Yr Ymerodraeth Brydeinig
Enghraifft o: | ymerodraeth drefedigaethol |
---|---|
Daeth i ben | 1997 |
Label brodorol | British Empire |
Poblogaeth | 680,000,000 |
Dechrau/Sefydlu | 1583 |
Yn cynnwys | Colony of Trinidad |
Rhagflaenydd | English overseas possession |
Enw brodorol | British Empire |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr Ymerodraeth Brydeinig oedd yr ymerodraeth ehangaf a welwyd yn hanes y byd. Am ddwy ganrif roedd yn tra-arglwyddiaethu dros weddill y byd. Mae ei gwreiddiau yn gorwedd yng ngoresgyniad y gwledydd Celtaidd gan Loegr a thwf grym morwrol y wlad honno o ddiwedd yr Oesoedd Canol ymlaen. Tramor sefydlai'r Saeson nifer o drefedigaethau - rhai cymharol bychain i ddechrau - mewn cystadleuaeth â gwledydd Ewropeaidd eraill yn "Oes y Darganfod" yn Ewrop, o'r 15g ymlaen. Roedd gan Ffrainc, Portiwgal, Yr Iseldiroedd a Sbaen eu tiriogaethau tramor hefyd, ond yn ystod y 18g tyfodd y Brydain Fawr newydd i feddiannu mwy na'r lleill i gyd, trwy rym arfau neu gytundebau economaidd.
Erbyn 1921 roedd yr Ymerodraeth yn rheoli poblogaeth o tua 458 miliwn o bobl, sef o gwmpas chwarter poblogaeth y byd ar yr adeg honno. Roedd tua 33 miliwn km² (14.2 miliwn milltir sgwar) yn goch ar y map, o gwmpas chweched ran o arwynebedd y Ddaear.
Prif ddigwyddiadau
[golygu | golygu cod]- hanner cyntaf yr 17g - Ffoaduriaid crefyddol ac eraill yn ymsefydlu yn Virginia, Maryland a New England
- 1600 - Sefydlu Cwmni Dwyrain India
- 1661 - Sefydlu trefedigaeth yn Y Gambia
- 1756-1763 - Rhyfel Saith Mlynedd Prydain a Ffrainc; rheolaeth Prydain ar Ganada (dan y goron) ac India (trwy Gwmni Dwyrain India)
- 1757 - Brwydr Plassey yn cychwyn rheolaeth ar India gyfan
- 1775-1783 - Rhyfel Annibyniaeth America
- 1778 - De Cymru Newydd
- 1801 - Sefydlu'r Swyddfa Drefedigaethol i reoli'r tiriogaethau newydd
- 1803 - Tasmania
- 1840 - Seland Newydd
- 1841 - Cytundeb i ddal Hong Cong
- 1849 - Y drefedigaeth gyntaf yn British Columbia, ar Ynys Vancouver
- 1857 - Y Goron yn cymryd drosodd yn swyddogol o Gwmni Dwyrain India; sefydlu'r Raj gyda Fictoria yn ymerodres ar India
- 1886 - Myanmar
- 1895 - De Rhodesia
- 1932 - Cydnabod hawl y chwe gwlad dominiwn i ymreolaeth ar faterion mewnol trwy basio Statud Westminster; cynhadledd Ottawa
- 1947 - Annibyniaeth India
- 1980 - Annibyniaeth Simbabwe yn cael ei chydnabod
- 1982 - Rhyfel y Falklands
- 1997 - Rhoi Hong Cong yn ôl i Tsieina
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Niall Ferguson, Empire: The Rise and Demise of the British World Order and the Lessons for Global Power (2002)
- Ronald Hyam, Britain's Imperial Century, 1815-1914: A Study of Empire and Expansion (Macmillan, 1993)
- Lawrence James, The Rise and Fall of the British Empire (St. Martin's Griffin, 1997)
- Hefin Jones, Celwydd a Choncwest (Gwasg Carreg Gwalch, 2016).
- Denis Judd, Empire: The British Imperial Experience, From 1765 to the Present (Llundain, 1996)
- T.O. Lloyd, The British Empire, 1558-1995 (Oxford University Press, 1996)
- Roger William Louis, (gol.), The Oxford History of the British Empire, 5 cyf. (Rhydychen, 1998–99)
- P.J. Marshall (gol.), The Cambridge Illustrated History of the British Empire (Caergrawnt, 1996)
- James S. Olson a Robert S. Shadle, Historical Dictionary of the British Empire (1996)
- J. Holland Rose, A. P. Newton ac E. A. Benians (gol.), The Cambridge History of the British Empire, 9 cyf. (Caergrawnt, 1929–61)
- Simon C. Smith, British Imperialism 1750-1970 (Caergrwant, 1998)