Rio Grande
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Colorado, Mecsico Newydd, Texas, Chihuahua, Coahuila, Nuevo León, Tamaulipas |
Gwlad | Mecsico UDA |
Cyfesurynnau | 37.7978°N 107.5384°W, 25.9562°N 97.1452°W |
Aber | Gwlff Mecsico |
Llednentydd | Afon Pecos, Rio Conchos, Alamito Creek, Afon Alamosa, Chacon Creek, Afon Conejos, Culebra Creek, Rio Salado, Afon Jemez, Afon Red, Rio Chama, Rio Hondo, Rio Pueblo de Taos, Rio Puerco, Rio Salado, San Francisco Creek, San Ildefonso Creek, Santa Isabel Creek, Sombrerillito Creek, Terlingua Creek, Zacate Creek, South Fork Rio Grande, Trinchera Creek, Afon Santa Fe, Maravillas Creek, Río San Juan (Nuevo León), Galisteo Creek |
Dalgylch | 471,900 cilometr sgwâr |
Hyd | 3,051 cilometr |
Arllwysiad | 85 metr ciwbic yr eiliad |
Afon yn Unol Daleithiau America a Mecsico yw'r Rio Grande, a adnabyddir ym Mecsico fel y Río Bravo del Norte neu Río Bravo. Hu yw'r bedwaredd hwyaf ymhlith afonydd yr Unol Daleithiau.
Ceir tarddle'r afon yn Fforest Genedlaethol y Rio Grande yn nhalaith Colorado. Mae'n llifo tua'r de trwy dalaith New Mexico. Wedi croesi i dalaith Texas ger El Paso, mae'n llifo tua'r de-ddwyrain gan ffurfio'r ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico yr holl ffordd i'w haber yng Ngwlff Mecsico. Ymhlith yr afonydd sy'n llifo i mewn iddi mae'r Río Conchos ac afon Pecos.
Y prif groesfannau dros yr afon rhwng y ddwy wlad yw Ciudad Juárez ac El Paso; Presidio, Texas, ac Ojinaga, Chihuahua; Laredo, Texas, a Nuevo Laredo, Tamaulipas; McAllen-Hidalgo, Texas, a Reynosa, Tamaulipas; a Brownsville, Texas, a Matamoros, Tamaulipas.