Neidio i'r cynnwys

Sbectel

Oddi ar Wicipedia

Gwasanaeth teletestun ategol gan S4C oedd Sbectel. Cafodd ei enwi ar ôl cylchgrawn rhaglenni S4C, sef Sbec, a oedd yn wreiddiol yn atodiad yng nghylchgrawn y TV Times yn ardal ITV Cymru.

Cynnwys

[golygu | golygu cod]

Roedd Sbectel yn darparu amserlenni a gwybodaeth am raglenni S4C, megis rhagolwg o raglenni a gwybodaeth bellach. Darparir y tudalennau yn Gymraeg a Saesneg. Roedd y gwasanaeth ar gael o dan drwydded ar wahân i'r gwasanaeth teletestun a oedd hefyd ar gael ar Sianel 4 analog. Roedd Sbectel hefyd yn cyflenwi is-deitlau ar gyfer rhaglenni S4C ar dudalen 888 yn Saesneg a thudalen 889 yn Gymraeg.

Cafodd Sbectel ei redeg ar y cyd â ORACLE yn wreiddiol, sef gwasanaeth teletestun ategol Sianel 4, yn yr 1980au. Roedd Sbectel yn llenwi tudalennau 410-499 o fewn y gofod hwn.

Pan gollodd ORACLE ei drwydded a cymerodd cwmni Teletext Ltd. ei le yn 1993, symudodd Sbectel i'w ofod ei hun ar dudalennau 300-399 o dan reolaeth uniongyrchol S4C.

Yn 2003, symudodd Sbectel i dudalennau 400-499 (gan gymryd lle tudalennau 300-399 fel gofod S4C). Roedd hyn oherwydd fod Channel 4 (a oedd yn rhannu amser darlledu ar sianel 4 analog yng Nghymru gyda S4C) yn cau lawr eu gwasanaeth hwy a oedd yn gyfatebol i Sbectel, FourText (4-Tel gynt), a lawnsiwyd gwasanaeth teletestun newydd ar y cyd â cwmni Teletext Ltd, Teletext on 4, ar dudalennau 400-499.

Ym mis Medi 2007, lawnsiwyd gwasanaeth testun digidol, ar gyfer gwyliwyr Freeview yng Nghymru, ar sianel S4C Digidol.

Daeth y gwasanaeth i ben ar 9 Medi 2009 oherwydd bod prinder o le er mwyn cyflenwi gwasanaeth digidol.[1]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
  • Téacs TG4 - gwasanaeth teletestun Gwyddelig yn yr Iwerddon

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  1. "Ceefax Cymraeg yn darfod", Golwg, 18 Mehefin 2009.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]