Set deledu
Delwedd:세계 명화가 LG 스마트 TV 속으로.jpg, Телевизор "Электроника Ц-430" в Екатеринбурге 2023-12-28.jpg | |
Math | dyfais electronig |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dyfais electronig yw'r set deledu (neu fel arfer, yn syml, teledu) a ddefnyddir mewn cartrefi i wylio'r hyn sy'n cael ei ddarlledu neu ei lawrlwytho o'r we: rhaglenni dogfen, ffilmiau, newyddion y dydd ayb. Cyflwynwyd y teledu analog yn fasnachol ar ddiwedd y 1920au, a daeth yn hynod o boblogaidd wedi'r Ail Ryfel Byd gyda'r tiwb pelydrau catod yn rhan hanfodol ohono. Du a gwyn oedd y lluniau tan y 1960au ac roedd y teledu yr adeg honno, o ran siap, yn debyg i giwboid; mewn rhai llefydd galwyd ef yn focs. Ystyrir y teledu yn un o brif nwyddau traul y byd.
Pan ddyfeisiwyd Betamax, VHS a DVD, defnyddid y teledu er mwyn gwylio'r cynnwys: ffilmiau ayb. A'r teledu hefyd oedd y ddyfais a ddefnyddiwyd ar gyfer y cyfrifiadur personol, pan ddaeth hwnnw i olau dydd yn ei ffurf cynharaf e.e. Timex Sinclair 1000, a'r consol gemau e.e. Atari, yn nechrau'r 1980au. Yn y 2010au gwelodd y 'llen deledu' olau dydd ar ffurf LED LCD, a daeth oes y tiwb pelydrau catod i ben.[1] Mae datblygiadau diweddar ym myd teledu yn cynnwys teledu digidol a ddaeth ar ddechrau'r 21g, teledu 3D, a theledu cadraniad uchel (HDTV: 720p, 1080i a 1080p).[2][3] [4] [5] [6]
Bathwyd y term Cymraeg 'teledu' gan Cassie Davies, Dan Richards ac Urien Wiliam yn 1953 a hynny ar wahan i'w gilydd.[7]
Hanes y set deledu
[golygu | golygu cod]Ar ôl datblygiad radio fe weithiodd sawl dyfeisiwr i ddatblygu ffordd o ddarlledu lluniau gyda sain. Un o'r rhain yng ngwledydd Prydain oedd yr Albanwr John Logie Baird. Yn gyffredinol fe gyfrir at Philo T Farnsworth o Rigby, Idaho yn yr Unol Daleithiau fel dyfeisydd y system fodern o deledu ym 1928. Roedd teledu ar gael i'r cyhoedd o'r 1930au hwyr ymlaen ac mae nawr yn rhan allweddol o fywydau pobl trwy'r byd.
Fel atodiad i'r radio y daeth y set deledu cyntaf i olau dydd: rhoddwyd tiwb neon y tu ôl iddo a oedd yn creu llun symudol maint stamp, gyda chwyddwydr yn dyblu ei faint. Gwerthwyd "Televisor" Baird rhwng 1930 a 1933 yng ngwledydd Prydain, sef y set deledu masnachol cyntaf a gwerthodd y cwmni 1,000 o unedau.[8]
Lansiodd y gwyddonydd Kenjiro Takayanagi o Japan ddyfais a oedd yn cynnwys y tiwb pelydrau catod cyntaf yn 1926 mewn ysgol.[9] Gelwir ef yn dad y teledu gan fod yn y teledu hwn hefyd ddyfais a oedd yn derbyn tonnau a ddarlledwyd, a'u trosglwyddo'n llun a llais.[10] Ond weddi'r rhyfel, ataliwyd ef rhag ymchwilio ymhellach gan Unol Daleithiau America.[9]
Du a gwyn oedd y lluniau cyntaf ond newidiwyd i luniau lliw yn y 1960au. Yn y 1970au fe ddatblygwyd ffurf fasnachol i'r cyhoedd recordio rhaglenni teledu - y recordydd caset fideo (neu VCR) - a defnyddiwyd y casetiau hyn i werthu ffilmiau i'r cyhoedd i wylio gartref. Erbyn y 200au defnyddid DVDau i wylio ffilmiau ac erbyn y 2010au lawrlwythwyd ffilmiau 'r we e.e. Netflix. Mae datblygiadau diweddar ym myd teledu yn cynnwys teledu digidol, teledu 3D, a theledu cadraniad uchel (HDTV).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Defnyddiwyd y term "llen deledu" am deledu fflat yn 1969, yn y golofn Nodion Gwyddonol yn Y Cymro. Gweler sgan o'r erthygl ar Comin.
- ↑ "IHS Technology – The Source for Critical Information and Insight. - IHS Technology". www.displaysearch.com.
- ↑ "RIP, rear-projection TV".
- ↑ Jacobson, Julie. "Mitsubishi Drops DLP Displays: Goodbye RPTVs Forever". www.cepro.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-26. Cyrchwyd 2019-03-04.
- ↑ "LG's Exit Mai Herald End of Plasma TVs - Tom's Guide". 28 Hydref 2014.
- ↑ http://www.datadisplay-group.com/fileadmin/pdf/produkte/EOL_PCN/EOL_notice_customer_CCFL_reflector120711.pdf[dolen farw]
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-17. Cyrchwyd 2019-03-04.
- ↑ Pre-1935 Baird Sets: UK Archifwyd 2008-04-03 yn y Peiriant Wayback, Television History: The First 75 Years.
- ↑ 9.0 9.1 Kenjiro Takayanagi: The Father of Japanese Television, NHK (Japan Broadcasting Corporation), 2002, adalwyd 2009-05-23.
- ↑ "Milestones:Development of Electronic Television, 1924-1941". Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2015.