Shonda Rhimes
Shonda Rhimes | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ionawr 1970 Chicago |
Man preswyl | Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | sgriptiwr, llenor, cynhyrchydd ffilm, showrunner, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr ffilm |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Grey's Anatomy, Scandal, How to Get Away with Murder, Bridgerton, Inventing Anna |
Gwobr/au | Gwobr Urdd Awduron America, Gwobr International Emmy Founders, Gwobr Lucy, Gwobr Time 100, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, CBE |
Awdur Americanaidd yw Shonda Rhimes (ganwyd 13 Ionawr 1970) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr a chynhyrchydd ffilm.
Fe'i ganed yn Chicago ar 13 Ionawr 1970. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Dartmouth, Prifysgol De California ac Ysgol USC yn y Celfyddydau Sinematig.[1][2][3][4]
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Erica Hahn, Amelia Shepherd a Meredith Grey.
Mae hi'n fwyaf adnabyddus fel sefydlydd, prif ysgrifennwr, a chynhyrchydd gweithredol y ddrama feddygol deledu Grey's Anatomy, a phrif gynhyrchydd Preifat Practice, a'r gyfres wleidyddol Scandal. Mae Rhimes hefyd wedi gwasanaethu fel prif gynhyrchydd cyfres deledu ABC Off the Map, How to Get Away with Murder, a The Catch.[5]
Yn 2007, enwyd Rhimes yn un o 100 People Who Help Shape the World yng nghylchgrawn TIME.[6] Yn 2015, cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, cofiant, Year of Yes: How to Dance It Out, Stand in the Sun, a Be Your Own Person. Yn 2017, dywedodd Netflix ei fod wedi ymrwymo i gytundeb aml-flwyddyn gyda Rhimes, ac y byddai ei holl gynyrchiadau yn y dyfodol yn gyfresi Netflix Original.[7]
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Ganwyd Rhimes yn Chicago, Illinois, fel yr ieuengaf o chwech o blant Vera P. (Cain), athro coleg, ac Ilee Rhimes, Jr., gweinyddwr mewn prifysgol.[8][9] Mynychodd ei mam y coleg wrth fagu eu chwech o blant ac enillodd PhD mewn gweinyddiaeth addysgol ym 1991. Daeth ei thad, sy'n dal MBA, yn brif swyddog gwybodaeth (CIO) ym Mhrifysgol Southern California, gan ymddeol yn 2013.[10] [11][12]
Roedd Rhimes yn byw yn Park Forest South (University Park, Illinois bellach), gyda'i dau frawd hŷn a thair chwaer hŷn. Yn ferch ifanc, roedd adrodd straeon yn holl bwysig iddi. Tra yn yr ysgol uwchradd, gwasanaethodd fel gwirfoddolwr ysbyty, a ysbrydolodd ddiddordeb mewn amgylcheddau ysbyty.[13]
Coleg
[golygu | golygu cod]Mynychodd Rhimes Ysgol Uwchradd Gatholig Marian yn Chicago Heights, Illinois. Yng Ngholeg Dartmouth, fe wnaeth graddiodd mewn astudiaethau Saesneg a ffilm ac enillodd ei gradd baglor ym 1991. Yn Dartmouth, ymunodd â Chymdeithas Theatr y 'Black Underground'. Rhannodd ei hamser rhwng cyfarwyddo a pherfformio mewn cynyrchiadau myfyrwyr, ac ysgrifennu ffuglen. Ysgrifennodd ar gyfer papur y coleg.
Ar ôl coleg, symudodd i San Francisco gyda brawd neu chwaer hŷn a gweithio ym maes hysbysebu yn McCann Erickson.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Urdd Awduron America, Gwobr International Emmy Founders (2016), Gwobr Lucy (2007), Gwobr Time 100 (2021), Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America (2023), CBE (2023)[14][15][16][17] .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14131745n. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14131745n. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 18 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Shonda Rhimes". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Grwp ethnig: https://www.biography.com/media-figure/shonda-rhimes.
- ↑ "Profile". TVLine. Cyrchwyd Tachwedd 28, 2014.
- ↑ Oh, Sandra (3 Mai 2007). "The TIME 100, ARTISTS & ENTERTAINERS". TIME. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-05-05. Cyrchwyd 2007-05-05.
- ↑ Wallenstein, Andrew (14 Awst 2017). "Netflix Lures Shonda Rhimes Away From ABC Studios".
- ↑ Paskin, Willa (9 Mai 2013). "Network TV Is Broken. So How Does Shonda Rhimes Keep Making Hits?". New York Times Magazine. Cyrchwyd 9 Mai 2013. Italic or bold markup not allowed in:
|work=
(help) - ↑ Stated on Finding Your Roots, 19 Ionawr 2016, PBS
- ↑ "'USC selects new vice provost and CIO'". news.usc.edu. 11 Mehefin 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 26 Chwefror 2016.
- ↑ Aelodaeth: https://directories.wga.org/member/shondalrhimes.
- ↑ Anrhydeddau: https://www.essence.com/awards-events/red-carpet/emmys/shonda-rhimes-receive-international-emmy-founders-award/. https://www.hollywoodreporter.com/business/business-news/wifs-lucy-award-goes-women-138892/. https://web.archive.org/web/20220131121232/https://time.com/collection/100-most-influential-people-2021/. dyddiad cyrchiad: 31 Ionawr 2022. https://www.amacad.org/new-members-2023. dyddiad cyrchiad: 20 Ebrill 2023.
- ↑ Maureen, Ryan (21 Rhagfyr 2005). "Shonda Rhimes, creator of 'Grey's Anatomy' and a Chicagoan of the Year". The Watcher. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-21. Cyrchwyd 21 Ionawr 2008.
- ↑ https://www.essence.com/awards-events/red-carpet/emmys/shonda-rhimes-receive-international-emmy-founders-award/.
- ↑ https://www.hollywoodreporter.com/business/business-news/wifs-lucy-award-goes-women-138892/.
- ↑ https://web.archive.org/web/20220131121232/https://time.com/collection/100-most-influential-people-2021/. dyddiad cyrchiad: 31 Ionawr 2022.
- ↑ https://www.amacad.org/new-members-2023. dyddiad cyrchiad: 20 Ebrill 2023.