Ysgol Dyffryn Teifi
Ysgol Dyffryn Teifi | |
---|---|
Arwyddair | Oni heuir, ni fedir |
Sefydlwyd | 1984 |
Caewyd | 2016 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Lleoliad | Heol Llyn y Frân, Llandysul, Ceredigion, Cymru, SA44 4HP |
AALl | Cyngor Sir Ceredigion |
Disgyblion | 628 (2007)[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Coch |
Gwefan | http://www.dyffrynteifi.org |
Ysgol gyfun ddwyieithog a leolir yn Llandysul, Ceredigion oedd Ysgol Dyffryn Teifi.
Sefydlwyd yr ysgol ar ei ffurf presennol, ar hen safle'r ysgol ramadeg, ym 1984 yn dilyn aildrefnu addysg yn Nyffryn Teifi.[2] Yn 2016 caewyd yr ysgol ac agorwyd ysgol newydd yn Llandysul, sef Ysgol Bro Teifi.[3] Mae hanes yr ysgol yn dyddio'n ôl i'r 19g, pan adnabyddwyd hi fel Ysgol Ramadeg Llandysul neu Ysgol Ramadeg Dyffryn Teifi.
Gwasanaethodd ddisgyblion ardaloedd canol Ceredigion a gogledd Sir Gaerfyrddin, a oedd yn dymuno dilyn addysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn academaidd cafwyd cofnod da o gyrhaeddiad ar ran yr ysgol ar lefelau, lleol, rhanbarthol ac yn genedlaethol a bu'r ysgol yn fuddugol mewn sawl cystadleuaeth genedlaethol megis yr Urdd. Rhoddwyd pwyslais o fewn yr ysgol ar werthoedd traddodiadol Gymreig, trwy gynnal gwasanaethau, gwersi a gweithgareddau eraill drwy gyfrwng yr iaith a thrwy mentrau eraill o fewn y gymuned lleol.
Yn 2001 roedd 570 o ddisgyblion yn yr ysgol,[2] disgynodd y niferau hyn yn ddiweddarach, ond cynyddodd unwaith eto i 527 yn 2007, a disgwylid i'r niferau barhau i gynyddu'n raddol.[1] Daeth 78% o'r disgyblion o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn brif iaith yn 2001,[2] cynyddodd y canran hyn i 83% yn 2007, gyda 91% o'r holl disgyblion yn siarad yr iaith i safon iaith gyntaf.[1]
Cyn-ddisgyblion enwog
[golygu | golygu cod]- Gweler hefyd y categori Pobl addysgwyd yn Ysgol Dyffryn Teifi
- Fflur Dafydd - bardd, awdures, cantores
- Joshua Gerwyn Elias
- John Ceredig Evans
- Aled Gwyn Jones
- John Bowen Jones
- T. Llew Jones - bardd, awdur
- Emyr Llewelyn - ymgyrchwr gwleidyddol, mab T. Llew Jones
- Ryland Teifi - actor, canwr, cyfansoddwr
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol yr ysgol Archifwyd 2008-05-12 yn y Peiriant Wayback
- Atgofion Ysgol Ramadeg Dyffryn Teifi - David Milwyn Evans, BBC Cymru
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Adroddiad Ysgol Dyffryn Teifi , 16 Ebrill 2007. Estyn (20 Mehefin 2007). Adalwyd ar 23 Gorffennaf 2009.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Adroddiad yr Ysgol, 15-18 Hydref 2001. Estyn (2001-12-17). Adalwyd ar 12 Ionawr 2009.
- ↑ Ysgol ardal newydd Llandysul yn 'arloesol' , BBC Cymru Fyw, 22 Mehefin 2016. Cyrchwyd ar 24 Medi 2016.