Terfan (mathemateg)
Gwedd
Ym mathemateg, mae'r cysyniad o derfyn neu derfan yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio gwerth ffwythiant neu ddilyniant sy'n agosáu at ryw werth. Mae terfynau yn hanfodol i galcwlws (a dadansoddi mathemategol yn gyffredinol) ac maent yn cael eu defnyddio i ddiffinio parhad, deilliadau, ac integrynnau.
Y nodiant arferol a ddefnyddir ydyw:
Hynny yw, mae gwerth y ffwythiant f(x) yn agosáu at derfan (lim) L, wrth i werth y mewnbwn x agosáu at c. Mae'r cysyniad o derfyn yn bwysig gan ei fod yn dangos ymddygiad ffwythiant yn agos iawn at L, hyd yn oed os nad yw'r ffwythiant wedi'i ddiffinio pan fo x = c.
Mae'r ffaith fod y ffwythiant f(n) yn agosáu at derfan L wrth i n agosáu at c, weithiau'n cael ei ddynodi gyda saeth (dde) (→), fel hyn: