Telor
Gwedd
Enw ar sawl grŵp o adar bach yn yr urdd Passeriformes yw telor. Dosbarthwyd y teloriaid mewn un teulu, Sylviidae, hyd yn ddiweddar ond fe'u rhennir yn sawl teulu gwahanol bellach.[1] Mae'r teloriaid yn cynnwys tua 400 o rywogaethau; ceir y mwyafrif ohonynt yn Ewrop, Asia ac Affrica.[2] Maent yn bwydo ar bryfed fel rheol ond mae rhai rhywogaethau'n bwydo ar ffrwythau a neithdar hefyd.[2]
Teuluoedd
[golygu | golygu cod]- Macrosphenidae: teloriaid Affricanaidd megis y teloriaid cambig, 18 rhywogaeth
- Cettiidae: Telor Cetti a'i berthnasau, 32 rywogaeth
- Scotocercidae: Telor y Drysni, 1 rywogaeth
- Phylloscopidae: teloriaid y dail, 77 rhywogaeth
- Acrocephalidae: teloriaid y cyrs, 61 rywogaeth
- Locustellidae neu Megaluridae: teloriaid y gwair, 57 rhywogaeth
- Bernieridae: teloriaid Madagascar, 11 rywogaeth
- Cisticolidae: y Telor Cynffon Wyntyll a'i berthnasau, 160 rhywogaeth
- Sylviidae: teloriaid y prysg, parotbigau a'u perthnasau, 70 rhywogaeth
- Regulidae: y Dryw Eurben a'i berthnasau, 6 rhywogaeth
- Hyliotidae: hyliotas, 4 rhywogaeth
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Gall yr enw telor gyfeirio hefyd at sawl grŵp arall o adar sy ddim yn perthyn i deloriaid yr Hen Fyd:
- Parulidae: teloriaid Americanaidd
- Acanthizidae: teloriaid Awstralasiaidd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Roberson, Don (2006) The break-up of the Old World Warblers, Bird Families of the World. Adalwyd 6 Mai 2013.
- ↑ 2.0 2.1 Perrins, Christopher, gol. (2004) The New Encyclopedia of Birds, Oxford University Press, Rhydychen.
- Gill, F & D Donsker, goln. (2013) IOC World Bird List, fersiwn 3.3. Adalwyd 6 Mai 2013.