Neidio i'r cynnwys

Theatr Bara Caws

Oddi ar Wicipedia
Theatr Bara Caws
Enghraifft o'r canlynolcwmni theatr, sefydliad Edit this on Wikidata
Dyddiad cynharaf1977
Dechrau/Sefydlu1977 Edit this on Wikidata
PencadlysCaernarfon Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://theatrbaracaws.com/ Edit this on Wikidata

Cwmni theatr cymunedol yw Theatr Bara Caws a sefydlwyd ym 1977. Daeth i'r byd "fel babi newydd, un fymryn yn bowld a swnllyd", yn ôl un o'r actorion gwreiddiol, Dyfan Roberts.[1] Bwriad y cwmni o'r cychwyn oedd cyflwyno gwaith gwreiddiol a pherthnasol i'r trawsdoriad ehangaf posib o’r gymuned. Llwyfannwyd o leia tri cynhyrchiad y flwyddyn.[2] Cyhoeddwyd cyfrol i ddathlu eu penblwydd yn ddeugain oed yn 2017.[1]

Mae'r Cwmni'n elusen gofrestredig sy'n cael ei ariannu gan grantiau, yn bennaf gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac awdurdodau Sirol Gwynedd, Môn a Chonwy. Betsan Llwyd yw'r Cyfarwyddwr Artistig presennol.

Mae'r cwmni yn cynnig gwaith ac hyfforddiant i, ac ymestyn sgiliau, ymarferwyr theatrig o bob math – hen a newydd – yn actorion, awduron, a thechnegwyr.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Rhyw fath o rebelio yn erbyn Cwmni Theatr Cymru tua canol y 1970au, oedd y sbardun i greu Theatr Bara Caws. Yn ôl un o'r actorion gwreiddiol Dyfan Roberts: "dim ond dau gwmni theatr oedd wedi herio monopoli Theatr Cymru cyn hynny sef Theatr Ddieithr ac, wedi i'r cwmni hwnnw chwythu'i blwc, Theatr Yr Ymylon [...] Fe ddaeth hi'n gynyddol amlwg i griw dethol yno fod angen i bethau newid - a hynny ar fyrder."[1]

Roedd Dyfan Roberts, Valmai Jones a Sharon Morgan ymysg yr actorion oedd wedi'u cyflogi gan Gwmni Theatr Cymru, tua chanol y 1970au. Mae Sharon Morgan yn cofio, mai yn dilyn gwylio rhaglen deledu am gwmni theatr heriol John McGrath yn yr Alban, y daeth y syniad i greu cwmni theatr newydd ac heriol yn Gymraeg. Yn gyntaf, crëwyd gnewyllyn oddi mewn i Gwmni Theatr Cymru, oedd yn cynnwys yr actorion Gwyn Parry, Grey Evans ynghyd â Sharon, Dyfan a Valmai Jones. Y prif bwrpas ar y cychwyn oedd i greu theatr wahanol i'r theatr Glasurol a saff, roedd Cwmni Theatr Cymru yn ei lwyfannu. Galwyd y prosiect yn Theatr Antur a daeth Iestyn Garlick atynt i fod yn rhan o'r antur newydd.

Cyflwynodd Theatr Antur un cyflwyniad o'r enw Byw Yn Y Wlad tua 1975, a bu'n llwyddiant. Cymaint felly, fel bod yr actorion ifanc yn awyddus i'w pherfformio y flwyddyn ganlynol hefyd, yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976. Ond bu anghytuno chwyrn o fewn Cwmni Theatr Cymru, gan fod y prif gwmni eisoes wedi trefnu eu rhaglen ar gyfer yr ŵyl. Mae Meic Povey yn chwyrn iawn ei feirniadaeth yn ei hunangofiant : "Roedd Wilbert Lloyd Roberts, 'ein tad ni oll', fel arall yn broffwyd athrylithgar, ond yn yr achos hwn yn esgeulus ac unbeniaethol; yn gyndyn ar y diawl i ildio'r awenau."[3] Felly mynd ati ar liwt eu hunain oedd yr unig opsiwn i'r cwmni, ac erbyn 1977, roedd cyfansoddiad Theatr Bara Caws ar bapur.

Y cnewyllyn gwreiddiol o actorion oedd Dyfan Roberts, Mei Jones, Iola Gregory a Valmai Jones. Wrth dalu teyrnged i Mei Jones yn Nhachwedd 2021, mae Dyfan Roberts yn nodi yn Barn :

"Ym mlynyddoedd cynnar Theatr Bara Caws o 1979 i 1982 [...] gwnaeth y ddau ohonom ddim llai na deg sioe efo'r cwmni cydweithredol, yn dyfeisio, sgrifennu, actio, hel props a gwisgoedd, a chario setiau trymion i mewn ac allan o neuaddau trefi a phentrefi Cymru. Cyfnod anhygoel o brysur, yn gyforiog o greadigwydd eirias. Mae cofio enwau'r sioeau fel gweld topiau mynyddoedd drwy gymylau'r gorffennol - Bargen, Hwyliau'n Codi, Anturiaethau'r Bynsan Binc, Dwylo i Fyny, Oes 'ma Bobol... Er mai cwmni "pawb yn gwneud pob peth" oedd Bara Caws o reidrwydd yn y dyddiau tlodaidd yn ariannol ond cyfoethog o egni rheiny, yn y bôn dydi o ddim cyfrinach i dweud fod baich sgrifennu'r sioeau yn disgyn ar ysgwyddau dau ohonom. Tra 'roedd Iola Gregory, Catrin Edwards a minnau yn cyfrannu yn ein ffyrdd ein hunain, gan Valmai Jones a Mei roedd y ddawn naturiol i roi'r geiriau, y ddeialog a chynllun golygfa i lawr. Ffrwyth creadigrwydd y ddau yna oedd yn gyfrifol am lwyddiant y sgriptiau. Valmai gyda'i sosialaeth tanbaid a'i dawn anhygoel i greu deialog a chymeriadau ffraeth a miniog, a Mei a llygad deallus dros y sioe gyfan. [...] Un broblem ymarferol a godai o hyd oedd mai dim ond pump actor fedrem fforddio ar y mwyaf, ac yn amal roedd rhaid i actor oedd yn yr olygfa bresennol ddod ymlaen fel cymeriad cwbwl wahanol mewn gwisg wahanol yn yr olygfa yn syth wedyn."[4]

Arweinwyr artistig

[golygu | golygu cod]
  • Y cwmni cyfan - Dyfan Roberts, Valmai Jones, Iola Gregory, Mei Jones (1977-
  • Tony Llewelyn - (
  • Ian Rowlands - (
  • Betsan Llwyd - (

Cynyrchiadau

[golygu | golygu cod]

1970au

[golygu | golygu cod]

(i gyd yn gywaith o waith y cwmni, oni nodir yn wahanol)

1980au

[golygu | golygu cod]
  • Job o Waith (1980)
  • O Na Byddai'n Haf o Hyd (1980)
  • Triciau Tedi (1981)
  • Dwylo i Fyny (1981)
  • Nos Sadwrn Bach (1981)
  • Taliesyn (1981)
  • Y Bwbach Blêr (1981)
  • Oes 'ma Bobol? (1981)
  • Diwrnod i'r Brenin (1982)
  • Pawb â'i Fys (1982)
  • Arwres Gudd (1982)
  • O Syr Mynte Hi (1983)
  • Haf '83 (1983)
  • Sboncyn (1983)
  • Chwara' Plant (1983)
  • Y Fodrwy (1984)
  • Rigor Mortis (1985)
  • lechyd Da (1985)
  • Melltith y Mymi (1985)
  • Celwydd (1985)
  • Paradwys Ffŵl (1985)
  • Pawb Isio Byw (1986)
  • Cwlwm Pump (1986)
  • Yr Amgueddfa Ddu (1986)
  • Zwmba (1986)
  • Codiad Cesar (1987)
  • Tair Cainc a Hanner (1987)
  • Diwedd y Gân (1988)
  • Salem ar Sêl (1989)
  • Rigor Mortis 2 (1989)
  • Os Na Ddaw Bloda' (1989)

1990au

[golygu | golygu cod]

2000au

[golygu | golygu cod]

2010au

[golygu | golygu cod]

2020au

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Titus, Llŷr (2017). Theatr Bara Caws : Dathlu'r Deugain. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 978 1 84527 541 9.
  2.  Theatr Bara Caws - Y Cwmni. Adalwyd ar 3 Awst 2017.
  3. 3.0 3.1 Povey, Meic (2010). Nesa Peth I Ddim. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 9781845272401.
  4. Roberts, Dyfan (Tachwedd 2021). "Cofio Mei Jones". Barn.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.