Englynion y Beddau
Gwedd
- E betev ae gulich y glav,-
- gvir ny tywnassint vy dignav:
- Kerwid a Chivrid a Chav.
- E betev ae tut gvitwal,-
- ny llesseint heb ymtial:
- Guryen, Morien a Morial.
- E betev as gvlich kauad
- gvyr ny llesseint in lledrad
- Gwen ag Urien ag Uria.
- Bet Tedei tad awen
- yg godir Brin Aren;
- yn yd vna ton tolo
- Bet Dilan Llan Bevno.
- Bet Keri cletifhir ygodir Hen Eglwys
- yn y diffuis graende,
- tarv torment, ymynwent Corbre.
- Bet Seithennin sinhuir vann
- y rug Kaer Kenedir a glann
- mor, mauridic a kinran
- En Aber Gwenoli y mae bet Pryderi
- yny terev tonnev tir:
- yg Karrauc bet Gallauc Hir.
- Bet Gwalchmei ym Peryton
- ir diliv y dyneton;
- in Llan Padarn bet Kinon.
- Bet gur gwaud urtin in uchel tytin
- in isel gwelitin,
- bet Kynon mab Clytno Idin.
- Bet Run mab Pyd in ergid avon
- in oervel ig gverid;
- bet Kinon in Reon rid.
- Piev y bet y dan y brin?
- Bet gur gurt yg kyniscin,
- Kinon mab Clytno Idin.
- Bet mab Ossran yg Camlann,
- gvydi llauer kywlavan;
- bet Bedwir in alld Tryvan.
- Bet Owein ab Urien im pedryal bid:
- dan gverid llan Moervael
- in Abererch Riderch Hael.
- Guydi gurum a choch a chein
- a goruytaur maur minrein,
- in Llan Helet bet Owein.
- Gwydi gweli a gaedlan
- a gviscav seirch, a meirch cann,
- neud ew hun bet Kintilan.
- Piev y bet da y cystlun
- a wnai ar Loegir lv kigrun?
- Bet Gwen ab Llyuarch Hen hun.
- Piev y bet in yr amgant
- ae tut mor a goror nant?
- Bet Meigen mab Run, rviw cant.
- Piev y bet in yr inis
- ae tut mor a goror gwris?
- Bet Meigen mab Run, rvif llis.
- Es cul y bet ys hir
- in llurv llyaus Amhir,
- Bet Meigen mab Run, ruyw gwir
- Tri bet tri bodauc in arterchauc brin
- ym pant gwinn Gvinionauc,
- Mor a Meilir a Madauc.
- Bet Madauc, mur egluc yg kywluc kinhen,
- vir Vrien gorev[c],
- mab y Guyn o Winllyuc.
- Bet Mor maurhidic, diessic unben,
- post kinhen kinteic,
- mab Peredur Penwetic.
- Bet Meilir maluinauc saluvodauc sinhvir,
- ffiscad fuir fodiauc,
- mab y Bruin o Bricheinauc.
- Piev y bet in Rid Vaen Ked
- ae pen gan yr anvaered?
- Bet Run mab Alun Diwed.
- Bet Alun Dywed yn y drewred drav,
- ny kiliei o caled,
- mab Meigan mad pan aned.
- Bet Llia Gvitel in argel Arduduy
- dan y gvelt ae gvevel;
- bet Epint inyffrin[t] Gewel.
- Bet Dywel mab Erbin ig gwestedin Caeav
- ny bitei gur y breinhin,
- divei ny ochelei trin.
- Bet Gurgi gvychit a Guindodit lev
- a bet Llaur, llu ouit,
- yg guarthaw Guanas Guyr yssit.
- E beteu hir yg Guanas,-
- ny chauas ae dioes
- pvy vynt vy, pvy eu neges.
- Teulu Oeth ac Anoeth a dyuu ynoeth
- y eu gur, y eu guas;
- ae ceisso vy clated Guanas.
- Bet Llvch Llaueghin ar Certenhin avon,
- pen Saeson suyt Erbin,
- ny bitei drimis hrb drin.
- E beteu yn Hir Vynyt
- yn llvyr y guyr lluossit:
- bet Gvryen gvrhyd enguavc
- a Llvytauc uab Lliwelit.
- Pieu yr bet yn y mynyt
- a lyviasei luossit?
- Bet Fyrnuael Hael ab Hyvlyt.
- Pieu ir bet hun? Bet Eitivlch Hir,
- ig gurthtir Pennant Turch,
- mab Arthan gywlauan gyuulch.
- Bet Llev Llaugyfes y dan achles mor,
- yn y bu y gywnes,
- gur guir y neb ny rodes.
- Bet Beidauc Rut yn amgant Riv Lyvnav,
- bet Lluoscar yg Keri,
- ac yn Ryd Britu bet Omni.
- Pell y vysci ac argut
- gueryd Machave ae cut
- hirguynion bysset Beidauc Rut.
- Bet unpen o Priden yn lleutir Guynnassed,
- yn yd a Lliv yn Llychur;
- ig Kelli Uriauael bet Gyrthmul.
- E bet yn Ystyuacheu
- y mae paup yn y amheu,
- bet Gurtheyrn Gurtheneu.
- Kian a ud yn diffeith cnud drav,
- otuch pen bet alltud,
- bet Kindilic mab Corknud.
- Neum duc i Elffin y prowl vy bartrin
- gessevin vch kinran,-
- bet Ruvaun ruyvenit ran.
- Neum duc i Elffin y browl vy martrin
- vch kinran gessevin,-
- bet Ruvaun ry ievanc daerin.
- Bet y March, bet y Guythur,
- bet y Gugaun Cledyfrut;
- anoeth bid bet y Arthur.
- Bet Elchwith ys gulich [y] glav,
- Maes Meuetauc y danav;
- dyliei Kynon y kuinav.
- Piev y bet hun, a hun?
- Gowin ymi, mi ae gun:
- bet ew bet Eitew oet hun,
- a bet Eidal tal yscvn.
- Eitew ac Eidal, diessic alltudion,
- kanavon cylchuy drei;
- mekid meibon Meigen meirch mei.
- Piev y bet hun? Bet Bruyno Hir,
- hydir y wir in y bro:
- parth yd vei ny bitei fo.
- Piev y bet hun? nid
- aral guythuch urth ervid,
- trath lathei chvartei vrthid.
- Bet Silit dywal in Edrywuy le,
- bet Llemenic in Llan Elvy
- yg Guernin bre bet Eilinvy.
- Bet milur mirein gnaud kelein oe lav
- kin bu tav y dan mein,
- Llachar mab Run yg Clun Kein.
- Bet Talan talyrth yn ygyrth teircad,
- kymynad pen pop nyrth,
- hyget, agoret y pirth.
- Bet Elissner ab Ner inywinder daear,
- diarchar dibryder,
- pen llv tra wu y amser.
- Bet gur gurt y var, Llachar llyv niver,
- in aber duwir Dyar,
- yn y gvna Tavue toniar.
- Piev y bet in y Ridev?
- Bet Ruyw yw, mab Rigenev,
- gur a digonei da ar y arwev.
- Piev y bet hun? Bet Breint
- y rug Llewni ae lledneint,
- bet gur guae y isscereint.
- Piev y bet in llethir y brin?
- Lauer nys guis aw gowin;
- bet y Coel mab Kinvelin.
- Bet Deheveint ar Cleveint awon,
- yg gurthtir Mathauarn,
- ystifful kedwir cadarn.
- Bet Aron mab Diwinvin in Hirgweun le;
- ny dodei lew ar ladron,
- ny rotei gwir y alon.
- Bet Tawlogev mab Llut in y trewrud trav,
- mal y mae in y kystut,
- ae clathei, [ef] caffei but.
- Piev y bet ar lan Ryddnant?
- Run y env, radev keucant,
- ri ew, Riogan ae gvant.
- Oet ef kyfnissen y holi galanas,
- gua[iua]wr [r]ut, grut aten;
- a chen bvir but, bet Bradwen.
- Piev y bet in pedrival
- ae pedwar mein amy tal?
- Bet Madauc marchauc dywal.
- En Eiwonit, Elvit tir,
- y mae [bet] gur hyduf hir:
- lleas paup pan rydighir.
- E tri bet yg Kewin Kelvi,
- awen ae divaud imi:
- bet Kinon garv y duyael,
- bet Kinvael, bet Kinveli.
- Bet Llvid lledneis ig Kemeis tir:
- kin boed hir tuw y eis,
- dygirchei tarv trin o treis.
- Bet Siaun syberv in hir erw minit
- yrug y gverid ae derv
- cheurthinauc bradauc chuerv.
- Piev y bet in y clidur?
- Tra wu ny bv eitilur,-
- bet Ebediv am Maelur.
- Piev y bet in yr allt trav?
- Gelin y lauer y lav,
- tarv trin, trugaret itav.
- Y beddeu yn y morua
- ys bychan ay haelewy
- y mae Sanauc syberw vun
- y mae Run ryuel afwy
- y mae Earrwen verch Hennin
- y mae Lledin a Llywy.
- Bed Hennin Henben yn aelwyt Dinorben,
- bed Airgwl yn Dyuet;
- yn Ryt Gynan Cyhoret.
- Gogyuarch pob diara
- pieu yr vedgor yssy yma:
- bed Einyawn ab Cunedda,
- cwl ym Prydein y ddiua.
- Pieu yr bed yn y maes mawr?
- Balch y law ar y lafnawr
- bed Beli ab Benlli Gawr.