Neidio i'r cynnwys

Thomas Traherne

Oddi ar Wicipedia
Thomas Traherne
Ganwyd10 Hydref 1636 Edit this on Wikidata
Henffordd Edit this on Wikidata
Bu farw10 Hydref 1674 Edit this on Wikidata
Teddington Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, diwinydd, llenor Edit this on Wikidata
Swyddcaplan Edit this on Wikidata

Bardd o Loegr oedd Thomas Traherne (10 Hydref 163610 Hydref 1674) sy'n nodedig fel un o'r clerigwyr Anglicanaidd, gyda'r Eingl-Gymry George Herbert ac Henry Vaughan, a fu'n cyfansoddi cerddi cyfriniol yn yr 17g. Caiff ei gyfri hefyd ymhlith y beirdd Metaffisegol.

Ganwyd yn Henffordd yn fab i grydd. Astudiodd yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen, a chafodd ei ordeinio yn 1660. Aeth i weinidogaethu yn Credenhill, Swydd Henffordd, yn 1661 a daliodd y plwyf hwnnw am weddill ei oes. Yn y cyfnod 1669–74 aeth i fyw yn Llundain ac yn Teddington, Middlesex, yn gaplan i Syr Orlando Bridgeman, yr hwn oedd yn arglwydd geidwad o 1667 i 1672. Penodwyd Traherne yn weinidog Eglwys Teddington yn 1672, a chafodd ei gladdu yno pan fu farw dwy flynedd yn hwyrach, tua 37 oed.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Thomas Traherne. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Awst 2019.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Elizabeth S. Dodd, Boundless Innocence in Thomas Traherne's Poetic Theology: 'Were all Men Wise and Innocent...' (Abingdon, Swydd Rydychen: Routledge, 2015).
  • Elizabeth S. Dodd a Cassandra Gorman (goln.), Thomas Traherne and Seventeenth-Century Thought (Caergrawnt: Boydell & Brewer, 2016).