Riviera
Gwedd
- Gair Eidaleg yn golygu "arfordir" yw riviera.
- Gall "La Riviera" fod yn gyfystyr a Liguria.
- Mae'r Riviera gwirioneddol yn ymestyn o borthladd Nice, yn Ffrainc drwy Monaco hyd at fae La Spezia yn yr Eidal. Dyma lle fydd yr Alpau a'r Appennini'n cyrraedd y Môr Canoldir.
- Ar y llaw arall, mae Riviera yn golygu rhyw 650 Km (400 o filltiroedd) o arfordir sy'n ymestyn o Les Leques, ger St-Cyr-sur-Mer yn Ffrainc drwy Monaco hyd at Marinella, ger La Spezia yn yr Eidal.
- Prif ddinas y Riviera yw Genova yn yr Eidal.
- Prif ddinas y Riviera Ffrengig yw Nice (Nissa). Mae Nice wedi ei llysenwi "Brenhines y Riviera".
- Fe fydd rhai'n defnyddio'r gair "riviera" hefyd i ddisgrifio unrhyw arfordir tebyg i'r uchod, fel ardal Acapulco yn Mecsico neu arfordir de Cernyw a Dyfnaint.
Yr hinsawdd
[golygu | golygu cod](Prif erthygl : Hinsawdd y Riviera)
Mae hinsawdd arbennig ar y Riviera gan ei fod ger y Môr Canoldir a gan fod y mynyddoedd sy'n union i'r gogledd yn ei gysgodi yn erbyn gwyntoedd oer y gaeaf
Adrannau'r Riviera
[golygu | golygu cod]Mae arfordir tair gwlad ar y Riviera; Ffrainc, yr Eidal a Monaco.
Côte-d'Azur (arfordir glas y ffurfafen) yw enw Riviera Ffrainc a Monaco. Y bardd Stephen Liégard a rhoddodd yr enw hwn arno pan ddisgynodd o'r trên yn Hyères-Plage ac fe welodd lliw y môr. Mae'r Saeson wedi rhoi'r enw "French Riviera" ar y Côte-d'Azur.
Gelwir Riviera'r Eidal yn Liguria, ar ôl y Ligure, llwyth hynafol a gafodd eu difodi gan y Rhufeiniaid yn 122 C.C..
Gellir rhannu'r Riviera'n bellach
[golygu | golygu cod]Côte-d'Azur (Ffrainc a Monaco);-
- Adran y Var : prifddinas Toulon.
- Adran Alpes-Maritimes : prifddinas Nice.
- Tywysogaeth Monaco.
- Riviera di Ponente (arfordir machlud haul) : taleithiau Imperia a Savona.
- Riviera di Levante (arfordir codiad haul) : taleithiau Genova a La Spezia.