Rose Dugdale
Rose Dugdale | |
---|---|
Ganwyd | 25 Mawrth 1941 Honiton |
Bu farw | 18 Mawrth 2024 Dulyn |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | lleidr celf |
Tad | James Frederic Compton Dugdale |
Mam | Caroline Timmis |
Roedd Bridget Rose Dugdale (25 Mawrth 1941 – 18 Mawrth 2024) yn Saesnes o deulu aristocrataidd a ddaeth yn wirfoddolwr yn y mudiad gweriniaethol Gwyddelig milwriaethus, y Fyddin Weriniaethol Iwerddon Dros Dro (IRA).[1] Fel aelod o’r IRA, cymerodd ran mewn lladrad paentiadau gwerth IR£8 miliwn, ymosodiad bom ar orsaf Heddlu Brenhinol Ulster (RUC) a gweithredoedd terfysgol eraill.[2] [3] Priododd â Eddie Gallagher ym 1978.
Ar ôl iddi gael ei rhyddhau o'r carchar, bu Dugdale yn weithgar yn yr ymgyrch ar ran carcharorion gweriniaethol Gwyddelig yn ystod streic newyn Iwerddon yn 1981.[4]
O ganol y 1980au i'r 2000au cynnar, gyda Jim Monaghan, datblygodd bomiau ac arfau cartref. Galwyd un yn "lansiwr bisgedi" [5] (mae un ohonynt yn Amgueddfa Genedlaethol y Fyddin yn Chelsea).[6]
Mewn cyfweliad gyda'r papur newydd gweriniaethol An Phoblacht yn 2011, dwedodd Dugdale ei bod yn credu bod "y fyddin chwyldroadol, sef yr IRA, wedi cyflawni ei phrif amcan, sef cael eich gelyn i drafod gyda chi."[7]
Hyd at ei marwolaeth, roedd Dugdale yn byw mewn cartref gofal yn Nulyn.[6] Bu farw yno, yn 82 oed.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rose Dugdale: The English heiress who joined the IRA". BBC News (yn Saesneg). 19 Mawrth 2024. Cyrchwyd 20 Mawrth 2024.
- ↑ Jackson, Richard; Jarvis, Lee; Gunning, Jeroen; Breen-Smyth, Marie (2011). Terrorism: A Critical Introduction. Macmillan International Higher Education. t. 114. ISBN 978-0-230-36432-5.[dolen farw]
- ↑ O'Hagan, Sean (10 Mawrth 2024). "The enigma of Rose Dugdale: what drove a former debutante to become Britain and Ireland's most wanted terrorist?". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mawrth 2024. Cyrchwyd 10 Mawrth 2024.
- ↑ Beresford, David (1987). Ten Men Dead. Atlantic Monthly Press. t. 198. ISBN 0-87113-702-X.
- ↑ "The IRA's recoilless improvised grenade launcher". The Firearm Blog. 13 Hydref 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mawrth 2024. Cyrchwyd 10 Mawrth 2024. Detailed technical article on the "biscuit launcher".
- ↑ 6.0 6.1 O'Hagan, Sean (10 Mawrth 2024). "The enigma of Rose Dugdale: what drove a former debutante to become Britain and Ireland's most wanted terrorist?". The Observer. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mawrth 2024. Cyrchwyd 10 Mawrth 2024.
- ↑ "DUBLIN VOLUNTEERS DINNER DANCE 2011 HONOUREE – ROSE DUGDALE – An Phoblacht". www.anphoblacht.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Hydref 2017. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2017.
- ↑ "English heiress turned IRA member Rose Dugdale dies". RTÉ.ie (yn Saesneg). 18 Mawrth 2024. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mawrth 2024. Cyrchwyd 18 Mawrth 2024.