Neidio i'r cynnwys

Y Tywysog William

Oddi ar Wicipedia
Y Tywysog William
GanwydWilliam Arthur Philip Louis of Wales Edit this on Wikidata
21 Mehefin 1982 Edit this on Wikidata
Ysbyty'r Santes Fair Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd4 Awst 1982 Edit this on Wikidata
Man preswylPalas Kensington, Anmer Hall, Adelaide Cottage Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Prydain Fawr Prydain Fawr
Alma mater
Galwedigaethhedfanwr, chwaraewr polo, peilot hofrennydd, pendefig, dyngarwr Edit this on Wikidata
Swyddetifedd eglur, etifedd eglur, etifedd eglur, etifedd eglur y Deyrnas Unedig, Counsellor of State Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Taldra1.91 metr Edit this on Wikidata
TadSiarl III Edit this on Wikidata
MamDiana, Tywysoges Cymru Edit this on Wikidata
PriodCatherine, Tywysoges Cymru Edit this on Wikidata
Planty Tywysog Siôr, y Dywysoges Charlotte, y Tywysog Louis Edit this on Wikidata
PerthnasauTom Parker Bowles, Laura Lopes Edit this on Wikidata
LlinachTŷ Windsor Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Gardas, Urdd yr Ysgallen, Medal Jiwbilî Aur y Frenhines Elisabeth II, Medal Jiwbilî Deimwnt y Frenhines Elisabeth II, Royal Fellow of the Royal Society, Queen Elizabeth II Platinum Jubilee Medal, Tuvalu Order of Merit Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.royal.uk/the-prince-of-wales Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Y Tywysog William (neu'n llawn: William Arthur Philip Louis; enw seremoniol gan ei Dad: William, Tywysog Cymru ganwyd 21 Mehefin 1982) yw etifedd Gorsedd Prydain (cynt: Gorsedd Lloegr). Ef yw mab hynaf Siarl III, Brenin Lloegr a Diana, Tywysoges Cymru. Ei frawd ieuengaf yw'r Tywysog Harri, Dug Sussex a'i ewyrth yw'r Tywysog Andrew.

Cafodd ei eni yn Ysbyty Sant Mair, Llundain. Ei famaeth oedd Tiggy Legge-Bourke o Grughywel.[angen ffynhonnell] Tom Pettifer, mab Tiggy, oedd y macwy ym mhriodas William.

Priododd William Catherine Middleton yn Abaty Westminster ar 29 Ebrill 2011. Mae ganddynt dri o blant: Y Tywysog Siôr (ganwyd 22 Gorffennaf 2013), Y Tywysoges Siarlot (ganwyd 2 Mai 2015) a Y Tywysog Lewys (ganwyd 23 Ebrill 2018).

Chwaraeon

[golygu | golygu cod]

Mae'r tywysog yn chwarae polo'n rheolaidd, ers ei ddyddiau ysgol e.e. yn Sandringham. Mae'n Arlywydd Cymdeithas Pêl-droed Lloegr ers Mai 2006. Cyn hynny roedd yn adnabyddus am ei gefnogaeth gyhoeddus a brwd i dîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr a thîm rygbi cenedlaethol Lloegr. Yn Awst 2006 cyhoeddwyd y byddai'n Is-noddwr Brenhinol Undeb Rygbi Cymru o Chwefror 2007, er ei fod yn cefnogi Lloegr, a chyhoeddodd yr URC eu bod am weld cwpan i enillwyr y gemau prawf rhwng timau rygbi Cymru a De Affrica yn cael ei alw'n "Cwpan y Tywysog William". Mae hyn wedi ennyn ymateb beirniadol iawn yng Nghymru gan fod nifer o bobl yn gweld William fel cefnogwr Lloegr.

Rhoddodd gefnogaeth frwd ac amlwg i dîm rygbi Lloegr yng Nghwpan Rygbi'r Undeb y Byd 2007. Eisoes mae nifer o Gymry'n galw ar swyddogion Undeb Rygbi Cymru i ailystyried eu penderfyniad dadleuol ac i ailenwi'r tlws yn "Gwpan Ray Gravell" er coffadwriaeth i'r diweddar Ray Gravell. Dadleuant fod enwi'r cwpan ar ôl y Tywysog William, Sais sy'n adnabyddus am ei gefnogaeth bersonol i dimau pêl-droed a rygbi Lloegr, yn gwbl anaddas ac mai rheitiach fyddai ei enwi ar ôl Cymro.[1] Lansiwyd deiseb ar-lein yn galw am newid yr enw i "Gwpan Ray Gravell" ar 6 Hydref 2007; deuddydd yn ddiweddarach roedd dros 2,000 o bobl wedi ei harwyddo.

Fel Tywysog Cymru

[golygu | golygu cod]

Wedi i'w dad ddod yn frenin, cadarnhawyd y byddai William yn cael ei wneud yn Dywysog Cymru.[angen ffynhonnell] Yn fuan ar ôl y cyhoeddiad dywedodd Mark Drakeford ei fod eisoes wedi trafod rôl newydd y tywysog gydag ef.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Ymgyrch 'Cwpan Grav' yn tyfu ar wefan y BBC
  2. "'Dim hast i arwisgo tywysog newydd Cymru, ac angen iddo ddysgu mwy am flaenoriaethau'r bobol'". Golwg360. Cyrchwyd 13 Medi 2022.