Volapük
Iaith artiffisial yw Volapük (hefyd: Volapuk) a ddyfeiswyd yn 1879 gan yr offeiriad Catholig Johann Martin Schleyer (1831-1912), brodor o ardal Baden yn yr Almaen.
Hanes
[golygu | golygu cod]Am gyfnod bu'r Volapük yn boblogaidd mewn cylchoedd ymenyddol yn Ewrop a'r Unol Daleithiau. Sefydlwyd y gymdeithas Volapük gyntaf yn Awstria yn 1882 ac ymledodd i sawl gwlad arall. Cyhoeddwyd llawlyfrau dysgu Volapük mewn sawl iaith ac erbyn 1888 amcangyfrwyd fod tua 210,000 o bobl wedi astudio'r iaith. Sefydlwyd cymdeithas fyd-eang (Volapükaklub Valemik), academi (Kadem Volapüka), a chylchgrawn swyddogol (Volapükabled Zenodik). Ond dirywiodd y mudiad Volapük ar ddiwedd y 19g. Cafodd ei beirniadu am fod ei gramadeg yn "rhy gymhleth", er gwaethaf y ffaith ei fod yn rheolaidd, ac am fod ei geirfa yn ddiarth er ei fod yn seiliedig ar eiriau Ewropeaidd adnabyddus. Yn 1900 cyfeiriodd L. L. Zamenhof, dyfeisydd Esperanto, at y Volapük fel "iaith farw".[1] Erbyn heddiw cymharol ychydig sy'n siarad yr iaith, ac mae llawer o'r rheiny yn fyfyrwyr Esperanto sy'n astudio Volapük allan o ddiddordeb ieithyddol.
Rhai geiriau
[golygu | golygu cod]- Rhifau
- bal = 1
- tel = 2
- kil = 3
- fol = 4
- lul = 5
- mäl = 6
- vel = 7
- jöl = 8
- zül = 9
- (bal)tum = 100
- mil = 1,000
- Geiriau
- pükön - siarad
- Flemtel - Ffrangeg (Flemt 'Ffrainc' + -el)
- mit - cig
- jel - cariad
- gad - gardd
- lifön - byw
Enghreifftiau
[golygu | golygu cod]- O Fat obas, kel binol in süls,
- paisaludomöz nem ola!
- Kömomöd monargän ola!
- Jenomöz vil olik,
- äs in sül, i su tal.
- Bodi obsik vädeliki givolös obes adelo.
- E pardolös obes debis obsik,
- äs id obs aipardobs debeles obas.
- E no obis nindukolös in tentadi,
- sod aidalivolös obis de bad.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ L. L. Zamenhof, ''Esenco kaj estonteco de la ideo de lingvo internacia
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Llawlyfr Volapük gan Charles E. Sprague Archifwyd 2016-04-23 yn y Peiriant Wayback - argraffiad ar-lein o'r llawlyfr Handbook of Volapük (1888)
- (Saesneg) Cyfeillgarwch Rhyngwladol o Iaith y Byd