Ffordd Rufeinig
Gwedd
Ffordd Rufeinig yw'r term a ddefnyddir am ffordd a adeiladwyd yng nghyfnod Gweriniaeth Rhufain neu Ymerodraeth Rhufain. Roedd rhwydwaith o ffyrdd yn cysylltu dinas Rhufain a gwahanol rannau o'r ymerodraeth, yn galluogi byddinoedd Rhufeinig i symud yn gyflym o le o le. Roeddynt hefyd o fudd mawr i fasnachwyr ac eraill, er mai milwrol oedd eu prif bwrpas. Hyd ar y 18g roedd llawer ohonynt yn parhau i gael eu defnyddio.
Yn ôl Ulpianus, gellid dosbarthu ffyrdd Rhufeinig yn dri dosbarth:
- Viae publicae, consulares, praetoriae neu militares
- Viae privatae, rusticae, glareae neu agrariae
- Viae vicinales
Heblaw'r dosbarthiad yma, roedd Ulpianus hefyd yn gwahanu'r ffyrdd yn dri dosbarth o ran y dull o'u hadeiladu:
- Via terrena: Ffordd bridd.
- Via glareata: Ffordd bridd. gyda gwyneb o gerrig mân.
- Via munita: Ffordd wedi eu hadeiladu gyda sylfaeni a gwyneb o flociau cerrig.
Ffyrdd Rhufeinig pwysig
[golygu | golygu cod]- Via Egnatia (146 CC) yn cysylltu Dyrrhachium a Byzantium
- Via Aemilia, o Rimini (Ariminum) hyd Piacenza (Placentia)
- Via Appia, (312 CC), yn cysylltu Rhufain ag Apulië (Puglia)
- Via Aurelia (241 CC), o Rufain tua'r gogledd, yn ddiweddatach ymlaen i Gâl
- Via Flaminia, i Rufain i Rimini (Ariminum)
- Via Salaria, o Rufain i arfordir dwyreiniol yr Eidal