Thomas Powell
Thomas Powell | |
---|---|
Ganwyd | 1608 Sir Frycheiniog, Aberhonddu |
Bu farw | 31 Rhagfyr 1660 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | clerig |
- Erthygl am y clerigwr a llenor o'r 17eg ganrif yw hon, am yr ysgolhaig Celtaidd gweler Thomas Powel.
Clerigwr a llenor o Gymru oedd Thomas Powell (c. 1608 – 31 Rhagfyr 1660). Fe'i cofir yn bennaf fel cyfieithydd i'r Saesneg. Roedd yn gyfaill i'r brodyr Thomas a Henry Vaughan.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Powell ym mhlwyf y Cantref, Brycheiniog yn 1608 (yn ôl pob tebyg). Astudiodd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, lle cyfarfu gyda Thomas a Henry Vaughan am y tro cyntaf. Etifedodd reithoriaeth y Cantref gan ei dad ond bu anghydfod rhyngddo a'r awdurdodau yng nghyfnod Gwerinlywodraeth Lloegr a bu rhaid iddo adael Cymru a byw tramor am dymor.[1]
Mae ei waith llenyddol yn cynnwys cyfieithiad o'r Eidaleg o lyfr gan Malvezzi wrth y teitl Christian Politician a'r Elementae Opticae (1651). Cyhoeddodd un llyfr Cymraeg, sef Cerbyd Iechydwriaeth (1657), traethawd sy'n adlewyrchu ei farn am anghyfiawnder y wladwriaeth Biwritanaidd. Credir mai ef hefyd a gyhoeddodd Olor Iscanus ei gyfaill Henry Vaughan yn 1654, cyfrol o farddoniaeth a ystyrir yn un o glasuron Saesneg yr 17g.[2]
Gadawodd lawysgrifau ar ei ôl sy'n amlygu ei ddiddordeb yn hynafiaeth y Cymry a'r Celtiaid.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Christian Politician (d.d.)
- Elementae Opticae (1651)
- Cerbyd Iechydwriaeth (1657)
- Humane Industry (1661). Cyhoeddwyd wedi ei farwolaeth.