Tor
Bryn bach neu gruglwyth o garreg sy'n sefyll allan yn drawiadol o'r llethrau neu rosdir llyfnach o'i gwmpas yw tor. Fe'i ffurfir fel rheol o bentwr o gerrig mawr ar ben ei gilydd sy'n gorwedd ar lwyfan o garreg solet. Gan amlaf gwenithfaen yw'r torau. Fel tirffurf, maent yn nodwedd o dirwedd Cernyw - yn enwedig Gwaun Bodmin - a rhannau o Ddyfnaint, yn ne-orllewin Lloegr.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Mae'r gair tor ei hun yn enw Cernyweg (cymharer Hen Gymraeg tor "bron, llethr", yn llythrennol "ymchwydd" a hefyd twr "pentwr, crug"[1]; Gaeleg yr Alban tòrr) ac mae'n un o'r ychydig o eiriau o darddiad Celtaidd sydd wedi eu benthyg i'r Saesneg. Ceir ambell enghraifft o'r enw yn enwau lleoedd De Cymru, sy'n gorwedd gyferbyn â de-orllewin Lloegr dros Fôr Hafren, e.e. Torfaen.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol 4, tt. 3525, 3660.