Neidio i'r cynnwys

Castell Collen

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:54, 24 Mehefin 2007 gan Anatiomaros (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)

Caer Rufeinig yn ne Powys yw Castell Collen. Saif ar lan Afon Ieithon ger Llandrindod.

Lleolir y gaer ar ddarn o dir ar lan yr afon sy'n codi'n raddol rhwng dwy ffrwd. Cafod ei chloddio yn 1911-13 a 1954-7. Credir i'r gaer gael ei sefydlu yn amser yr ymerodr Titus.

Gwelir pedwar cyfnod o adeiladau ar y safle. Dim ond un ffos ym mhen gorllewinol y gaer sy'n aros o'r ddau gyfnod cyntaf (diwedd y ganrif 1af i ganol yr 2ail ganrif). Cafodd ei gadael yn wag am gyfnod. Yn y ddau cyfnod nesaf lleiheuwyd maint y gaer o tua 2 hectar i'w maint bresennol o 1.44 hectar. Byddai hynny'n dal i gynnig digon o le i tua 500 o lengwyr, ond credir ei bod yn ddigon mawr i ddal cohort cyfan yn wreiddiol. Roedd yn ne tiriogaeth yr Ordovices.

Yng nghanol y gaer ceir olion adeilad mawr a fyddai'n bencadlys. Adeilad o bren oedd hyn i ddechrau ond codwyd adeilad o gerrig yn ei le, fel yn achos y muriau. Yng nghongl ddeheuol y gaer ceir olion baddondy Rhufeinig pur sylweddol, tua 120 troedfedd o hyd a 50 o led, gyda llawr teils. Ceir olion tyrau cerrig yng nghonglau'r gaer.

Mae dwy ffordd Rufeinig yn rhedeg o'r gaer i'r de, un i'r de-orllewin i'w chysylltu â Maridunum (Caerfyrddin), a'r llall i gaer Buellt ac ymlaen i Gaerwent. Mae cwrs ffordd arall dybiedig i'r gogledd yn ansicr, ond buasai'n cysylltu Castell Collen â chaerau Caersŵs. Tybir fod ffyrdd yn rhedeg i'r gorllewin a'r dwyrain yn ogystal ond nid oes tystiolaeth amdanynt hyd yn hyn.

Gellir gweld y deunydd a ddarganfuwyd gan yr archaeolegwyr yng Nghastell Collen yn Amgueddfa Llandrindod.

Ffynnonellau

  • Christopher Houlder, Wales:An Archaeological Guide (Llundain, 1978)
  • I. A. Richmond, 'Roman Wales', yn Prehistoric and Early Wales (Llundain, 1965)


Caerau Rhufeinig Cymru
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis