Sambia
Gweriniaeth Sambia Icitungu ca Zambia (Bembaeg) | |
Arwyddair | Un Sambia, Un Genedl |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gweriniaeth, gwlad dirgaeedig, gwlad |
Prifddinas | Lusaka |
Poblogaeth | 19,610,769 |
Sefydlwyd | 24 Hydref 1964 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr (y DU)) |
Anthem | Saf a Chana am Sambia, yn Falch ac yn Rhydd |
Pennaeth llywodraeth | Edgar Lungu |
Cylchfa amser | UTC+2, Africa/Lusaka |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canolbarth Affrica, De Affrica, Dwyrain Affrica |
Arwynebedd | 752,618 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Simbabwe, Tansanïa, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Malawi, Mosambic, Namibia, Angola, Botswana |
Cyfesurynnau | 14°S 28°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Cabinet Sambia |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Sambia |
Pennaeth y wladwriaeth | Hakainde Hichilema |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Sambia |
Pennaeth y Llywodraeth | Edgar Lungu |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $22,148 million, $29,784 million |
Arian | Kwacha Sambia |
Canran y diwaith | 13 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 5.353 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.565 |
Gwlad tirgaeedig yn Affrica yw Gweriniaeth Sambia neu Sambia. Gwledydd cyfagos yw Namibia i’r gorllewin, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo a Tansanïa i'r gogledd, Malawi a Mosambic i'r dwyrain, ac Angola a Simbabwe i'r de. Mae hi'n annibynnol ers 1964.
Prifddinas Sambia yw Lusaka.
Gwladychwyd y rhanbarth gan Brydeinwyr yn y 19g i ddod yn ddwy brotectoriaeth, sef "Barotziland–North-Western Rhodesia" a "North-Eastern Rhodesia". Unwyd y rhain yn 1911 i ffurfio Gogledd Rhodesia. Am y rhan fwyaf o'r cyfnod hwn, roedd y wlad yn cael ei llywodraethu gan weinyddiaeth a benodwyd o Lundain gyda chyngor y British South Africa Company.
Daeth Sambia yn annibynnol ar y Deyrnas Unedig ar 24 Hydref 1964 , a daeth y prif weinidog Kenneth Kaunda ei harlywydd cyntaf. Daliodd plaid sosialaidd Kaunda (United National Independence Party, UNIP) rym o 1964 hyd 1991. O 1972 i 1991 roedd Sambia yn wladwriaeth un-blaid, gydag UNIP fel yr unig blaid wleidyddol gyfreithiol. Yn dilyn etholiad amlbleidiol yn 1991 olynwyd Kaunda gan Frederick Chiluba o’r Movement for Multi-Party Democracy (MMD) , ac ers hynny mae Sambia wedi bod yn wladwriaeth amlbleidiol ac wedi profi sawl trawsnewidiad heddychlon o rym.