Marwnad Siôn y Glyn
Gwedd
gan Lewis Glyn Cothi
- Un mab oedd degan i mi,
- Dwynwen, gwae’i dad o’i eni!
- Gwae a edid o gudab
- i boeni mwy heb un mab.
- Fy nwy ais, marw fy nisyn,
- y sy’n glaf am Siôn y Glyn.
- Udo fyth yr ydwyf i
- am benáig Mabinogi.
- Afal pêr ac aderyn
- a garai’r gwas, a gro gwyn;
- bwa o flaen y ddraenen,
- cleddau digon brau o bren;
- ofni’r bib, ofni’r bwbach,
- ymbil â'i fam am bêl fach;
- canu i bawb acen o’i ben,
- canu ŵo er cneuen;
- gwneuthur moethau, gwenieitho,
- sorri wrthyf i wnâi fo
- a chymod er ysglodyn
- ac er dis a garai’r dyn.
- Och nad Siôn, fab gwirion gwâr,
- sy’n ail oes i Sain Lasar!
- Beuno a droes iddo saith
- nefolion yn fyw eilwaith;
- gwae eilwaith fy ngwir galon
- nad oes wyth rhwng enaid Siôn.
- O Fair, gwae fi o’i orwedd,
- a gwae fy ais gau ei fedd!
- Yngo y saif angau Siôn
- yn ddeufrath yn y ddwyfron.
- Fy mab, fy muarth baban,
- fy mron, fy nghalon, fy nghân,
- fy mryd cyn fy marw ydoedd,
- fy mardd doeth, fy mreuddwyd oedd;
- fy nhegan oedd, fy nghannwyll,
- fy enaid teg, fy un twyll;
- fy nghyw yn dysgu fy nghân,
- fy nghae Esyllt, fy nghusan;
- fy nyth, gwae fi yn ei ôl,
- fy ehedydd, fy hudol;
- fy Siôn, fy mwa, fy saeth,
- f’ymbiliwr, fy mabolaeth.
- Siôn y sy’n danfon i’w dad
- Awch o hiraeth a chariad.
- Yn iach wên ar fy ngenau,
- yn iach chwerthin o’r min mau;
- yn iach mwy ddiddanwch mwyn,
- ac yn iach i gnau echwyn
- ac yn iach bellach i’r bêl
- ac yn iach ganu uchel;
- ac yn iach fy nghâr arab
- iso’n fy myw, Siôn fy mab.