Y Bandana
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Label recordio | Cwmni Recordiau Sain |
Dod i'r brig | 2007 |
Dechrau/Sefydlu | 2007 |
Genre | roc amgen |
Yn cynnwys | Gwilym Bowen Rhys |
Band roc o ardal Caernarfon oedd Y Bandana. Aelodau'r band oedd Tomos Owens (allweddellau), Siôn Owens (gitâr fâs), Gwilym Bowen Rhys (gitâr a phrif lais), Robin Jones (drymiau).
Hanes
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd y band ym mis Medi 2007 ar ôl i'r ddau frawd, Siôn a Tomos, ofyn i'w cefnder, Gwilym, i ymuno â nhw wrth jamio yn eu hystafell wely a phenderfynu ar enw i fand -Y BANDANA (y band da 'na). Rhoddodd y band ei enw lawr i gystadleuaeth brwydr y bandiau yn Galeri, Caernarfon. Cyn y gystadleuaeth, cafodd y band gynnig gig mewn gŵyl yn Neuadd Hendre, Tal-y-bont, ger Bangor. O fewn pythefnos i'r band ffurfio, yr oeddent yn chwarae eu gig gyntaf. Ymunodd Robin ar ôl iddo gael ei wahodd gan y band ar ôl iddynt gystadlu ym mrwydr y bandiau yn Galeri.
Bu'r band yn brysur iawn am naw mlynedd gan berfformio'n fyw yn gyson. Mi drefnon nhw nifer o deithiau ar ei liwt eu hunain gan wahodd bandiau ifanc eraill i ymuno â nhw. Wnaethon nhw berfformio ar lwyfan Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol am naw mlynedd yn olynnol 2008-2016.
Cyn Eisteddfod Y Fenni 2016 cyhoeddodd y band eu bod am rhoi'r gorau iddi a chwaraeodd y band eu gigs olaf yn Hydref 2016.[1]
Cynhaliwyd y gig olaf yn Neuadd y Farchnad yng Nghaernarfon ar Hydref 14. Roedd y tocynnau i gyd wedi eu gwerthu wythnosau o flaen llaw.[2]
Gwobrau
[golygu | golygu cod]Ennill brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Caerdydd 2008.[3] Daeth y band yn ail ym mrwydr y bandiau Maes B yn yr un Eisteddfod sef Caerdydd 2008.
"Band newydd gorau" yng ngwobrau cylchgrawn Y Selar 2009. Cafodd y band ei enwebu am y "Sesiwn C2 orau" yng ngwobrau RAP C2 2009 a band byw gorau RAP C2 2010.
Gwobrau "Band Gorau" a "Cân Orau" cylchgrawn Y Selar am dair blynedd yn olynol 2010, 2011 a 2012; Gwobr Record Fer Orau 2012 am Heno yn yr Anglesey/Geiban a'u henwebu am dair gwobr yn 2013.[4]
Gwobrau'r Selar 2015 - cafodd Gwilym Rhys y wobr am yr Offerynnwr Gorau
Yng Ngwobrau'r Selar 2016 enillodd Y Bandana bedair gwobr - Y Band Gorau; Y Record Hir Orau - Fel Tôn Gron; Y Gân Orau - Cyn i'r lle ma gau; Y Gwaith Celf Gorau - Fel Tôn Gron.[5]
Roedd gan Y Bandana dair cân yn siart 40 MAWR Radio Cymru 2014 - sef siart o hoff ganeuon y gwrandawyr yn dilyn pleidlais yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr. Yn 2016 roedd gan y band bum cân yn siart 40 MAWR - Heno yn yr Anglesey; Cyn i'r lle ma gau; Geiban; Cân y Tân a Dant y LLew.[6]
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Teitl | Fformat | Label | Rhif Catalog | Dyddiad ryddhau |
---|---|---|---|---|
"Dal Dy Drwyn / Cân y Tân" | Sengl, CD | Copa | COPA LL011 | Awst 2010 |
Y Bandana | Albwm, CD | Copa | COPA CD013 | 31 Ionawr 2011 |
Bywyd Gwyn | Albwm, CD | Copa | COPA CD018 | Haf 2013 |
"Mari Sal / Tafod y Tonnau" | Sengl CD Sengl ar label | Sbrigyn Ymborth | Tachwedd 2014 | |
Fel Tôn Gron | Albwm | Copa | Mawrth 2016 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ffarwelio â’r Bandana. Y Selar (30 Medi 2016). Adalwyd ar 18 Hydref 2016.
- ↑ Daily Post
- ↑ "Taith Tafod 2008" Archifwyd 2009-05-22 yn y Peiriant Wayback, Cymdeithas yr Iaith.
- ↑ Y Bandana yn cipio tair o wobrau’r Selar Golwg360.com, 4 Mawrth 2014
- ↑ y-selar.co.uk
- ↑ Yma o Hyd yw dewis y bobl Gwefan Cymry Fyw y BBC, 25 Awst 2014