Y Carolingiaid
Math | teyrnach |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Germaniaid |
Gwlad | Ymerodraeth y Carolingiaid |
Cyfnod daearegol | Q123385052 |
Brenhinllin a reolai Deyrnas Ffrainc o'r wythfed i'r ddegfed ganrif oedd y Carolingiaid. Roedden nhw yn olynyddion i'r Merofingiaid ac yn rheoli o 751 ymlaen. Daw eu henw o enw eu harweinydd enwocaf, Siarlymaen (Carolus Magnus yn Lladin).
Sefydlwyd y brenhinlin gan Arnulf, archesgob Metz, gŵr pwerus iawn yn nheyrnas y Merofingiaid tua diwedd y seithfed ganrif. Roedd Pippin o Herstal yn Maer y Llys yn nheyrnas Austrasia. Ei fab Siarl Martel oedd ei olynydd. Etholwyd mab Siarl, Pippin III neu "Pepin Fyr", yn frenin y Ffranciaid wedi diorseddu y brenin Merofingaidd olaf, Childeric yn 751. Daeth Siarlymaen, mab Pippin, yn frenin y Ffranciaid ym 768 ac yn ymerawdwr ym 800.
Rhannwyd yr Ymerodraeth yn dair gwlad trwy Gytundeb Verdun ym 843, ond roedd y Carolingiaid yn rheoli ym mhob un o'r tair yn y cychwyn.