Neidio i'r cynnwys

lliw

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
Sbectrwm lliwiau gweladwy rhwng uwchfioled ac isgoch (mewn tonfeddi)

Cynaniad

  • /ɬɪu̯/

Geirdarddiad

Celteg *līwos o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *(s)leh₃i- ‘glasaidd’ a welir hefyd yn y Lladin līvēre ‘bod yn ddulas’, y Saesneg sloe ‘eirinen dagu’ a'r Bwyleg śliwa ‘eirinen’. Cymharer â'r Gernyweg liw, y Llydaweg liv a'r Wyddeleg ‘lliwiad; pryd a gwedd’.

Enw

lliw g (lluosog: lliwiau)

  1. (ffiseg, opteg) Pelydriad electromagnetig sydd â thonfedd o tua 4,000 (fioled) i tua 7,700 (coch) angstromau a gall gael ei ganfod gan y llygad noeth dynol arferol.
    Mae bodau dynol ac anifeiliaid yn gallu gweld lliw.

Gwrthwynebeiriau

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau


Ansoddair

lliw

  1. Yn meddu ar liw penodol.
    Ysgrifennodd y llythyr ar bapur lliw.

Cyfieithiadau

Homoffon