Mecsico
| |||||
Arwyddair: Dim | |||||
Anthem: Himno Nacional Mexicano | |||||
Prifddinas | Dinas Mexico | ||||
Dinas fwyaf | Dinas Mexico | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg (de facto) | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
• Arlywydd | Felipe Calderón | ||||
Annibyniaeth • Datganiad • Cydnabwyd |
oddiwrth Sbaen 16 Medi 1810 27 Medi 1821 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
1,972,550 km² (15fed) 2.5 | ||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2006 - Cyfrifiad 2000 - Dwysedd |
108,700,000 (11fed) 100,349,766 55/km² (142fed) | ||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $1191.674 biliwn (13fed) $10,186 (64fed) | ||||
Indecs Datblygiad Dynol (2004) | 0.821 (53fed) – uchel | ||||
Arian cyfred | Peso (MXN )
| ||||
Cylchfa amser - Haf |
(UTC-5 i -8) | ||||
Côd ISO y wlad | .mx | ||||
Côd ffôn | +52
|
Gwlad yng Ngogledd America yw Taleithiau Unedig México neu México (hefyd Mecsico). Y gwledydd cyfagos yw'r Unol Daleithiau, Guatemala a Belize. Mae gan y wlad arfordir ar y Cefnfor Tawel yn y gorllewin; yn y dwyrain mae ganddi arfordir ar Gwlff Mexico a Môr y Caribî. Mexico yw'r wlad fwyaf gogleddol yn America Ladin. Y brifddinas yw Dinas Mexico (Sbaeneg: Ciudad de México), sy'n un o ddinasoedd mwyaf poblog y byd.
Daearyddiaeth
- Prif: Daearyddiaeth Mexico
Mae Mexico yn wlad fawr sy'n gorwedd rhwng y Cefnfor Tawel i'r gorllewin a Môr y Caribi i'r dwyrain. Yn y gogledd mae'n ffinio â thaleithiau Califfornia, Arizona, New Mexico a Texas yn ne'r Unol Daleithiau. Fel yn achos y taleithiau hynny, mae gogledd Mexico yn wlad o fynyddoedd uchel (sierras), sych ac arfordiroedd Canoldirol. Mae'r mynyddoedd sy'n rhedeg trwy ganol y wlad yn ymffurfio'n ddwy gadwyn, sef y Sierra Madre Gorllewinol a'r Sierra Madre Dwyreiniol, gyda Llwyfandir Mexico yn y canol. Yn y gorllewin ceir Gwlff Califfornia gyda'i fraich allanol Baja California. Yn y dwyrain ceir gwastadeddau sylweddol ar hyd yr arfordir ar Gwlff Mexico. Yn y de eithaf mae'r tir yn culhau i ffurfio gwddw gyda bryniau a llosgfynyddoedd i'r gorllewin a gorynys Yucatan i'r dwyrain ar y ffin â Belize a Guatemala. Mae'r brifddinas, Dinas Mexico, yn gorwedd ar ymyl ddeheuol Llwyfandir Mexico.
Hanes
- Prif: Hanes Mexico
Roedd Mexico yn gartref i wareiddiad y Maya rhwng yr 2il ganrif a'r 13eg ganrif. Yn y cyfnod rhwng yr 8fed ganrif a'r 12fed ganrif flodeuodd diwylliant y Toltec. Olynwyd y gwareiddiadau cynnar hyn gan wareiddiad yr Azteciaid gyda'u prifddinas yn Tenochtitlán (safle Dinas Mexico heddiw.
Yn 1521 goresgynwyd yr Azteciaid gan Hernán Cortés a'r Sbaenwyr a daeth Mexico yn rhan o Sbaen Newydd. Dechreuodd yr ymgyrch am annibyniaeth ar Sbaen yn 1810. Erbyn 1821 roedd Mexico yn wlad annibynnol. Roedd yn diriogaeth fwy sylweddol na'r wlad bresennol , yn cynnwys rhannau o dde'r Unol Daleithiau fel Texas a Califfornia. Arweinydd pwysicaf y wlad oedd Santa Anna. Collwyd y rhan fwyaf o'r tir hwnnw i'r Unol Daleithiau newydd, yn arbennig ar ôl Rhyfel Mexico (1846-1848).
Rheolwyd y wlad gan Maximilian, Archddug Awstria am gyfnod byr (1864-1867), ond cafodd ei ladd yn 1867 a dilynodd cyfnod ansefydlog a arweiniodd at Chwyldro Mexico pan ddiorseddwyd Porfirio Diaz gan Francisco Madera. Dyma gyfnod Zapata a Pancho Villa. Yn 1917 datganwyd gweriniaeth Mexico.
Economi
- Prif: Economi Mexico