gwawd" (gwawd="barddoniaeth, cân") yn drosiad a geir yn aml yng ngwaith y beirdd canoloesol o gyfnod y Gogynfeirdd ymlaen. Ysbrydolwyd Iolo gan hyn i gredu fod y beirdd a dysgedigion yr hen Gymry yn cofnodi eu cerddi a'u gwybodaeth mewn llyfrau pren â'r geiriau wedi'u "naddu" ynddynt: dyma'r "Beithynen".
Bu peth amheuaeth am honiad Iolo ar y dechrau, ond yn 1840, ar ôl marwolaeth Iolo, cyhoeddodd ei fab Taliesin y llyfr Traethawd ar Awdurdodaeth Coelbren y Beirdd a chafodd y Goelbren ei derbyn gan Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Fe'i gwelir hyd heddiw ar gadeiriau eisteddfodol.
Gwyddys erbyn heddiw nad oes sail hanesyddol o gwbl i'r Goelbren a'i bod yn ffrwyth dychymyg toreithiog Iolo.[1][2][3][4]
Y Coelbren heddiw
[golygu | golygu cod]Prin iawn iawn y gwelir defnydd o'r Coelbren heddiw. Y lle amlycaf i'w ei gweld yw wedi arsgrifio ar faeni Cylch yr Orsedd a godi wrth i'r Eisteddfod Genedlaethol cael ei chynnal mewn tref a'r Orsedd gynnal ei sermoniïau yno. Ceir rhain yn y rhanfwyaf o drefi Cymru, fel rheoli mewn parc gyhoeddus neu man agored. Gwelir arysgrifiadau weithiau hefyd ar ddeunydd eraill yn gysylltiedig â'r Orsedd megis mewn dyluniad ar gyfer Cadair yr Eisteddfod neu Goron
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cambrian Archaeological Association (1846). Archaeologia cambrensis. W. Pickering. tt. 472–. ISBN 978-0-9500251-9-3. Cyrchwyd 8 November 2012.
- ↑ Lewis (Glyn Cothi) (1837). Gwaith Lewis Glyn Cothi: The Poetical Works of Lewis Glyn Cothi, a Celebrated Bard, who Flourished in the Reigns of Henry VI, Edward IV, Richard III, and Henry VII. Hughes. tt. 260–. Cyrchwyd 8 November 2012.
- ↑ Iolo Morganwg; Owen Jones; Society for the Publication of Ancient Welsh Manuscripts, Abergavenny (1848). Iolo manuscripts: A selection of ancient Welsh manuscripts, in prose and verse, from the collection made by the late Edward Williams, Iolo Morganwg, for the purpose of forming a continuation of the Myfyrian archaiology; and subsequently proposed as materials for a new history of Wales. W. Rees; sold by Longman and co., London. tt. 10–. Cyrchwyd 24 October 2012.
- ↑ Marion Löffler (2007). The literary and historical legacy of Iolo Morganwg, 1826–1926. University of Wales Press. ISBN 978-0-7083-2113-3. Cyrchwyd 24 October 2012.
- G. J. Williams, Iolo Morganwg (Caerdydd, 1956).