Mecsico
Estados Unidos Mexicanos | |
Arwyddair | Derecho ajeno es la paz |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad, gwladwriaeth ffederal, gweriniaeth ddemocrataidd, gwladwriaeth gyfansoddiadol, cenedl, ymerodraeth, ymerodraeth, Next Eleven |
Prifddinas | Dinas Mecsico |
Poblogaeth | 124,777,324 |
Sefydlwyd | 1810 (Annibyniaeth oddi wrth Sbaen) 1836 (eu cydnabod gan eraill) |
Datganiad o annibynniaeth | 16 Medi 1810 [1] |
Anthem | Himno Nacional Mexicano, Toque de Bandera |
Pennaeth llywodraeth | Andrés Manuel López Obrador |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser Canolog |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg, Nahwatleg, Yucatec Maya, ieithoedd Mecsico |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | America Ladin, Gogledd America, America Sbaenig, MIKTA |
Gwlad | Mecsico |
Arwynebedd | 1,972,550 ±1 km² |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel, Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Gwatemala, Belîs, Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 23°N 102°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth ffederal Mecsico |
Corff deddfwriaethol | Cyngres yr Undeb |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Mecsico |
Pennaeth y wladwriaeth | Andrés Manuel López Obrador |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Mecsico |
Pennaeth y Llywodraeth | Andrés Manuel López Obrador |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $1,272,839 million, $1,414,187 million |
Arian | peso (Mecsico) |
Canran y diwaith | 5 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 2.243 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.758 |
Gwlad yng Ngogledd America yw Taleithiau Unedig Mecsico neu Mecsico (Sbaeneg: México). Y gwledydd cyfagos yw'r Unol Daleithiau, Gwatemala a Belîs. Mae gan y wlad arfordir ar y Cefnfor Tawel yn y gorllewin; yn y dwyrain mae ganddi arfordir ar Gwlff Mecsico a Môr y Caribî. Mecsico yw'r wlad fwyaf gogleddol yn America Ladin. Y brifddinas yw Dinas Mecsico (Sbaeneg: Ciudad de México), sy'n un o ddinasoedd mwyaf poblog y byd.
Daearyddiaeth
- Prif: Daearyddiaeth Mecsico
Mae Mecsico yn wlad fawr sy'n gorwedd rhwng y Cefnfor Tawel i'r gorllewin a Môr y Caribi i'r dwyrain. Yn y gogledd mae'n ffinio â thaleithiau Califfornia, Arizona, New Mexico a Texas yn ne'r Unol Daleithiau. Fel yn achos y taleithiau hynny, mae gogledd Mecsico yn wlad o fynyddoedd uchel (sierras), sych ac arfordiroedd Canoldirol. Mae'r mynyddoedd sy'n rhedeg trwy ganol y wlad yn ymffurfio'n ddwy gadwyn, sef y Sierra Madre Gorllewinol a'r Sierra Madre Dwyreiniol, gyda Llwyfandir Mecsico yn y canol. Yn y gorllewin ceir Gwlff Califfornia gyda'i fraich allanol Baja California. Yn y dwyrain ceir gwastadeddau sylweddol ar hyd yr arfordir ar Gwlff Mecsico. Yn y de eithaf mae'r tir yn culhau i ffurfio gwddw gyda bryniau a llosgfynyddoedd i'r gorllewin a gorynys Yucatan i'r dwyrain ar y ffin â Belîs a Gwatemala. Mae'r brifddinas, Dinas Mecsico, yn gorwedd ar ymyl ddeheuol Llwyfandir Mecsico.
Hanes
- Prif: Hanes Mecsico
Roedd Mecsico yn gartref i wareiddiad y Maya rhwng yr 2g a'r 13g. Yn y cyfnod rhwng yr 8g a'r 12g flodeuodd diwylliant y Toltec. Olynwyd y gwareiddiadau cynnar hyn gan wareiddiad yr Azteciaid gyda'u prifddinas yn Tenochtitlán (safle Dinas Mecsico heddiw).
Yn 1521 goresgynwyd yr Azteciaid gan Hernán Cortés a'r Sbaenwyr a daeth Mecsico yn rhan o Sbaen Newydd. Dechreuodd yr ymgyrch am annibyniaeth ar Sbaen yn 1810. Erbyn 1821 roedd Mecsico yn wlad annibynnol. Roedd yn diriogaeth fwy sylweddol na'r wlad bresennol, yn cynnwys rhannau o dde'r Unol Daleithiau fel Texas a Califfornia. Arweinydd pwysicaf y wlad oedd Santa Anna. Collwyd y rhan fwyaf o'r tir hwnnw i'r Unol Daleithiau newydd, yn arbennig ar ôl Rhyfel Mecsico (1846-1848).
Rheolwyd y wlad gan Maximilian, Archddug Awstria am gyfnod byr (1864-1867), ond cafodd ei ladd yn 1867 a dilynodd cyfnod ansefydlog a arweiniodd at Chwyldro Mecsico pan ddiorseddwyd Porfirio Diaz gan Francisco Madero. Dyma gyfnod Zapata a Pancho Villa. Yn 1917 datganwyd gweriniaeth Mecsico.
Economi
- Prif: Economi Mecsico
Gweler hefyd
- Poner el Cuerpo, Sacar la Voz mudiad di-drais sy'n ceisio dod a swyl i ddiflaniad myfyrwyr.