Neidio i'r cynnwys

Mecsico

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 08:00, 17 Ebrill 2013 gan BOT-Twm Crys (sgwrs | cyfraniadau)
Estados Unidos Mexicanos
Taleithiau Unedig Mexico
Baner México Arfbais México
Baner Arfbais
Arwyddair: Dim
Anthem: Himno Nacional Mexicano
Lleoliad México
Lleoliad México
Prifddinas Dinas Mexico
Dinas fwyaf Dinas Mexico
Iaith / Ieithoedd swyddogol Sbaeneg (de facto)
Llywodraeth Gweriniaeth
 • Arlywydd Enrique Peña Nieto
Annibyniaeth
 • Datganiad
 • Cydnabwyd
oddiwrth Sbaen
16 Medi 1810
27 Medi 1821
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
1,972,550 km² (15fed)
2.5
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 2000
 - Dwysedd
 
108,700,000 (11fed)
100,349,766
55/km² (142fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$1191.674 biliwn (13fed)
$10,186 (64fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2004) 0.821 (53fed) – uchel
Arian cyfred Peso (MXN)
Cylchfa amser
 - Haf
(UTC-5 i -8)
Côd ISO y wlad .mx
Côd ffôn +52

Gwlad yng Ngogledd America yw Taleithiau Unedig México neu México (hefyd Mecsico). Y gwledydd cyfagos yw'r Unol Daleithiau, Guatemala a Belize. Mae gan y wlad arfordir ar y Cefnfor Tawel yn y gorllewin; yn y dwyrain mae ganddi arfordir ar Gwlff Mexico a Môr y Caribî. Mexico yw'r wlad fwyaf gogleddol yn America Ladin. Y brifddinas yw Dinas Mexico (Sbaeneg: Ciudad de México), sy'n un o ddinasoedd mwyaf poblog y byd.

Daearyddiaeth

Mae Mexico yn wlad fawr sy'n gorwedd rhwng y Cefnfor Tawel i'r gorllewin a Môr y Caribi i'r dwyrain. Yn y gogledd mae'n ffinio â thaleithiau Califfornia, Arizona, New Mexico a Texas yn ne'r Unol Daleithiau. Fel yn achos y taleithiau hynny, mae gogledd Mexico yn wlad o fynyddoedd uchel (sierras), sych ac arfordiroedd Canoldirol. Mae'r mynyddoedd sy'n rhedeg trwy ganol y wlad yn ymffurfio'n ddwy gadwyn, sef y Sierra Madre Gorllewinol a'r Sierra Madre Dwyreiniol, gyda Llwyfandir Mexico yn y canol. Yn y gorllewin ceir Gwlff Califfornia gyda'i fraich allanol Baja California. Yn y dwyrain ceir gwastadeddau sylweddol ar hyd yr arfordir ar Gwlff Mexico. Yn y de eithaf mae'r tir yn culhau i ffurfio gwddw gyda bryniau a llosgfynyddoedd i'r gorllewin a gorynys Yucatan i'r dwyrain ar y ffin â Belize a Guatemala. Mae'r brifddinas, Dinas Mexico, yn gorwedd ar ymyl ddeheuol Llwyfandir Mexico.

Hanes

Roedd Mexico yn gartref i wareiddiad y Maya rhwng yr 2il ganrif a'r 13eg ganrif. Yn y cyfnod rhwng yr 8fed ganrif a'r 12fed ganrif flodeuodd diwylliant y Toltec. Olynwyd y gwareiddiadau cynnar hyn gan wareiddiad yr Azteciaid gyda'u prifddinas yn Tenochtitlán (safle Dinas Mexico heddiw.

Yn 1521 goresgynwyd yr Azteciaid gan Hernán Cortés a'r Sbaenwyr a daeth Mexico yn rhan o Sbaen Newydd. Dechreuodd yr ymgyrch am annibyniaeth ar Sbaen yn 1810. Erbyn 1821 roedd Mexico yn wlad annibynnol. Roedd yn diriogaeth fwy sylweddol na'r wlad bresennol , yn cynnwys rhannau o dde'r Unol Daleithiau fel Texas a Califfornia. Arweinydd pwysicaf y wlad oedd Santa Anna. Collwyd y rhan fwyaf o'r tir hwnnw i'r Unol Daleithiau newydd, yn arbennig ar ôl Rhyfel Mexico (1846-1848).

Rheolwyd y wlad gan Maximilian, Archddug Awstria am gyfnod byr (1864-1867), ond cafodd ei ladd yn 1867 a dilynodd cyfnod ansefydlog a arweiniodd at Chwyldro Mexico pan ddiorseddwyd Porfirio Diaz gan Francisco Madera. Dyma gyfnod Zapata a Pancho Villa. Yn 1917 datganwyd gweriniaeth Mexico.

Economi

Eginyn erthygl sydd uchod am Fecsico. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol

Chwiliwch am Mecsico
yn Wiciadur.